Mae Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer staffio ysgolion a gynhelir.
Mae rheoliad 7(3) a (4) o Reoliadau 2006 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymchwilio’n annibynnol i honiadau o natur amddiffyn plant yn erbyn aelodau o staff ysgol. Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu’r darpariaethau hynny (rheoliad 2(2) a (3)) ac yn diwygio ymhellach Reoliadau 2006 er mwyn gwneud darpariaeth newydd ar gyfer ymchwilio’n annibynnol i honiadau o achosi niwed i ddisgybl cofrestredig yn erbyn aelodau o staff ysgol (rheoliad 2(4)).
Mae rheoliad 10 o Reoliadau 2006 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phenodi penaethiaid a dirprwyon mewn ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir. Mae rheoliad 2(5) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r darpariaethau hynny i adlewyrchu dyfodiad i rym Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (“y Rheoliadau Ffedereiddio”).
Yn yr un modd, mae rheoliad 24 o Reoliadau 2006 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phenodi penaethiaid a dirprwyon mewn ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig. Mae rheoliad 2(6) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r darpariaethau hynny oherwydd dyfodiad i rym y Rheoliadau Ffedereiddio.
Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfansoddiad cyrff llywodraethu a’u gweithdrefnau. Mae rheoliad 55 o Reoliadau 2005 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhai swyddogaethau disgyblu penodol o gyrff llywodraethu yn cael eu dirprwyo i bwyllgor disgyblu a diswyddo staff ac i bwyllgor apelau disgyblu a diswyddo. Yn benodol, mae rheoliad 55(3) o Reoliadau 2005 yn darparu, pan fo honiad yn ymwneud â materion sydd o natur amddiffyn plant rhaid i aelodaeth y pwyllgor gynnwys person annibynnol. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 55(3) o Reoliadau 2005 er mwyn hepgor cyfeiriad at “materion amddiffyn plant” ac mewnosod rheoliad newydd 55(3) a (3A) sy’n adlewyrchu’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 2006 gan reoliad 2(4) o’r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 55(4A) o Reoliadau 2005 yn nodi’r amgylchiadau pan na fo person i gael ei ystyried yn annibynnol at ddibenion rheoliad 55(3) o Reoliadau 2005. Mae rheoliad 3(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd (4A) i mewn i Reoliadau 2005 er mwyn adlewyrchu’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 2006 gan reoliad 2(4) o’r Rheoliadau hyn.