2014 Rhif 1462 (Cy. 143)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 32B a 210 o Ddeddf Addysg 20021, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 2 Medi 2014.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr un ystyr ag “appropriate diocesan authority” yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “corff crefyddol priodol” (“appropriate religious body”) yw—

    1. a

      yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, neu ysgol arfaethedig o’r fath, yr awdurdod esgobaethol priodol, a

    2. b

      yn achos ysgolion eraill neu ysgolion arfaethedig eraill, y corff sy’n cynrychioli’r grefydd neu’r enwad crefyddol a nodir, neu y bwriedir iddo gael ei nodi, mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

    ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.

Ymgynghori3

1

Rhaid i gyfnod a dull ymgynghori Gweinidogion Cymru fod yn unol â’r tabl yn yr Atodlen.

2

Yn achos amheuaeth o ran y dyddiad y cafodd Gweinidogion Cymru hysbysiad am y digwyddiad neu’r amgylchiadau a arweiniodd at y cyfarwyddyd tybir mai’r dyddiad yw’r dyddiad hwnnw y penderfynir yn rhesymol arno gan Weinidogion Cymru.

3

Pan fo rhes 5 o’r tabl yn yr Atodlen yn gymwys caiff Gweinidogion Cymru benderfynu na fydd ymgynghoriad o’r fath yn cael ei gynnal.

Personau i ymgynghori â hwy4

1

Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y cyfarwyddyd mewn drafft â’r canlynol—

a

pob awdurdod lleol yng Nghymru;

b

cyrff llywodraethu pob ysgol wirfoddol a gynorthwyir a phob ysgol sefydledig yng Nghymru;

c

cyrff llywodraethu 10% o bob ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir ac ysgol feithrin a gynhelir;

d

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;

e

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru;

f

y corff crefyddol priodol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru ag iddi gymeriad crefyddol;

g

Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig;

h

Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

i

Comisiynydd Plant Cymru; a

j

pob corff sy’n cynrychioli buddiannau aelodau o staff ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

2

Pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnal ymgynghoriad yn unol â rhes 5 o’r tabl yn yr Atodlen rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn eu hystyried yn briodol.

Huw LewisY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENCyfnod a dull ymgynghori

Rheoliad 3

Y cyfnod hysbysu a gaiff Gweinidogion Cymru am y dyddiadau tymhorau yr effeithir arnynt gan y digwyddiadau neu’r amgylchiadau sy’n arwain at y cyfarwyddyd

Y cyfnod ymgynghori ar y cyfarwyddyd

Y dull ymgynghori ar y cyfarwyddyd

1 flwyddyn neu’n fwy

O leiaf 12 wythnos

Drwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a thrwy unrhyw ffyrdd eraill, os oes rhai, y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol

1 flwyddyn neu’n llai ond yn fwy na 6 mis

O leiaf 6 wythnos

Drwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru

6 mis neu’n llai ond yn fwy na 3 mis

O leiaf 3 wythnos

Drwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru

3 mis neu’n llai ond yn fwy na 4 wythnos

O leiaf 1 wythnos

Drwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru

4 wythnos neu’n llai

Unrhyw gyfnod ymgynghori, os oes un, y mae Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn ei ystyried yn briodol

Unrhyw ddull ymgynghori, os oes un, y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mewnosodwyd adrannau 32A i 32C i Ddeddf Addysg 2002 gan adran 42 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 ac mae’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â phennu dyddiadau tymhorau ysgol a sesiynau ysgol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Mae adran 32B yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig i benderfynu ar y dyddiadau tymhorau ysgol hynny a bennir yn y cyfarwyddyd.

Cyn gwneud unrhyw gyfarwyddyd o’r fath mae adran 32B(3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal unrhyw ymgynghoriad sy’n briodol yn eu barn hwy. Mae adran 32AB(4) yn darparu ymhellach y caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth ynghylch yr ymgynghoriad hwnnw y maent yn ei hystyried yn briodol.

Yn unol â hynny, mae’r Rheoliadau hyn yn nodi cyfnod a dull yr ymgynghoriad gan gynnwys pa bryd nad oes angen ymgynghoriad o bosibl (rheoliad 3 a’r Atodlen) ac â phwy y mae rhaid ymgynghori (rheoliad 4).