Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1462 (Cy. 143)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014

Gwnaed

4 Mehefin 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Mehefin 2014

Yn dod i rym

2 Medi 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 32B a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 2 Medi 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr un ystyr ag “appropriate diocesan authority” yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr “corff crefyddol priodol” (“appropriate religious body”) yw—

(a)

yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, neu ysgol arfaethedig o’r fath, yr awdurdod esgobaethol priodol, a

(b)

yn achos ysgolion eraill neu ysgolion arfaethedig eraill, y corff sy’n cynrychioli’r grefydd neu’r enwad crefyddol a nodir, neu y bwriedir iddo gael ei nodi, mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.

Ymgynghori

3.—(1Rhaid i gyfnod a dull ymgynghori Gweinidogion Cymru fod yn unol â’r tabl yn yr Atodlen.

(2Yn achos amheuaeth o ran y dyddiad y cafodd Gweinidogion Cymru hysbysiad am y digwyddiad neu’r amgylchiadau a arweiniodd at y cyfarwyddyd tybir mai’r dyddiad yw’r dyddiad hwnnw y penderfynir yn rhesymol arno gan Weinidogion Cymru.

(3Pan fo rhes 5 o’r tabl yn yr Atodlen yn gymwys caiff Gweinidogion Cymru benderfynu na fydd ymgynghoriad o’r fath yn cael ei gynnal.

Personau i ymgynghori â hwy

4.—(1Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y cyfarwyddyd mewn drafft â’r canlynol—

(a)pob awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)cyrff llywodraethu pob ysgol wirfoddol a gynorthwyir a phob ysgol sefydledig yng Nghymru;

(c)cyrff llywodraethu 10% o bob ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir ac ysgol feithrin a gynhelir;

(d)Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;

(e)Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru;

(f)y corff crefyddol priodol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru ag iddi gymeriad crefyddol;

(g)Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig;

(h)Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(i)Comisiynydd Plant Cymru; a

(j)pob corff sy’n cynrychioli buddiannau aelodau o staff ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnal ymgynghoriad yn unol â rhes 5 o’r tabl yn yr Atodlen rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn eu hystyried yn briodol.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

4 Mehefin 2014

Rheoliad 3

YR ATODLENCyfnod a dull ymgynghori

Y cyfnod hysbysu a gaiff Gweinidogion Cymru am y dyddiadau tymhorau yr effeithir arnynt gan y digwyddiadau neu’r amgylchiadau sy’n arwain at y cyfarwyddydY cyfnod ymgynghori ar y cyfarwyddydY dull ymgynghori ar y cyfarwyddyd
1 flwyddyn neu’n fwyO leiaf 12 wythnosDrwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a thrwy unrhyw ffyrdd eraill, os oes rhai, y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol
1 flwyddyn neu’n llai ond yn fwy na 6 misO leiaf 6 wythnosDrwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru
6 mis neu’n llai ond yn fwy na 3 misO leiaf 3 wythnosDrwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru
3 mis neu’n llai ond yn fwy na 4 wythnosO leiaf 1 wythnosDrwy gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru
4 wythnos neu’n llaiUnrhyw gyfnod ymgynghori, os oes un, y mae Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn ei ystyried yn briodolUnrhyw ddull ymgynghori, os oes un, y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mewnosodwyd adrannau 32A i 32C i Ddeddf Addysg 2002 gan adran 42 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 ac mae’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â phennu dyddiadau tymhorau ysgol a sesiynau ysgol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Mae adran 32B yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol sefydledig i benderfynu ar y dyddiadau tymhorau ysgol hynny a bennir yn y cyfarwyddyd.

Cyn gwneud unrhyw gyfarwyddyd o’r fath mae adran 32B(3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal unrhyw ymgynghoriad sy’n briodol yn eu barn hwy. Mae adran 32AB(4) yn darparu ymhellach y caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth ynghylch yr ymgynghoriad hwnnw y maent yn ei hystyried yn briodol.

Yn unol â hynny, mae’r Rheoliadau hyn yn nodi cyfnod a dull yr ymgynghoriad gan gynnwys pa bryd nad oes angen ymgynghoriad o bosibl (rheoliad 3 a’r Atodlen) ac â phwy y mae rhaid ymgynghori (rheoliad 4).

(1)

2002 p. 32. Mewnosodwyd adran 32B gan adran 42 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (dccc 5). Diwygiwyd adran 210(7) gan adran 21(3)(c)(i) a (ii) o Fesur Teithio gan Deithwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Trosglwyddwyd swyddogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 210 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources