RHAN 3CATEGORÏAU O LYWODRAETHWYR

Staff-lywodraethwyr16

1

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “staff-lywodraethwr” (“staff governor”) yw person—

a

a etholir yn unol ag Atodlen 3 yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan bersonau a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal ac eithrio fel athro neu athrawes ysgol; a

b

sy’n berson sy’n gweithio felly ar yr adeg yr etholir y person hwnnw.

2

Pan fo’n peidio â gweithio mewn ysgol o fewn y ffederasiwn, anghymhwysir staff-lywodraethwr ysgol rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o’r fath.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anghymhwysir person rhag ei ethol yn staff-lywodraethwr ar gorff llywodraethu—

a

os etholwyd y person hwnnw yn flaenorol yn staff-lywodraethwr ar yr un corff llywodraethu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; neu

b

os cyflogir y person hwnnw i weithio yn yr un ysgol ffederal ag unrhyw berson a etholwyd yn staff-lywodraethwr ar y corff llywodraethu hwnnw yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

4

Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir i weithio mewn dwy neu ragor o ysgolion yn y ffederasiwn.