2014 Rhif 1706 (Cy. 171) (C. 72)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (Cychwyn) 2014

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 11(2) a (3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 20141 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (Cychwyn) 2014.

2

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Awst 20142

Y diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adran 3 o’r Ddeddf i rym at ddiben gwneud rheoliadau yw 1 Awst 2014.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 20143

Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym yw 1 Medi 2014—

a

adran 1 (benthyca a buddsoddi gan gorfforaethau addysg bellach);

b

adran 2 (offeryn ac erthyglau llywodraethu corfforaethau addysg bellach);

c

adran 3 (diddymu corfforaethau addysg bellach) i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2;

d

adran 4 (sefydliadau dynodedig: offeryn ac erthyglau llywodraethu);

e

adran 5 (ymyrraeth gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â sefydliadau o fewn y sector addysg bellach);

f

adran 6 (diddymu dyletswyddau sefydliadau addysg bellach i gydymffurfio â chyfarwyddiadau);

g

adran 7 (diddymu pŵer i reoleiddio cyrsiau addysg uwch yn y sector addysg bellach);

h

adran 8 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);

i

adran 10 (adolygu gweithrediad y Ddeddf).

Huw LewisY Gweinidog Addysg a Sgiliau Un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r unig orchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym adran 3 o’r Ddeddf ar 1 Awst 2014 at ddiben gwneud rheoliadau.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym bob darpariaeth o’r Ddeddf sy’n weddill ar 1 Medi 2014, ac eithrio’r darpariaethau hynny yn y Ddeddf a gychwynnwyd pan gafodd y Cydsyniad Brenhinol yn unol ag adran 11 o’r Ddeddf.