NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r gorchymyn cychwyn cyntaf o dan Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 15 Awst 2014 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau o’r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:

  • adran 9 (pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf);

  • adran 12(13) (pŵer i wneud rheoliadau i ragnodi amodau sydd i’w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi’r person i roi hysbysiadau cosbau penodedig o dan y Ddeddf);

  • adran 13(3) (pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â swm y cosbau penodedig);

  • adran 13(4) (pwerau i’w gwneud yn ofynnol bod swm cosb benodedig yn dod o fewn ystod a ragnodir ac i gyfyngu i ba raddau y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan adran 13(1)(b) o’r Ddeddf a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny); ac

  • adran 16 (pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf).

Daeth adrannau 18(1) (pŵer i roi canllawiau), 21 (gorchmynion a rheoliadau), 22 (cychwyn), a 23 (enw byr) o’r Ddeddf i rym ar 30 Tachwedd 2012.