2014 Rhif 1133 (Cy. 112)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Addysg (Ysgolion Bach) (Cymru) 2014
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt yn adran 15 a 32 o Fesur Addysg (Cymru) 20111 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ysgolion Bach) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 22 Mai 2014.
Dull adnabod ysgolion bach a gynhelir yng Nghymru2
1
Mae’r erthygl hon yn diffinio ysgol fach a gynhelir yng Nghymru at ddibenion Pennod 1 o Ran 2 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”).
2
Ysgol fach a gynhelir yw ysgol sydd â llai na 91 o ddisgyblion cofrestredig ar y trydydd dydd Mawrth yn y mis Ionawr yn union cyn y dyddiad y gwneir y cynnig o dan adran 11 o Fesur 2011.
Huw LewisY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)