xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu dull o adnabod ysgol fach a gynhelir at ddibenion Pennod 1 o Ran 2 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”). Mae’r bennod honno yn nodi’r fframwaith statudol ar gyfer ffedereiddio ysgolion a gynhelir. Mae adran 11 o Fesur 2011 yn darparu y caiff awdurdod lleol wneud cynigion i ffedereiddio ysgolion ac nad yw darpariaethau penodol mewn perthynas â chyhoeddi ac ymgynghori yn gymwys i gynnig i ffedereiddio ysgolion bach yn unig.

Mae erthygl 2 yn darparu mai ysgol fach a gynhelir yw un sydd â llai na 91 o ddisgyblion cofrestredig ar y trydydd dydd Mawrth yn y mis Ionawr yn union cyn y dyddiad y gwneir y cynnig o dan adran 11 o Fesur 2011.