Gorchymyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (Cychwyn) 2014

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1706 (Cy. 171) (C. 72)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (Cychwyn) 2014

Gwnaed

1 Gorffennaf 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 11(2) a (3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (Cychwyn) 2014.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Awst 2014

2.  Y diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adran 3 o’r Ddeddf i rym at ddiben gwneud rheoliadau yw 1 Awst 2014.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2014

3.  Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym yw 1 Medi 2014—

(a)adran 1 (benthyca a buddsoddi gan gorfforaethau addysg bellach);

(b)adran 2 (offeryn ac erthyglau llywodraethu corfforaethau addysg bellach);

(c)adran 3 (diddymu corfforaethau addysg bellach) i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2;

(d)adran 4 (sefydliadau dynodedig: offeryn ac erthyglau llywodraethu);

(e)adran 5 (ymyrraeth gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â sefydliadau o fewn y sector addysg bellach);

(f)adran 6 (diddymu dyletswyddau sefydliadau addysg bellach i gydymffurfio â chyfarwyddiadau);

(g)adran 7 (diddymu pŵer i reoleiddio cyrsiau addysg uwch yn y sector addysg bellach);

(h)adran 8 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);

(i)adran 10 (adolygu gweithrediad y Ddeddf).

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Un o Weinidogion Cymru

1 Gorffennaf 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r unig orchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym adran 3 o’r Ddeddf ar 1 Awst 2014 at ddiben gwneud rheoliadau.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym bob darpariaeth o’r Ddeddf sy’n weddill ar 1 Medi 2014, ac eithrio’r darpariaethau hynny yn y Ddeddf a gychwynnwyd pan gafodd y Cydsyniad Brenhinol yn unol ag adran 11 o’r Ddeddf.