8. Yn rheoliad 9 (ymchwilio i gamymddwyn honedig)—
(a)yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Ar ôl i awdurdod perthnasol ymgorffori darpariaethau yn y rheolau sefydlog yn unol â rheoliad 8, os yw’n ymddangos i’r awdurdod perthnasol bod honiad o gamymddwyn a all arwain at gamau disgyblu wedi cael ei wneud yn erbyn swyddog perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol benodi pwyllgor (“pwyllgor ymchwilio”) i ystyried y camymddwyn honedig.
(1A) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “swyddog perthnasol” (“relevant officer”) yw—
(a)pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;
(b)ei swyddog monitro;
(c)ei brif swyddog cyllid;
(ch)ei bennaeth gwasanaethau democrataidd; neu
(d)swyddog a oedd yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a) i (ch), ond nad yw bellach, ar adeg penodi’r pwyllgor ymchwilio, yn swyddog o’r fath, pan fo’r camymddwyn honedig wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn yr is-baragraffau hynny.”;
(b)ym mharagraff (5)(b) yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru”; ac
(c)hepgorer paragraff (11).