Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Darfodol) (Cymru) 2014

Darpariaethau darfodol: adfer meddiant tai annedd

3.—(1Mae’r erthygl hon yn gwneud addasiadau darfodol i Ddeddf Tai 1985(1) a 1988(2) fel y maent yn gymwys yng Nghymru, i fod yn effeithiol o 13 Mai 2014 ymlaen.

(2Hyd nes i adrannau 94 i 97 o Ddeddf 2014 (seiliau absoliwt dros feddiant) ddod i rym yng Nghymru, mae Deddf Tai 1985 i’w darllen—

(a)yn adran 138 (dyletswydd landlord i drawsgludo rhydd-ddaliad neu i roi prydles)(3)

(i)yn is-adran (2A)(a) fel pe bai’r geiriau “or section 84A possession order” wedi eu hepgor;

(ii)yn is-adran (2B)(a) fel pe bai’r geiriau “or an operative section 84A possession order” wedi eu hepgor; a

(iii)yn is-adran (2C) fel pe bai’r diffiniadau o “operative section 84A possession order” a “section 84A possession order” wedi eu hepgor;

(b)yn Atodlen 1 (tenantiaethau nad ydynt yn denantiaethau diogel)(4), ym mharagraff 4ZA(12) (tenantiaethau ymyriad teuluol) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r diffiniad o “relevant possession order”—

“relevant possession order” means a possession order under section 84 that is made on ground 2, 2ZA or 2A of Part 1 of Schedule 2;.

(3Hyd nes i adrannau 94 i 97 o Ddeddf 2014 (seiliau absoliwt dros feddiant) ddod i rym yng Nghymru, yn Atodlen 1 i Ddeddf Tai Act 1988 (tenantiaethau na allant fod yn denantiaethau sicr)(5), mae paragraff 12ZA(3)(a)(i) (tenantiaethau ymyriad teuluol) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “ground 7A of Part 1 of Schedule 2 or” wedi eu hepgor.

(3)

Mewnosodwyd is-adrannau (2A) i (2C) gan adran 193(1) o Ddeddf Tai 2004 (p. 34) ac fe’u diwygir yn y dyfodol gan adran 100(1) o Ddeddf 2014.

(4)

Mewnosodwyd paragraff 4ZA gan adran 297(1) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) ac fe’i diwygir yn y dyfodol gan adran 181 o Ddeddf 2014, a pharagraff 12 o Atodlen 11 iddi.

(5)

Mewnosodwyd paragraff 12ZA gan adran 297(2) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 ac fe’i diwygir yn y dyfodol gan adran 181 o Ddeddf 2014, a pharagraff 20 o Atodlen 11 iddi.