Darpariaethau sy’n dod i rym ar 14 Gorffennaf 2014

2.  Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 i rym yw 14 Gorffennaf 2014—

(a)adran 42 (dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol);

(b)adran 44 (swyddogaethau addysg awdurdodau lleol yn arferadwy gan y personau a gyfarwyddir);

(c)adran 48 (mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan baragraff 1(1), (2) a (6) o Atodlen 3; a

(d)paragraff 1(1), (2) a (6) o Atodlen 3.