2014 Rhif 2124 (Cy. 208)
Anifeiliaid, Cymru
Atal Creulondeb

Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2014

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd2 ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau hynny.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn1.

Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)

yn dwyn yr enw Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2014;

(b)

yn gymwys o ran Cymru ac o ganlyniad i hynny mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2—

(i)

yn ymestyn i Gymru a Lloegr; a

(ii)

yn gymwys o ran Cymru yn unig; ac

(c)

yn dod i rym ar 5 Medi 2014.

Diwygiadau canlyniadol2.

(1)

Yn adran 10 o Ddeddf Drylliau 19683 (cigydda anifeiliaid)—

(a)

yn is-adran (1), yn lle “licensed under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995 to slaughter horses, cattle, sheep, swine or goats” rhodder “holding a relevant licence”; a

(b)

ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

“(1A)

For the purposes of subsection (1) a person holds a relevant licence if that person—

(a)

is licensed under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995 to slaughter horses, cattle, sheep, swine or goats; or

(b)

holds a certificate of competence or is licensed under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014.”

(2)

Yn adran 16(1)(c) o Ddeddf Lladd-dai 19744 (rheoli lladd-dai cyhoeddus), ar ôl “the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995” mewnosoder “or the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014”.

(3)

Yn Atodlen 1 i Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 19865 (dulliau priodol o ladd heb boen), yn Nhabl A, yn y golofn ar y chwith o’r pumed cofnod, ar ôl “a current licence granted under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995” mewnosoder “or a certificate of competence or licence issued under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014”.

(4)

Ym mharagraff 12 o’r Atodlen i Reoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 20136—

(a)

dileer y gair “or” ar ôl is-baragraff (a); a

(b)

ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder

“or;

(c)

a certificate of competence or licence to kill animals under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014.”

Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd, o dan awdurdod y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ganlyniad i Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/951) (Cy. 92).

Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i dair Deddf Seneddol ac un offeryn statudol i ddarparu bod y Deddfau hynny a’r offeryn hwnnw yn cyfeirio at dystysgrifau cymhwysedd a thrwyddedau a ddyroddir o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014.

Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â’r offeryn hwn, gan na ragwelir costau i’r sector busnes na’r sector gwirfoddol.