xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 22 Mai 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rhannau 1 i 13 o Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010((1)) (“Rheoliadau Ffedereiddio 2010”), ac Atodlenni 1 i 10 iddynt, wedi eu dirymu.
(2) Rhaid i ysgol sydd wedi ei ffedereiddio yn unol â Rheoliadau Ffedereiddio 2010 ailgyfansoddi ei chorff llywodraethu yn unol â’r Rheoliadau hyn pan fydd y cyntaf o’r canlynol yn digwydd—
(a)bod ysgol yn ymuno â’r ffederasiwn; neu
(b)o fewn blwyddyn ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(3) Hyd y cyntaf o’r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (2) caiff cyfansoddiad corff llywodraethu ysgol sydd wedi ei ffedereiddio barhau yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Ffedereiddio 2010.
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) i’w ddehongli yn unol â dehongliad “school teacher” yn adran 122 o Ddeddf 2002;
mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate diocesan authority” yn adran 142(1) a (4) o Ddeddf 1998;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r awdurdod lleol yng Nghymru sydd yn cynnal ysgol a gynhelir, neu sydd i gynnal ysgol arfaethedig; a phan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan wahanol awdurdodau lleol yng Nghymru, ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw’r awdurdod lleol sydd yn cynnal ysgol a gynhelir, neu sydd i gynnal ysgol arfaethedig;
ystyr “corff crefyddol priodol” (“appropriate religious body”) mewn perthynas ag ysgol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn un sydd o gymeriad crefyddol ac nad yw’n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru na’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yw’r corff y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol mewn perthynas â’r grefydd neu’r enwad crefyddol y perthyn yr ysgol iddi neu iddo;
ystyr “corff llywodraethu” (“governing body”) yw corff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan adran 19(1) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn fel y bo’n briodol;
ystyr “cyngor ysgol” (“school council”) yw cyngor a sefydlwyd yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Cynghorau Ysgol;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998((3));
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(4);
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;
ystyr “diwrnod” (“day”) yw diwrnod ysgol fel y’i diffinnir gan adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, nac yn ddydd Sul nac yn ddiwrnod sydd yn ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(5);
ystyr “y dyddiad ffedereiddio” (“the federation date”) yw’r dyddiad pan fo cyrff llywodraethu yn ffedereiddio;
ystyr “ffederasiwn awdurdod lleol” (“local authority federation”) yw ffederasiwn sy’n cynnwys o leiaf un ysgol ffederal sydd wedi ei ffedereiddio yn rhinwedd adran 11 o Fesur 2011 (cynigion gan awdurdodau lleol i ffedereiddio ysgolion) a chan y Rheoliadau hyn;
ystyr “Mesur 2011” (“the 2011 Measure”) yw Mesur Addysg (Cymru) 2011(6);
ystyr “pennaeth dros dro” (“acting head teacher”) yw person a benodir i gyflawni swyddogaethau pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal hyd nes penodir pennaeth neu yn absenoldeb y pennaeth;
ystyr “y Rheoliadau Cynghorau Ysgol” (“the School Council Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005(7);
ystyr “y Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir” (“the Government of Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(8);
ystyr “y Rheoliadau Staffio” (“the Staffing Regulations”) yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(9);
ystyr “y Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd” (“the New Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005(10);
ystyr “swyddogaethau cynigion trefniadaeth ysgolion” (“school organisation proposal functions”) yw’r swyddogaethau yn adrannau 42, 43, 45, 53 a 80 o Ddeddf 2013;
mae “ysgol fach” (“small school”) i’w dehongli yn unol â Gorchymyn a wneir o dan adran 15 o Fesur 2011; ac
mae i “ysgol newydd” (“new school”) yr un ystyr ag yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at—
(a)corff llywodraethu neu lywodraethwyr ysgol i’w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr y ffederasiwn; a
(b)offeryn llywodraethu ysgol i’w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at offeryn llywodraethu’r ffederasiwn; ac
(c)pennaeth yn cynnwys cyfeiriad at bennaeth dros dro.
O.S. 2005/2914 (Cy.211) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3200 (Cy.236)); a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (O.S. 2006/873 (Cy.81)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)), a chan Reoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy.206)), a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1142 (Cy.101)), a chan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2124 (Cy.207)).
O.S. 2006/873 (Cy.81) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/2708 (Cy.226)) a chan O.S. 2009/2544 (Cy.206) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3161 (Cy.275)) a chan O.S. 2010/1142 (Cy.101).
O.S. 2005/2912 (Cy.209) a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy.101).