(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (“Rheoliadau 1993”) yn gwneud darpariaeth ynghylch materion i’w cynnwys, a gwybodaeth i’w darparu, gyda hysbysiadau galw am dalu’r dreth gyngor a gyflwynir gan awdurdodau bilio Cymru neu ar eu rhan. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1993 er mwyn cymryd i ystyriaeth gyflwyniad cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor lleol yn unol â gofynion Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 neu sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 1993 yn galluogi cymryd y gostyngiadau a wneir yn unol â Rheoliadau 2013 i ystyriaeth wrth filio a gorfodi’r dreth gyngor.
Mae Rheoliad 3 yn rhoi cyfeiriadau at Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 yn lle’r cyfeiriadau yn Rheoliadau 1993 at Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013.
Darpariaethau arbed yw rheoliadau 4 a 5 sy’n darparu nad yw’r diwygiadau a wneir i reoliadau 1993 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 neu gynllun sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.