Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y meysydd dysgu perthnasol” (“the relevant areas of learning”) yw—

(a)

sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu; a

(b)

datblygiad mathemategol;

ystyr “y pynciau perthnasol” (“the relevant subjects”) yw—

(a)

Saesneg;

(b)

Cymraeg; ac

(c)

Mathemateg;

ystyr “y rhaglenni addysgol” (“the educational programmes”) yw’r rhaglenni addysgol hynny y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013(1); ac

ystyr “y rhaglenni astudio” (“the programmes of study”) yw’r rhaglenni astudio hynny y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 2 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at y cyfnod sylfaen i’w ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf Addysg 2002.

(3Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol i’w dehongli yn unol ag adran 103(1)(b) ac (c) o Ddeddf Addysg 2002.