xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
23 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym
1 Medi 2014
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014 a daw i rym ar 1 Medi 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y meysydd dysgu perthnasol” (“the relevant areas of learning”) yw—
sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu; a
datblygiad mathemategol;
ystyr “y pynciau perthnasol” (“the relevant subjects”) yw—
Saesneg;
Cymraeg; ac
Mathemateg;
ystyr “y rhaglenni addysgol” (“the educational programmes”) yw’r rhaglenni addysgol hynny y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013(3); ac
ystyr “y rhaglenni astudio” (“the programmes of study”) yw’r rhaglenni astudio hynny y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 2 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at y cyfnod sylfaen i’w ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf Addysg 2002.
(3) Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol i’w dehongli yn unol ag adran 103(1)(b) ac (c) o Ddeddf Addysg 2002.
3. Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i bob disgybl yn y cyfnod sylfaen gael ei asesu drwy gydol y flwyddyn gan athro neu athrawes at y diben o fonitro a chefnogi cynnydd addysgol y disgybl mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol ar gyfer y meysydd dysgu perthnasol.
4. Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i bob disgybl yn yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol gael ei asesu drwy gydol y flwyddyn gan athro neu athrawes at y diben o fonitro a chefnogi cynnydd addysgol y disgybl mewn perthynas â’r rhaglenni astudio ar gyfer y pynciau perthnasol.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae adran 108(2)(b)(iii) a (3)(c) o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi drwy Orchymyn drefniadau asesu mewn cysylltiad â’r cyfnod sylfaen a’r cyfnodau allweddol.
Mae’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid ysgolion a gynhelir wneud trefniadau i bob disgybl yn y cyfnod sylfaen gael ei asesu drwy gydol y flwyddyn gan athro neu athrawes at y diben o fonitro a chefnogi cynnydd addysgol y disgybl mewn cysylltiad â’r rhaglenni addysgol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013 (“Gorchymyn 2013”) (erthygl 3).
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid ysgolion a gynhelir wneud trefniadau i bob disgybl yn yr ail gyfnod allweddol a’r trydydd cyfnod allweddol gael ei asesu drwy gydol y flwyddyn gan athro neu athrawes at y diben o fonitro a chefnogi cynnydd addysgol y disgybl mewn cysylltiad â’r rhaglenni astudio y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 2 o Orchymyn 2013 (erthygl 4).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cwricwlwm, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr adrannau yn Neddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).