xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 No. 1132 (Cy. 111)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014

Gwnaed

29 Ebrill 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Ebrill 2014

Yn dod i rym

22 Mai 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn adrannau 19(2), (3) ac (8), 20(2), (3) a (4A), 34(5), 35(4) a (5), 36(4) a (5), 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy((1)), a thrwy arfer eu pwerau yn adrannau 6, 10, 11, 12, 13, 14, 18 a 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011((2)), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1CYFLWYNIAD

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 22 Mai 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu, darpariaethau trosiannol ac arbedion

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rhannau 1 i 13 o Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010((3)) (“Rheoliadau Ffedereiddio 2010”), ac Atodlenni 1 i 10 iddynt, wedi eu dirymu.

(2Rhaid i ysgol sydd wedi ei ffedereiddio yn unol â Rheoliadau Ffedereiddio 2010 ailgyfansoddi ei chorff llywodraethu yn unol â’r Rheoliadau hyn pan fydd y cyntaf o’r canlynol yn digwydd—

(a)bod ysgol yn ymuno â’r ffederasiwn; neu

(b)o fewn blwyddyn ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(3Hyd y cyntaf o’r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (2) caiff cyfansoddiad corff llywodraethu ysgol sydd wedi ei ffedereiddio barhau yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Ffedereiddio 2010.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) i’w ddehongli yn unol â dehongliad “school teacher” yn adran 122 o Ddeddf 2002;

mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate diocesan authority” yn adran 142(1) a (4) o Ddeddf 1998;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r awdurdod lleol yng Nghymru sydd yn cynnal ysgol a gynhelir, neu sydd i gynnal ysgol arfaethedig; a phan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan wahanol awdurdodau lleol yng Nghymru, ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw’r awdurdod lleol sydd yn cynnal ysgol a gynhelir, neu sydd i gynnal ysgol arfaethedig;

ystyr “corff crefyddol priodol” (“appropriate religious body”) mewn perthynas ag ysgol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn un sydd o gymeriad crefyddol ac nad yw’n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru na’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yw’r corff y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol mewn perthynas â’r grefydd neu’r enwad crefyddol y perthyn yr ysgol iddi neu iddo;

ystyr “corff llywodraethu” (“governing body”) yw corff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan adran 19(1) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn fel y bo’n briodol;

ystyr “cyngor ysgol” (“school council”) yw cyngor a sefydlwyd yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Cynghorau Ysgol;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(4);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998((5));

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(6);

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;

ystyr “diwrnod” (“day”) yw diwrnod ysgol fel y’i diffinnir gan adran 579 o Ddeddf 1996;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, nac yn ddydd Sul nac yn ddiwrnod sydd yn ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(7);

ystyr “y dyddiad ffedereiddio” (“the federation date”) yw’r dyddiad pan fo cyrff llywodraethu yn ffedereiddio;

ystyr “ffederasiwn awdurdod lleol” (“local authority federation”) yw ffederasiwn sy’n cynnwys o leiaf un ysgol ffederal sydd wedi ei ffedereiddio yn rhinwedd adran 11 o Fesur 2011 (cynigion gan awdurdodau lleol i ffedereiddio ysgolion) a chan y Rheoliadau hyn;

ystyr “Mesur 2011” (“the 2011 Measure”) yw Mesur Addysg (Cymru) 2011(8);

ystyr “pennaeth dros dro” (“acting head teacher”) yw person a benodir i gyflawni swyddogaethau pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal hyd nes penodir pennaeth neu yn absenoldeb y pennaeth;

ystyr “y Rheoliadau Cynghorau Ysgol” (“the School Council Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005(9);

ystyr “y Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir” (“the Government of Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(10);

ystyr “y Rheoliadau Staffio” (“the Staffing Regulations”) yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(11);

ystyr “y Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd” (“the New Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005(12);

ystyr “swyddogaethau cynigion trefniadaeth ysgolion” (“school organisation proposal functions”) yw’r swyddogaethau yn adrannau 42, 43, 45, 53 a 80 o Ddeddf 2013;

mae “ysgol fach” (“small school”) i’w dehongli yn unol â Gorchymyn a wneir o dan adran 15 o Fesur 2011; ac

mae i “ysgol newydd” (“new school”) yr un ystyr ag yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at—

(a)corff llywodraethu neu lywodraethwyr ysgol i’w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr y ffederasiwn; a

(b)offeryn llywodraethu ysgol i’w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at offeryn llywodraethu’r ffederasiwn; ac

(c)pennaeth yn cynnwys cyfeiriad at bennaeth dros dro.

RHAN 2SEFYDLU NEU YMUNO Â FFEDERASIWN

Cyffredinol

4.—(1Caiff ffederasiwn gynnwys o leiaf ddwy ond dim mwy na chwech o’r canlynol—

(a)ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir(13) (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol);

(b)ysgolion sefydledig(14) (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol); neu

(c)ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir(15) (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol).

(2Mae rheoliadau 5 i 7 yn gymwys pan fo cyrff llywodraethu yn bwriadu ffedereiddio yn unol ag adran 10 o Fesur 2011.

(3Mae rheoliad 8 yn gymwys pan fwriedir sefydlu ysgol newydd a phan fo naill ai—

(a)y corff llywodraethu dros dro yn dymuno ffedereiddio ag un neu ragor o gyrff llywodraethu; neu

(b)yr awdurdod lleol neu, yn achos ysgol sydd i fod yn ysgol sefydledig neu wirfoddol ac y cyhoeddwyd cynigion ar gyfer ei sefydlu gan hyrwyddwyr, yr hyrwyddwyr yn cynnig y dylai’r ysgol fod yn ysgol ffederal.

(4Mae rheoliadau 9 a 10 yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn arfer ei bŵer i ffedereiddio ysgolion yn unol ag adran 11 o Fesur 2011.

(5Mae rheoliadau 11 a 12 yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn arfer ei bŵer i ffedereiddio ysgolion bach yn unol ag adran 11 o Fesur 2011.

Gweithdrefn ar gyfer ffedereiddio – a gynigir gan gorff llywodraethu

5.—(1Pan fo corff llywodraethu yn ystyried ffedereiddio, rhaid iddo yn gyntaf ystyried adroddiad ar y cynnig.

(2Rhaid i’r adroddiad gael ei bennu yn eitem ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod y rhoddir hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 57(4).

(3Pan fo corff llywodraethu yn cynnig y dylai ffedereiddio â chorff llywodraethu ffederasiwn, rhaid iddo roi hysbysiad o’r cynnig i gorff llywodraethu’r ffederasiwn.

(4Wedi iddo dderbyn yr hysbysiad, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn ystyried a ddylai—

(a)rhoi ei gydsyniad rhagarweiniol i’r corff llywodraethu ymuno â’r ffederasiwn; neu

(b)penderfynu na ddylai’r corff llywodraethu ymuno â’r ffederasiwn.

Cyhoeddi cynigion – a gynigir gan gorff llywodraethu

6.—(1Pan fo corff llywodraethu yn penderfynu y dylai ffedereiddio ag un neu ragor o gyrff llywodraethu eraill, a chydsyniad rhagarweiniol, pan fo’i angen, yn unol â rheoliad 5(4)(a), wedi ei roi, rhaid iddo, ar y cyd â’r corff neu gyrff llywodraethu eraill, gyhoeddi cynigion ar gyfer ffedereiddio.

(2Rhaid i’r cynigion gynnwys y canlynol—

(a)enw neu enwau’r corff neu gyrff llywodraethu y mae’r corff llywodraethu yn bwriadu ffedereiddio â hwy, a chadarnhad bod y corff neu gyrff llywodraethu hynny wedi penderfynu yn yr un modd i ffedereiddio;

(b)maint arfaethedig corff llywodraethu’r ffederasiwn;

(c)y nifer arfaethedig o lywodraethwyr ar gyfer pob categori o lywodraethwr;

(d)y trefniadau arfaethedig ar gyfer staffio’r ysgolion o fewn y ffederasiwn;

(e)y dyddiad ffedereiddio arfaethedig;

(f)enw’r awdurdod derbyn neu enwau’r awdurdodau derbyn ar gyfer yr ysgolion o fewn y ffederasiwn;

(g)erbyn pa ddyddiad, ar ôl cyfnod o ddim llai na chwe wythnos ar ôl cyhoeddi’r cynigion, y caniateir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r corff llywodraethu ynglŷn â’r cynigion, ac i ba gyfeiriad y dylid eu hanfon; a

(h)unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan y cyrff llywodraethu.

(3Rhaid i’r cyrff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio gyhoeddi’r cynigion drwy eu hanfon at—

(a)yr awdurdodau lleol perthnasol;

(b)pennaeth pob un o’r ysgolion;

(c)cyngor ysgol pob un o’r ysgolion;

(d)yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—

(i)y llywodraethwyr sefydledig; a

(ii)unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â’r ysgol;

(e)pan fo unrhyw rai o’r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu’r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o’r fath;

(f)yr holl staff y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion;

(g)pob person y gŵyr ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn unrhyw un o’r ysgolion;

(h)pob undeb llafur y gŵyr fod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac

(i)unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan y cyrff llywodraethu.

(4Rhaid rhoi copi o’r cynigion ar gael i edrych arnynt ar bob adeg resymol ym mhob un o’r ysgolion.

(5Rhaid i’r dyddiad ffedereiddio arfaethedig ym mharagraff (2)(e) beidio â bod yn llai na 125 o ddiwrnodau ar ôl cyhoeddi’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gan y corff llywodraethu yn unol â pharagraff (1).

Ystyried ymatebion i gynigion a phenderfynu a ddylid mynd ymlaen â hwy – a gynigir gan gorff llywodraethu

7.—(1Rhaid i’r cyrff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio ystyried ar y cyd unrhyw ymatebion i’r cynigion, a rhaid i bob corff llywodraethu benderfynu naill ai—

(a)mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio fel y’u cyhoeddwyd;

(b)mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gyda pha addasiadau bynnag a ystyrir yn briodol gan y corff llywodraethu; neu

(c)peidio â mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio.

(2Rhaid i’r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) beidio â chynnwys newid o ran pa gyrff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio.

(3Rhaid i’r holl gyrff llywodraethu sydd wedi penderfynu mynd ymlaen hysbysu, ar y cyd, yr awdurdod lleol neu’r awdurdodau lleol perthnasol o’r ffaith honno.

Ysgolion newydd sy’n dymuno ffedereiddio

8.—(1Pan gynigir bod ysgol newydd yn ffedereiddio ag un neu ragor o ysgolion neu â ffederasiwn, mae paragraff (2) neu (3) yn gymwys fel y bo’n briodol.

(2Pan fo corff llywodraethu dros dro wedi ei sefydlu, mae rheoliadau 5 i 7 yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at gorff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu dros dro sy’n bwriadu ffedereiddio.

(3Pan na fo corff llywodraethu dros dro eto wedi ei sefydlu, mae rheoliadau 5 i 7 yn cael effaith fel pe bai—

(a)cyfeiriadau at gorff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol neu, pan fo’r cynigion ar gyfer sefydlu ysgol wirfoddol, ac y cyhoeddwyd cynigion ar gyfer ei sefydlu gan hyrwyddwyr, yr hyrwyddwyr;

(b)rheoliad 5(2) wedi ei hepgor; ac

(c)yn rheoliad 6(2)(a), y geiriau “y mae’r awdurdod lleol neu’r hyrwyddwyr yn cynnig y dylai corff llywodraethu dros dro yr ysgol newydd ffedereiddio â hwy” wedi eu gosod yn lle “y mae’r corff llywodraethu yn bwriadu ffedereiddio â hwy”.

(4Mae Rhannau 1 i 3 a 5 i 7 o’r Rheoliadau Ysgolion Newydd a Gynhelir i fod yn gymwys i gorff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol â’r rheoliad hwn.

(5Pan gynigir y dylai dwy neu ragor o ysgolion newydd ffedereiddio, gyda neu heb un neu ragor o ysgolion eraill neu ffederasiwn arall, caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer cyfansoddi corff llywodraethu dros dro sengl ar gyfer yr ysgolion newydd hynny.

(6Pan fo’r ffederasiwn a gynigir yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ddau neu ragor o awdurdodau lleol, rhaid i’r awdurdodau lleol hynny gytuno ymysg ei gilydd, pa awdurdod lleol gaiff wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer cyfansoddi corff llywodraethu dros dro sengl ar gyfer yr ysgolion newydd hynny.

(7Pan fo un neu ragor o’r ysgolion newydd y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) i fod yn ysgol wirfoddol, y cyhoeddwyd cynigion ar gyfer eu sefydlu gan hyrwyddwyr, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r hyrwyddwyr ynglŷn ag—

(a)a ddylid arfer y pŵer a roddir i’r awdurdod lleol ym mharagraff (2); a

(b)os yw’r awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer, ar ba ddyddiad y dylid gwneud y trefniadau.

(8Mae Atodlen 1 yn gymwys i gorff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol â’r rheoliad hwn.

Gweithdrefn ar gyfer ffedereiddio – a gynigir gan awdurdod lleol

9.—(1Pan fo awdurdod lleol yn gwneud cynnig o dan adran 11 o Fesur 2011 nad yw’n ymwneud â ffedereiddio ysgolion bach yn unig, rhaid i’r cynigion a gyhoeddir gynnwys y canlynol—

(a)enw neu enwau’r corff neu gyrff llywodraethu y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu ffedereiddio;

(b)maint arfaethedig corff llywodraethu’r ffederasiwn;

(c)y nifer arfaethedig o lywodraethwyr ar gyfer pob categori o lywodraethwr;

(d)y trefniadau arfaethedig ar gyfer staffio’r ysgolion o fewn y ffederasiwn;

(e)y dyddiad ffedereiddio arfaethedig;

(f)enw’r awdurdod derbyn neu enwau’r awdurdodau derbyn ar gyfer yr ysgolion o fewn y ffederasiwn;

(g)erbyn pa ddyddiad, ar ôl cyfnod o ddim llai na chwe wythnos ar ôl cyhoeddi’r cynigion, y caniateir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod lleol ynglŷn â’r cynigion, ac i ba gyfeiriad y dylid eu hanfon;

(h)yn achos cynnig ar gyfer ffedereiddio sy’n cynnwys ysgol a gynhelir nas cynhelir gan yr awdurdod lleol sy’n gwneud y cynnig, gadarnhad bod yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol o dan sylw wedi rhoi ei gydsyniad;

(i)yn achos cynnig sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol, gadarnhad bod yr awdurdod esgobaethol priodol neu’r person neu’r personau sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig (yn ôl y digwydd) wedi rhoi cydsyniad; a

(j)unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r cynigion drwy eu hanfon at—

(a)unrhyw awdurdod lleol perthnasol arall;

(b)pennaeth pob un o’r ysgolion;

(c)cyngor ysgol pob un o’r ysgolion;

(d)yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—

(i)y llywodraethwyr sefydledig; a

(ii)unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â’r ysgol;

(e)pan fo unrhyw rai o’r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu’r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o’r fath;

(f)yr holl staff y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion;

(g)pob person y gŵyr ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn unrhyw un o’r ysgolion;

(h)pob undeb llafur y gŵyr fod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac

(i)unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.

(3Rhaid cyhoeddi copi o’r cynigion ar wefan yr awdurdod lleol.

(4Rhaid rhoi copi o’r cynigion ar gael i edrych arnynt ar bob adeg resymol ym mhob un o’r ysgolion.

(5Rhaid i’r dyddiad ffedereiddio arfaethedig ym mharagraff (1)(e) beidio â bod yn llai na 125 o ddiwrnodau ar ôl cyhoeddi’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 11 o Fesur 2011.

Ystyried ymatebion i gynigion a phenderfynu a ddylid mynd ymlaen â hwy – a gynigir gan awdurdod lleol

10.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unrhyw ymatebion i’r cynigion a chyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ynghyd â sylwadau’r awdurdod lleol ar wefan yr awdurdod lleol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu naill ai—

(a)mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio fel y’u cyhoeddwyd;

(b)mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gydag unrhyw addasiadau a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol; neu

(c)peidio â mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio.

(3Rhaid i’r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) beidio â chynnwys newid o ran pa gyrff llywodraethu y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu ffedereiddio.

(4Rhaid cyhoeddi unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) ar wefan yr awdurdod lleol a rhaid anfon copi ohono at—

(a)unrhyw awdurdod lleol perthnasol arall;

(b)pennaeth pob un o’r ysgolion;

(c)yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—

(i)y llywodraethwyr sefydledig; a

(ii)unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â’r ysgol;

(d)pan fo unrhyw rai o’r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu’r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o’r fath; ac

(e)unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.

Y weithdrefn ar gyfer ffedereiddio – ysgolion bach

11.—(1Pan fo awdurdod lleol yn gwneud cynnig o dan adran 11 o Fesur 2011 sy’n ymwneud â ffedereiddio ysgolion bach yn unig, rhaid i’r cynigion a gyhoeddir gynnwys y canlynol—

(a)enw neu enwau’r corff neu’r cyrff llywodraethu y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu ffedereiddio;

(b)maint arfaethedig corff llywodraethu’r ffederasiwn;

(c)y nifer arfaethedig o lywodraethwyr ar gyfer pob categori o lywodraethwr;

(d)y trefniadau arfaethedig ar gyfer staffio’r ysgolion o fewn y ffederasiwn;

(e)y dyddiad ffedereiddio arfaethedig;

(f)enw’r awdurdod derbyn neu enwau’r awdurdodau derbyn ar gyfer yr ysgolion o fewn y ffederasiwn;

(g)yn achos cynnig ar gyfer ffedereiddio sy’n cynnwys ysgol a gynhelir nas cynhelir gan yr awdurdod lleol sy’n gwneud y cynnig, gadarnhad bod yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol o dan sylw wedi rhoi ei gydsyniad;

(h)yn achos cynnig sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol, gadarnhad bod yr awdurdod esgobaethol priodol neu’r person neu’r personau sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig (yn ôl y digwydd) wedi rhoi cydsyniad; ac

(i)unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r cynigion drwy eu hanfon at gorff llywodraethu a chyngor ysgol pob un o’r ysgolion bach y mae’n bwriadu eu ffedereiddio gan wahodd y corff llywodraethu i ymateb o fewn 20 niwrnod ysgol.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd anfon copïau o’r cynigion at—

(a)unrhyw awdurdod lleol perthnasol arall;

(b)pennaeth pob un o’r ysgolion;

(c)yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—

(i)y llywodraethwyr sefydledig; a

(ii)unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â’r ysgol; a

(d)pan fo unrhyw rai o’r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu’r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o’r fath.

(4Rhaid cyhoeddi copi o’r cynigion ar wefan yr awdurdod lleol.

(5Rhaid rhoi copi o’r cynigion ar gael i edrych arno ar bob adeg resymol ym mhob un o’r ysgolion.

(6Rhaid i’r dyddiad ffedereiddio arfaethedig ym mharagraff (1)(e) beidio â bod yn llai na 100 niwrnod ar ôl cyhoeddi’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 11 o Fesur 2011.

Ystyried ymatebion i gynigion a phenderfynu a ddylid mynd ymlaen â hwy – ysgolion bach

12.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unrhyw ymatebion i’r cynigion a chyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ynghyd â sylwadau’r awdurdod lleol ar wefan yr awdurdod lleol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu naill ai—

(a)mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio fel y’u cyhoeddwyd;

(b)mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio gyda pha addasiadau bynnag a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol; neu

(c)peidio â mynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffedereiddio.

(3Rhaid i’r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) beidio â chynnwys newid o ran pa gyrff llywodraethu sy’n bwriadu ffedereiddio.

(4Rhaid cyhoeddi unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) ar wefan yr awdurdod lleol a rhaid anfon copi ohono at—

(a)unrhyw awdurdod lleol perthnasol arall;

(b)pennaeth pob un o’r ysgolion;

(c)yn achos unrhyw ysgol sydd â sefydliad—

(i)y llywodraethwyr sefydledig; a

(ii)unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig â’r ysgol;

(d)pan fo unrhyw rai o’r ysgolion wedi eu dynodi o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn rhai o gymeriad crefyddol, yr awdurdod esgobaethol priodol yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, neu’r corff crefyddol priodol yn achos unrhyw ysgol arall o’r fath; ac

(e)unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.

Ymgorffori cyrff llywodraethu ffederasiynau a diddymu cyrff llywodraethu blaenorol

13.—(1Ar y dyddiad ffedereiddio—

(a)diddymir cyrff llywodraethu’r ysgolion neu’r ffederasiynau sy’n ffedereiddio;

(b)ymgorfforir corff llywodraethu’r ffederasiwn;

(c)mae’r holl dir ac eiddo, a ddelid yn union cyn y dyddiad ffedereiddio gan gorff llywodraethu ysgol neu ffederasiwn sy’n ffedereiddio, yn trosglwyddo i gorff llywodraethu’r ffederasiwn, ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, yn cael eu breinio yng nghorff llywodraethu’r ffederasiwn; a

(d)mae’r holl hawliau a rhwymedigaethau a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad ffedereiddio ac a gaffaelwyd neu yr eir iddynt gan gorff llywodraethu ysgol neu ffederasiwn sy’n ffedereiddio yn trosglwyddo i gorff llywodraethu’r ffederasiwn.

(2Mae adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(16) (sydd, ynghyd ag Atodlen 10 i’r Ddeddf honno, yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â throsglwyddiadau eiddo, hawliau a rhwymedigaethau) yn gymwys mewn perthynas â throsglwyddiadau a gyflawnir gan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i drosglwyddiadau y mae’r adran ac Atodlen hynny yn gymwys iddynt.

RHAN 3CATEGORÏAU O LYWODRAETHWYR

Rhiant-lywodraethwyr

14.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “rhiant-lywodraethwr” (“parent governor”) yw person—

(a)a etholir yn unol â pharagraffau 3 i 8 o Atodlen 2 yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgol ffederal ac sy’n rhiant o’r fath ar yr adeg yr etholir y person hwnnw, neu

(b)a benodir yn rhiant-lywodraethwr mewn cysylltiad ag ysgol ffederal yn unol â pharagraffau 9 i 11 o Atodlen 2.

(2Mae Atodlen 2 yn gymwys ar gyfer ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr.

(3Anghymhwysir person rhag ei ethol neu ei benodi yn rhiant-lywodraethwr ffederasiwn—

(a)os yw’r person hwnnw yn aelod etholedig o’r awdurdod lleol;

(b)os yw’r person hwnnw yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â’i swyddogaethau addysg; neu

(c)os cyflogir y person hwnnw i weithio yn yr ysgol yn y ffederasiwn am fwy na 500 awr yn ystod unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis.

(4Nid anghymhwysir person rhag parhau i ddal swydd fel rhiant-lywodraethwr pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol ffederal neu’n peidio â bodloni unrhyw un neu ragor o’r gofynion a nodir ym mharagraffau 10 ac 11 o Atodlen 2 (yn ôl y digwydd) onid anghymhwysir y person hwnnw rywfodd arall o dan y Rheoliadau hyn.

Athro-lywodraethwyr

15.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “athro-lywodraethwr” (“teacher governor”) yw person—

(a)a etholir yn llywodraethwr yn unol ag Atodlen 3 gan athrawon ysgol mewn unrhyw ysgol yn y ffederasiwn; a

(b)sy’n athro neu athrawes ysgol o’r fath ar yr adeg yr etholir y person hwnnw.

(2Pan fo’n peidio â gweithio yn yr ysgol, anghymhwysir athro-lywodraethwr rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o’r fath.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anghymhwysir person rhag ei ethol yn athro-lywodraethwr ar gorff llywodraethu—

(a)os etholwyd y person hwnnw yn flaenorol yn athro-lywodraethwr ar yr un corff llywodraethu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; neu

(b)os cyflogir y person hwnnw i weithio yn yr un ysgol ffederal ag unrhyw berson a etholwyd yn athro-lywodraethwr ar y corff llywodraethu hwnnw yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

(4Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir i weithio mewn dwy neu ragor o ysgolion ffederal yn y ffederasiwn.

Staff-lywodraethwyr

16.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “staff-lywodraethwr” (“staff governor”) yw person—

(a)a etholir yn unol ag Atodlen 3 yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan bersonau a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal ac eithrio fel athro neu athrawes ysgol; a

(b)sy’n berson sy’n gweithio felly ar yr adeg yr etholir y person hwnnw.

(2Pan fo’n peidio â gweithio mewn ysgol o fewn y ffederasiwn, anghymhwysir staff-lywodraethwr ysgol rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o’r fath.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anghymhwysir person rhag ei ethol yn staff-lywodraethwr ar gorff llywodraethu—

(a)os etholwyd y person hwnnw yn flaenorol yn staff-lywodraethwr ar yr un corff llywodraethu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; neu

(b)os cyflogir y person hwnnw i weithio yn yr un ysgol ffederal ag unrhyw berson a etholwyd yn staff-lywodraethwr ar y corff llywodraethu hwnnw yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

(4Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir i weithio mewn dwy neu ragor o ysgolion yn y ffederasiwn.

Llywodraethwyr awdurdod lleol

17.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr awdurdod lleol” (“local authority governor”) yw llywodraethwr a benodir i fod yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgolion ffederal.

(2Pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ddau neu ragor o awdurdodau lleol, rhaid i’r awdurdodau lleol hynny gytuno ymysg ei gilydd ynglŷn â phwy fydd yn penodi’r cyfryw lywodraethwyr ac, os oes rhagor nag un llywodraethwr i’w penodi, ym mha gyfrannedd.

(3Anghymhwysir person rhag ei benodi neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr awdurdod lleol os yw’r person hwnnw yn gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu’n staff-lywodraethwr.

Llywodraethwyr cymunedol

18.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “llywodraethwr cymunedol” (“community governor”) yw person a benodir fel y cyfryw gan gorff llywodraethu ffederasiwn ac—

(a)

sy’n byw neu’n gweithio yn y gymuned a wasanaethir gan y ffederasiwn; neu

(b)

sy’n berson sydd, ym marn y corff llywodraethu, ag ymroddiad i lywodraethu da ac i lwyddiant y ffederasiwn.

(2Anghymhwysir person rhag ei benodi yn llywodraethwr cymunedol, neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr cymunedol—

(a)os yw’r person hwnnw yn ddisgybl cofrestredig yn un o’r ysgolion ffederal;

(b)os yw’r person hwnnw yn gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu’n staff-lywodraethwr; neu

(c)os yw’r person hwnnw yn aelod etholedig o’r awdurdod lleol.

Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol

19.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr cymunedol ychwanegol” (“additional community governor”) yw llywodraethwr a benodir yn unol â rheoliad 31.

Llywodraethwyr sefydledig

20.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “llywodraethwr sefydledig” (“foundation governor”) yw person a benodir i fod yn aelod o gorff llywodraethu ffederasiwn mewn cysylltiad ag ysgol ffederal benodol, ac eithrio gan yr awdurdod lleol ac—

(i)pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgol ffederal sydd â chymeriad crefyddol penodol(17), a benodir at y diben o sicrhau y diogelir ac y datblygir y cymeriad hwnnw yn yr ysgol ffederal honno;

(ii)pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgol ffederal sydd ag ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â hi, a benodir at y diben o sicrhau y cynhelir yr ysgol ffederal yn unol â’r ymddiriedolaeth honno; neu

(iii)pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgol nad oes iddi gymeriad crefyddol nac ymddiriedolaeth, a benodir yn llywodraethwr sefydledig y ffederasiwn gan berson a enwyd yn flaenorol yn offeryn llywodraethu’r ysgol ffederal fel un sydd â phŵer i benodi llywodraethwyr sefydledig;

(b)ystyr “llywodraethwr sefydledig ex officio” (“ex officio foundation governor”) yw llywodraethwr sefydledig sydd â’r hawl i fod yn llywodraethwr sefydledig yn rhinwedd swydd a ddelir gan y person hwnnw sy’n rhoi’r hawl honno;

(c)ystyr “dirprwy-lywodraethwr” (“substitute governor”) yw llywodraethwr sefydledig a benodir i weithredu yn lle llywodraethwr sefydledig ex officio—

(i)sy’n anfodlon neu’n analluog i weithredu fel llywodraethwr;

(ii)a ddiswyddwyd o fod yn llywodraethwr o dan reoliad 38(2); neu

(iii)pan fo’r swydd y mae swydd llywodraethwr o’r fath yn deillio ohoni yn wag.

(2Anghymhwysir llywodraethwr sefydledig ex officio rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o’r fath pan fo’n peidio â dal y swydd y mae swydd y person hwnnw fel llywodraethwr yn deillio ohoni.

Llywodraethwyr partneriaeth

21.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr partneriaeth” (“partnership governor”) yw person a enwebir yn llywodraethwr partneriaeth ac a benodir fel y cyfryw yn unol ag Atodlen 4.

(2Anghymhwysir person rhag ei enwebu neu ei benodi yn llywodraethwr partneriaeth mewn ffederasiwn—

(a)os yw’r person hwnnw yn rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol o fewn y ffederasiwn;

(b)os yw’r person hwnnw yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol o fewn y ffederasiwn;

(c)os yw’r person hwnnw yn gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu’n staff-lywodraethwr y ffederasiwn;

(d)os yw’r person hwnnw yn aelod etholedig o awdurdod lleol perthnasol; neu

(e)os yw’r person hwnnw yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â’i swyddogaethau fel awdurdod lleol.

Noddwr-lywodraethwyr

22.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “noddwr-lywodraethwr” (“sponsor governor”) yw person a enwebir yn noddwr-lywodraethwr ac a benodir fel y cyfryw gan gorff llywodraethu ffederasiwn yn unol ag Atodlen 5.

Llywodraethwyr cynrychiadol

23.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr cynrychiadol” (“representative governor”) yw person a benodir fel y cyfryw yn unol ag Atodlen 6.

Disgybl-lywodraethwyr cyswllt

24.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “disgybl-lywodraethwr cyswllt” (“associate pupil governor”) yw disgybl cofrestredig a enwebir gan y cyngor ysgol i fod yn aelod o’r corff llywodraethu ffederal, ac a benodir fel y cyfryw gan y corff llywodraethu ffederal yn unol â rheoliad 7 o’r Rheoliadau Cynghorau Ysgol.

(2Y nifer mwyaf o ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ar unrhyw gorff llywodraethu ffederal yw dau.

RHAN 4CYFANSODDIAD CYRFF LLYWODRAETHU FFEDERASIWN

Egwyddorion cyffredinol

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i’r offeryn llywodraethu ar gyfer ffederasiwn bennu maint aelodaeth ar gyfer corff llywodraethu’r ffederasiwn, na chaiff fod yn llai na 15 llywodraethwr nac yn fwy na 27.

(2Wrth benderfynu maint aelodaeth corff llywodraethu ffederasiwn, rhaid peidio â chynnwys y llywodraethwyr a ganlyn—

(a)unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt a benodir yn unol â rheoliadau 26 i 30;

(b)unrhyw lywodraethwyr ychwanegol a benodir yn rhinwedd adran 6 o Ddeddf 2013 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol); ac

(c)unrhyw lywodraethwyr ychwanegol a benodir yn rhinwedd adran 13 o Ddeddf 2013 (pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol).

(3Wrth benderfynu maint aelodaeth corff llywodraethu ffederasiwn rhaid cynnwys unrhyw lywodraethwyr cymunedol ychwanegol a benodir yn unol â rheoliad 31.

(4Yn ddarostyngedig i reoliadau 26 i 30, rhaid i’r offeryn llywodraethu bennu’r niferoedd o lywodraethwyr sydd i’w hethol neu eu penodi o bob un o’r categorïau o lywodraethwyr canlynol—

(a)rhiant-lywodraethwyr;

(b)athro-lywodraethwyr;

(c)staff-lywodraethwyr;

(d)llywodraethwyr awdurdod lleol;

(e)llywodraethwyr cymunedol;

(f)llywodraethwyr sefydledig;

(g)llywodraethwyr partneriaeth;

(h)noddwr-lywodraethwyr;

(i)llywodraethwyr cynrychiadol; a

(j)llywodraethwyr cymunedol ychwanegol.

(5Pan fo cymhwyso’r rheoliad hwn a rheoliadau 26 i 30 yn cynhyrchu rhif nad yw’n gyfanrif, rhaid i’r corff llywodraethu bennu naill ai’r cyfanrif nesaf uwchlaw neu’r cyfanrif nesaf islaw (yn ôl dewis y corff llywodraethu) ar yr amod na chaiff cyfanswm nifer y llywodraethwyr fod yn uwch na’r terfyn a bennir yn y rheoliad hwn.

Ffederasiwn sy’n cynnwys ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir yn unig

26.—(1Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys unrhyw gyfuniad o ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir(18) (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol) i gynnwys y canlynol—

(a)o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)o leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(d)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol;

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (f), o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol; ac

(f)un llywodraethwr cynrychiadol pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol, i gymryd lle un llywodraethwr cymunedol sy’n ofynnol o dan is-baragraff (e).

(2Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn gynnwys—

(a)pennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu

(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.

(3Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn—

(a)penodi un noddwr-lywodraethwr; a

(b)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Ffederasiwn sy’n cynnwys ysgolion sefydledig yn unig

27.—(1Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys ysgolion sefydledig(19) yn unig i gynnwys y canlynol—

(a)o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(d)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol;

(e)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol; ac

(f)o leiaf ddau ond dim mwy na phum llywodraethwr sefydledig (neu lywodraethwr partneriaeth, fel y bo’n briodol mewn cysylltiad ag unrhyw ysgol heb sefydliad).

(2Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn gynnwys—

(a)pennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu

(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.

(3Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn—

(a)penodi un noddwr-lywodraethwr; a

(b)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Ffederasiwn sy’n cynnwys ysgolion gwirfoddol a reolir yn unig

28.—(1Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys ysgolion gwirfoddol a reolir(20) yn unig i gynnwys y canlynol—

(a)o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr ar gyfer pob ysgol ffederal a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2 i gynrychioli buddiannau rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(d)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol;

(e)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol; ac

(f)o leiaf ddau ond dim mwy na phum llywodraethwr sefydledig.

(2Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn gynnwys—

(a)pennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu

(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.

(3Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn—

(a)penodi un noddwr-lywodraethwr; a

(b)penodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Ffederasiwn sy’n cynnwys ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn unig

29.—(1Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir(21) yn unig i gynnwys y canlynol—

(a)o leiaf un rhiant-lywodraethwr a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(d)o leiaf un ond dim mwy na dau lywodraethwr awdurdod lleol; ac

(e)y nifer o lywodraethwyr sefydledig a fydd yn eu gwneud yn fwy niferus na’r holl lywodraethwyr eraill a grybwyllwyd yn is-baragraffau (a) i (d), paragraff (2) a rheoliad 31 o ddim mwy nag un.

(2Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn gynnwys—

(a)y pennaeth oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu

(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.

(3Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn benodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Ffederasiwn sy’n cynnwys ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir

30.—(1Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys unrhyw gyfuniad o ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol) i gynnwys y canlynol—

(a)o leiaf un rhiant-lywodraethwr a etholir neu a benodir yn unol â pharagraffau 3 i 11 o Atodlen 2;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr;

(d)o leiaf un ond dim mwy na dau lywodraethwr awdurdod lleol;

(e)o leiaf un ond dim mwy na dau lywodraethwr cymunedol; ac

(f)y nifer o lywodraethwyr sefydledig a fydd yn eu gwneud yn fwy niferus na’r holl lywodraethwyr eraill a grybwyllwyd yn is-baragraffau (a) i (e), paragraff (2) a rheoliad 31 o ddim mwy nag un.

(2Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn gynnwys—

(a)pennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu

(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.

(3Yn ychwanegol, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn benodi hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt pan fo’r ffederasiwn yn cynnwys ysgolion uwchradd.

Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol

31.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gorff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys un neu ragor o’r canlynol—

(a)unrhyw ysgol gymunedol, wirfoddol neu sefydledig sy’n ysgol gynradd; a

(b)unrhyw ysgol feithrin a gynhelir;

(c)sy’n gwasanaethu ardal sydd ag un neu ragor o gynghorau cymuned.

(2Rhaid i’r offeryn llywodraethu ar gyfer ysgol ddarparu bod corff llywodraethu ffederasiwn i gynnwys (yn ychwanegol at y llywodraethwyr sy’n ofynnol yn rhinwedd rheoliadau 26 i 30 yn ôl y digwydd) un llywodraethwr cymunedol ychwanegol a enwebir gan y cyngor cymuned.

(3Os yw ysgol yn gwasanaethu ardal sydd â dau neu ragor o gynghorau cymuned, caiff y corff llywodraethu geisio enwebiadau gan un neu ragor o’r cynghorau hynny ar gyfer yr un llywodraethwr cymunedol ychwanegol y cyfeirir ato ym mharagraff (2).

Hysbysu swyddi gwag a phenodiadau

32.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo swydd aelod a benodwyd i’r corff llywodraethu yn mynd yn wag, rhaid i glerc y corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad ysgrifenedig o’r ffaith honno i’r person sydd â’r hawl i benodi neu enwebu person i’r swydd honno.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i glerc y corff llywodraethu, ddau fis o leiaf cyn y dyddiad y daw cyfnod swydd aelod a benodwyd i ben, roi hysbysiad ysgrifenedig o’r ffaith honno i’r person sydd â’r hawl i benodi neu enwebu person i’r swydd honno.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys os yw’r person sydd â’r hawl i benodi person i’r swydd dan sylw eisoes wedi hysbysu clerc y corff llywodraethu mewn ysgrifen ynghylch y person a benodir neu a enwebir.

(4Pan fo unrhyw berson ac eithrio corff llywodraethu yn gwneud penodiad neu’n enwebu person i’w benodi i’r corff llywodraethu, rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o’r penodiad neu’r enwebiad i glerc y corff llywodraethu, gan nodi enw a phreswylfa arferol y person a benodir neu a enwebir felly.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “aelod a benodwyd” (“appointed member”) yw—

(a)llywodraethwr sefydledig;

(b)llywodraethwr awdurdod lleol;

(c)llywodraethwr cymunedol (gan gynnwys llywodraethwr cymunedol ychwanegol);

(d)llywodraethwr cynrychiadol;

(e)noddwr-lywodraethwr; ac

(f)llywodraethwr partneriaeth.

Cyd-benodiadau

33.  Os yw—

(a)offeryn llywodraethu ysgol yn darparu bod un neu ragor o’r llywodraethwyr i’w penodi gan bersonau sy’n gweithredu ar y cyd; a

(b)y personau hynny yn methu â chytuno ar benodiad;

rhaid i’r penodiad gael ei wneud gan Weinidogion Cymru neu’n unol â chyfarwyddyd a roddir ganddynt.

Llywodraethwyr gormodol

34.—(1Pan fo gan ffederasiwn ragor o lywodraethwyr mewn categori penodol nag y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol, rhaid i ba bynnag nifer o lywodraethwyr yn y categori hwnnw sy’n ofynnol er mwyn dileu’r gormodedd beidio â dal swydd, yn unol â pharagraffau (2) a (3), oni fydd nifer digonol yn ymddiswyddo.

(2Penderfynir pa lywodraethwyr sydd i beidio â dal swydd ar sail hyd eu gwasanaeth, a’r llywodraethwyr sydd â’r cyfnodau mewn swydd cyfredol byrraf fel llywodraethwyr mewn unrhyw gategori yn yr ysgol fydd y cyntaf i beidio â dal swydd.

(3Pan fo angen, at ddibenion paragraff (2), dewis un neu ragor o lywodraethwyr allan o grŵp sy’n gyfartal o ran hyd gwasanaeth, rhaid gwneud hynny drwy fwrw coelbren.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, trinnir llywodraethwyr cymunedol ychwanegol fel pe baent yn gategori o lywodraethwyr ar wahân.

RHAN 5CYMWYSIADAU A CHYFNOD SWYDD

Cymwysiadau ac anghymwysiadau

35.  Yn Atodlen 7 nodir o dan ba amgylchiadau y mae person yn gymwys ar gyfer, neu wedi ei anghymhwyso rhag dal neu barhau mewn swydd fel llywodraethwr.

Cyfnod swydd

36.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (9), mae llywodraethwr yn dal ei swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o’r dyddiad yr etholir neu y penodir y person hwnnw.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sy’n bennaeth y ffederasiwn neu’n bennaeth ysgol ffederal, nac i unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a gaiff ddal swydd cyhyd ag y bo’r person hwnnw yn parhau yn y swydd y mae swydd y person hwnnw fel llywodraethwr yn deillio ohoni.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sefydledig y pennir cyfnod ei swydd gan y person a benododd y llywodraethwr hwnnw, hyd at bedair blynedd fan hwyraf.

(4Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr ychwanegol, llywodraethwr sefydledig ychwanegol nac aelod gweithrediaeth interim a benodir o dan adrannau 6, 7, 13 neu 14 o Ddeddf 2013, y pennir cyfnod ei swydd gan y person a benododd y llywodraethwr hwnnw, hyd at bedair blynedd fan hwyaf.

(5Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr sydd i ddal swydd am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad penodi’r person hwnnw.

(6Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw riant-lywodraethwr ysgol feithrin a gynhelir sydd i ddal swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd o ddyddiad ethol neu benodi’r person hwnnw.

(7Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt sydd i ddal swydd am gyfnod o un flwyddyn o ddyddiad penodi’r person hwnnw. Nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n rhwystro disgybl-lywodraethwr cyswllt rhag cael ei ailbenodi ar ddiwedd cyfnod y person hwnnw mewn swydd.

(8Caiff dirprwy lywodraethwr ddal swydd hyd y cynharaf o’r canlynol—

(a)diwedd pedair blynedd o’r dyddiad y daw penodiad y person hwnnw i rym;

(b)y dyddiad y bydd y llywodraethwr gwreiddiol (onid yw wedi ei ddiswyddo o dan reoliad 38(2)) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu yn nodi y gall y person hwnnw weithredu fel llywodraethwr sefydledig a’i fod yn fodlon gwneud hynny; neu

(c)y dyddiad y bydd person ar wahân i’r llywodraethwr gwreiddiol yn cymryd y swydd y mae swydd y llywodraethwr sefydledig ex officio yn bodoli o’i herwydd.

(9Nid yw’r rheoliad hwn yn rhwystro llywodraethwr rhag—

(a)cael ei ethol neu ei benodi am gyfnod pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn;

(b)ymddiswyddo yn unol â rheoliad 37(1);

(c)cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 38 i 40; neu

(d)cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal neu barhau i ddal swydd.

(10Yn y rheoliad hwn ystyr “y llywodraethwr gwreiddiol” (“the original governor”) yw’r llywodraethwr sefydledig ex officio y penodir y dirprwy lywodraethwr i weithredu yn ei le.

Ymddiswyddo

37.—(1Caiff llywodraethwr ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

(2Caiff y pennaeth dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

(3Caiff llywodraethwr sefydledig ex officio ymddiswyddo fel llywodraethwr naill ai’n barhaol neu dros dro, ond ni fydd ymddiswyddiad y person hwnnw yn rhagfarnu swydd llywodraethwr ex officio olynydd y person hwnnw yn y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr ex officio yn deillio ohoni.

Diswyddo llywodraethwyr awdurdod lleol, llywodraethwyr sefydledig, llywodraethwyr cynrychiadol, llywodraethwyr cymunedol ychwanegol a noddwr-lywodraethwyr

38.—(1Caiff y person a benododd y llywodraethwr hwnnw ddiswyddo unrhyw lywodraethwr awdurdod lleol, llywodraethwr sefydledig neu lywodraethwr cynrychiadol, a rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i’r llywodraethwr a ddiswyddir felly.

(2Caiff y person a enwir yn yr offeryn llywodraethu fel y person sydd â’r hawl i ddiswyddo’r llywodraethwr hwnnw, ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i’r llywodraethwr a ddiswyddir felly.

(3Caiff y person a enwebodd y llywodraethwr hwnnw ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr, a rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i’r llywodraethwr a ddiswyddir felly.

Diswyddo llywodraethwyr cymunedol

39.  Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol (ac eithrio llywodraethwr cymunedol ychwanegol) yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 41.

Diswyddo rhiant-lywodraethwyr a benodwyd, llywodraethwyr partneriaeth a disgybl-lywodraethwyr cyswllt

40.  Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw riant-lywodraethwr a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan baragraffau 9 i 11 o Atodlen 2 neu unrhyw lywodraethwr partneriaeth ac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 41.

Y weithdrefn ar gyfer diswyddo llywodraethwyr gan y corff llywodraethu

41.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â diswyddo llywodraethwr yn unol â rheoliad 39 neu 40.

(2Ni fydd penderfyniad a gaiff ei basio mewn cyfarfod o’r corff llywodraethu i ddiswyddo llywodraethwr yn cael effaith oni bai—

(a)bod y llywodraethwr neu’r llywodraethwyr sy’n cynnig diswyddo’r person hwnnw, cyn i’r corff llywodraethu benderfynu diswyddo’r llywodraethwr, yn nodi yn y cyfarfod hwnnw eu rhesymau dros wneud hynny ac y rhoddir cyfle i’r llywodraethwr y cynigir ei ddiswyddo wneud datganiad i ymateb; a

(b)y pennir mater diswyddo’r llywodraethwr fel eitem o fusnes ar agenda’r cyfarfod.

(3Ar ôl pasio penderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr rhaid i’r corff llywodraethu hysbysu’r person a ddiswyddir, mewn ysgrifen, o’r rhesymau dros y diswyddo.

RHAN 6OFFERYN LLYWODRAETHU, STAFFIO, CYNGHORAU YSGOL A STATWS ELUSENNOL

Y ddyletswydd i ystyried canllawiau

42.  Mewn cysylltiad â gwneud offerynnau llywodraethu, y materion yr ymdrinnir â hwy ynddynt, eu ffurf, ac adolygu ac amrywio’r cyfryw offerynnau, rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ystyried unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru.

Cynnwys a ffurf yr offeryn llywodraethu

43.—(1Rhaid i offeryn llywodraethu ar gyfer ffederasiwn nodi—

(a)enw’r ffederasiwn;

(b)enwau a chategorïau’r ysgolion ffederal o fewn y ffederasiwn;

(c)enw corff llywodraethu’r ffederasiwn;

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (4), y modd y cyfansoddir y corff llywodraethu yn unol â Rhan 4, gan bennu—

(i)nifer y llywodraethwyr ym mhob categori o lywodraethwr;

(ii)y categorïau o bersonau, o’u plith neu o blith eu haelodau, yr awdurdodir enwebu unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr ar gyfer ei benodi gan y Rheoliadau hyn; a

(iii)cyfanswm nifer aelodau’r corff llywodraethu;

(e)os yw cyfnod swydd unrhyw gategori o lywodraethwr i fod yn llai na phedair blynedd, cyfnod y swydd honno;

(f)os oes gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig—

(i)enw unrhyw berson sydd â’r hawl i benodi llywodraethwyr o’r fath ac, os oes mwy nag un person o’r fath â’r hawl i benodi, y sail ar gyfer gwneud penodiadau o’r fath;

(ii)manylion unrhyw swydd llywodraethwr sefydledig sydd i’w dal ex officio gan ddeiliad swydd a enwir; a

(iii)enw unrhyw berson sydd â’r hawl i ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio a phenodi unrhyw ddirprwy lywodraethwr;

(g)os yw’r ffederasiwn yn cynnwys ysgol arbennig gymunedol, enw unrhyw gorff priodol neu sefydliad gwirfoddol priodol sydd â’r hawl i enwebu person i’w benodi yn llywodraethwr cynrychioladol o dan Atodlen 6;

(h)os oes ymddiriedolaeth yn gysylltiedig ag ysgol ffederal, y ffaith honno;

(i)os yw ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy’n meddu ar gymeriad crefyddol, disgrifiad unigol o ethos crefyddol pob ysgol o’r fath; a

(j)y dyddiad y daw’r offeryn llywodraethu i rym.

(2Rhaid i’r modd y cyfansoddir y corff llywodraethu, fel y’i nodir yn unol ag is-baragraff (1)(d), gydymffurfio â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i’r offeryn llywodraethu (yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth statudol) gydymffurfio ag unrhyw ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig ag ysgol ffederal.

(4Nid yw is-baragraffau (d) a (e) o baragraff (1) yn gymwys i ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

Y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn

44.—(1Yn y rheoliad hwn, pan gyfeirir at awdurdod lleol a phan fo’r ffederasiwn i gynnwys ysgolion a gynhelir gan wahanol awdurdodau lleol, rhaid dehongli’r cyfeiriad fel cyfeiriad at ba un bynnag o’r awdurdodau lleol hynny y mae cyrff llywodraethu’r ysgolion yn cytuno rhyngddynt y dylai wneud yr offeryn llywodraethu ar gyfer y ffederasiwn.

(2Rhaid i gyrff llywodraethu’r ysgolion sydd i ffurfio’r ffederasiwn baratoi offeryn llywodraethu drafft ar y cyd a’i gyflwyno i’r awdurdod lleol.

(3Os bydd gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig, rhaid i gyrff llywodraethu’r ffederasiwn arfaethedig beidio â chyflwyno’r drafft i’r awdurdod lleol hyd nes bydd wedi ei gymeradwyo mewn cysylltiad â phob ysgol sefydledig neu wirfoddol gan—

(a)llywodraethwyr sefydledig yr ysgol honno;

(b)ymddiriedolwyr o unrhyw ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig ag ysgol o’r fath;

(c)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol; a

(d)yn achos unrhyw ysgol arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy’n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4Os—

(a)yw’r awdurdod lleol yn fodlon bod y drafft yn cydymffurfio â’r holl ddarpariaethau cymwys; neu

(b)os oes cytundeb rhwng yr awdurdod lleol, y cyrff llywodraethu a’r personau (pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig) a grybwyllir ym mharagraff (3), y dylid diwygio’r drafft i unrhyw raddau a bod y drafft diwygiedig yn cydymffurfio â phob un o’r darpariaethau statudol sy’n gymwys;

rhaid i’r offeryn llywodraethu gael ei wneud gan yr awdurdod lleol ar ffurf y drafft neu (yn ôl y digwydd) ar ffurf y drafft diwygiedig.

(5Yn achos ffederasiwn y bydd ganddo lywodraethwyr sefydledig, os bydd y personau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn anghytuno ar unrhyw adeg ynglŷn â chynnwys y drafft, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o’r personau hynny gyfeirio’r drafft at Weinidogion Cymru, a rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd fel y gwelant yn dda, gan ystyried yn benodol y categorïau o ysgolion y bwriedir eu cynnwys yn y ffederasiwn.

(6Os nad yw’r naill na’r llall o is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (4) yn gymwys yn achos ffederasiwn na fydd ganddo lywodraethwyr sefydledig, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)roi gwybod i gorff llywodraethu y ffederasiwn y rhesymau pam nad yw’n fodlon â’r offeryn llywodraethu drafft; a

(b)rhoi cyfle rhesymol i gorff llywodraethu y ffederasiwn ddod i gytundeb ag ef ynghylch diwygio’r drafft;

a rhaid i’r offeryn llywodraethu gael ei wneud gan yr awdurdod lleol naill ai ar ffurf drafft diwygiedig y bydd ef a chorff llywodraethu y ffederasiwn yn cytuno yn ei gylch neu (yn niffyg cytundeb o’r fath) ar ffurf fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn benodol, y categorïau o ysgolion a gynhwysir yn y ffederasiwn.

Adolygu offerynnau llywodraethu

45.—(1Caiff y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol adolygu’r offeryn llywodraethu ar unrhyw adeg wedi iddo gael ei wneud.

(2Os bydd y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol yn penderfynu wedi unrhyw adolygiad y dylid amrywio’r offeryn llywodraethu, rhaid i’r corff llywodraethu neu (yn ôl y digwydd) yr awdurdod lleol roi gwybod i’r llall am yr amrywiad a gynigir ganddo ynghyd â’i resymau dros gynnig amrywiad o’r fath.

(3Pan fo’r corff llywodraethu wedi derbyn hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol a yw’n fodlon â’r amrywiad a gynigir ai peidio ac, os nad yw’n fodlon, am ba resymau.

(4Pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig, rhaid i’r corff llywodraethu beidio ag—

(a)rhoi i’r awdurdod lleol unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2); na

(b)hysbysu’r awdurdod lleol o dan baragraff (3) ei fod yn fodlon â’r amrywiad a gynigir gan yr awdurdod lleol;

oni fo’r personau a restrir yn rheoliad 44(3) wedi cymeradwyo’r amrywiad a gynigir.

(5Os—

(a)yw y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol, pa un bynnag sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (2), yn cytuno â’r amrywiad a gynigir; neu

(b)os oes cytundeb rhwng yr awdurdod lleol, y corff llywodraethu a’r personau eraill (pan fo gan y ffederasiwn lywodraethwyr sefydledig) a restrir yn rheoliad 44(3) y dylid gwneud rhyw amrywiad arall yn hytrach;

rhaid i’r awdurdod lleol amrywio’r offeryn llywodraethu yn unol â hynny.

(6Yn achos ffederasiwn sydd â llywodraethwyr sefydledig, os bydd y personau a restrir yn rheoliad 44(3) yn anghytuno ar unrhyw adeg ynglŷn â’r amrywiad a gynigir, caiff unrhyw un neu unrhyw rai o’r personau hynny ei gyfeirio at Weinidogion Cymru ac o gyfeirio felly, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd fel y gwelant yn dda, gan ystyried, yn benodol, y categorïau o ysgolion sydd yn y ffederasiwn.

(7Os nad yw is-baragraffau (a) na (b) o baragraff (5) yn gymwys yn achos ffederasiwn nad oes ganddo lywodraethwyr sefydledig, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)rhoi gwybod i’r corff llywodraethu y rhesymau—

(i)pam nad yw’n fodlon â’r amrywiad a gynigir gan y corff llywodraethu neu, yn ôl y digwydd;

(ii)pam y mae’n dymuno mynd ymlaen â’i amrywiad ei hun; a

(b)rhoi cyfle rhesymol i’r corff llywodraethu ddod i gytundeb ag ef mewn perthynas â’r amrywiad;

a rhaid i’r offeryn llywodraethu gael ei amrywio ganddo naill ai yn y modd y cytunwyd arno rhyngddo a’r corff llywodraethu neu (yn niffyg cytundeb o’r fath) mewn modd fel y gwêl yn dda gan ystyried, yn benodol, y categorïau o ysgolion sydd yn y ffederasiwn.

(8Ni ddylid dehongli dim yn y rheoliad hwn i olygu ei bod yn ofynnol i’r awdurdod lleol amrywio’r offeryn llywodraethu os na chred ei bod yn briodol gwneud hynny.

(9Pan amrywir offeryn llywodraethu o dan y rheoliad hwn rhaid i’r offeryn nodi’r dyddiad y daw’r amrywiad i rym.

Gofynion eraill mewn perthynas ag offerynnau llywodraethu

46.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau y darperir (yn ddi-dâl) i’r personau a nodir ym mharagraff (2)—

(a)copi o offeryn llywodraethu’r ffederasiwn; a

(b)os gwneir unrhyw amrywiad i offeryn llywodraethu’r ffederasiwn, fersiwn gyfunol o’r offeryn llywodraethu yn ymgorffori pob amrywiad a wnaed gan yr awdurdod lleol (ac eithrio unrhyw amrywiadau nad ydynt bellach mewn grym).

(2I’r personau canlynol y dylid darparu’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—

(a)pob aelod o gorff llywodraethu’r ffederasiwn;

(b)pennaeth y ffederasiwn neu bennaeth pob ysgol ffederal, p’un a yw’r pennaeth yn aelod o’r corff llywodraethu ai peidio;

(c)ymddiriedolwyr unrhyw ymddiriedolaeth sy’n gysylltiedig ag ysgol ffederal;

(d)yn achos un o ysgolion ffederal yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol ffederal yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol;

(e)yn achos unrhyw ysgol ffederal arall a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 fel un sy’n meddu ar gymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol; ac

(f)Gweinidogion Cymru.

Staffio ffederasiynau

47.  Mae’r Rheoliadau Staffio yn gymwys i staffio ffederasiynau, yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn Atodlen 8.

Rheoliadau Cynghorau Ysgol

48.  Mae’r Rheoliadau Cynghorau Ysgol yn gymwys i gorff llywodraethu ffederasiwn ac i’w aelodau, yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn Atodlen 9.

Statws elusennol ffederasiynau

49.—(1Mae corff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol yn elusen sy’n elusen esempt at ddibenion Deddf Elusennau 2011(22), ond nid yw corff llywodraethu unrhyw ffederasiwn yn elusen os yw’r ffederasiwn yn cynnwys, yn unig, ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir.

(2Cyn belled ag y bo’n elusen, rhaid i unrhyw sefydliad—

(a)a weinyddir gan neu ar ran unrhyw gorff llywodraethu ffederasiwn sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol; a

(b)a sefydlwyd at ddibenion cyffredinol, neu unrhyw bwrpas arbennig, neu mewn cysylltiad â’r corff hwnnw neu’r ffederasiwn hwnnw neu unrhyw ysgol sefydledig neu wirfoddol o fewn y ffederasiwn hwnnw;

hefyd fod yn elusen esempt at ddibenion Deddf Elusennau 2011.

(3Yn y rheoliad hwn, mae i “elusen” a “sefydliad” yr un ystyron ag y sydd i “charity” ac “institution”, yn eu trefn, yn Neddf Elusennau 2011.

RHAN 7PENODI SWYDDOGION, EU SWYDDOGAETHAU A’U DISWYDDO

Ethol y cadeirydd a’r is-gadeirydd

50.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adrannau 6 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol) a 13 (pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol) o Ddeddf 2013, rhaid i’r corff llywodraethu ethol cadeirydd ac is-gadeirydd o blith ei aelodau yn flynyddol.

(2Nid yw llywodraethwr y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal neu sy’n ddisgybl mewn ysgol ffederal yn gymwys i fod yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd corff llywodraethu’r ffederasiwn dan sylw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), bydd y cadeirydd neu’r is-gadeirydd yn dal swydd hyd nes y bydd olynydd y person hwnnw wedi ei ethol yn unol â pharagraff (1).

(4Caiff y cadeirydd neu’r is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.

(5Daw swydd y cadeirydd neu’r is-gadeirydd i ben—

(a)pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod yn aelod o’r corff llywodraethu;

(b)os telir i’r person hwnnw am weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal dan sylw;

(c)os diswyddir y person hwnnw yn unol â rheoliad 52 neu os cymerir ei le gan gadeirydd a enwebir gan yr awdurdod lleol yn unol ag adran 6 o Ddeddf 2013 neu Weinidogion Cymru yn unol ag adran 13 o Ddeddf 2013; neu

(d)yn achos yr is-gadeirydd, os etholir y person hwnnw yn unol â pharagraff (6) i lenwi swydd wag y cadeirydd.

(6Pan ddaw swydd y cadeirydd neu’r is-gadeirydd yn wag, rhaid i’r corff llywodraethu yn ei gyfarfod nesaf ethol un o’i aelodau i lenwi’r swydd honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i adran 6 neu 13 o Ddeddf 2013.

(7Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir i fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd drwy bleidlais gudd.

(8Pan fydd y cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd ym mhob diben.

(9Os bydd yr is-gadeirydd yn yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yn absennol o’r cyfarfod neu os bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i’r corff llywodraethu ethol un o’i aelodau i weithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(10Bydd clerc y corff llywodraethu yn gweithredu fel cadeirydd yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod yr etholir y cadeirydd ynddi.

Dirprwyo swyddogaethau i’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd mewn achosion brys

51.—(1Caiff y cadeirydd, pan fo’r amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys ym marn y person hwnnw, arfer unrhyw swyddogaethau o eiddo’r corff llywodraethu y gellir eu dirprwyo o dan reoliad 62(1).

(2Yr amgylchiadau hynny yw y byddai oedi cyn arfer y swyddogaeth yn debygol o fod yn ddifrifol niweidiol i fuddiannau—

(a)y ffederasiwn neu ysgol ffederal;

(b)unrhyw ddisgybl mewn ysgol ffederal, neu riant y disgybl hwnnw; neu

(c)person sy’n gweithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “oedi” (“delay”) yw oedi am gyfnod sy’n ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad cynharaf y byddai’n rhesymol ymarferol cynnal cyfarfod o’r corff llywodraethu, neu gyfarfod o bwyllgor y dirprwywyd y swyddogaeth dan sylw iddo.

(4Pan ymddengys i’r is-gadeirydd—

(a)bod yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gymwys; a

(b)na fyddai’r cadeirydd (oherwydd bod y swydd yn wag neu am reswm arall) yn gallu arfer y swyddogaeth dan sylw cyn i’r niwed y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddigwydd;

rhaid darllen y cyfeiriad at y cadeirydd ym mharagraff (1) fel pe bai’n gyfeiriad at yr is-gadeirydd.

Diswyddo’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd

52.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo’r cadeirydd, onid enwebwyd y person hwnnw gan yr awdurdod lleol o dan adran 6 o Ddeddf 2013 neu Weinidogion Cymru yn unol ag adran 13 o Ddeddf 2013.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff y corff llywodraethu drwy benderfyniad ddiswyddo’r is-gadeirydd.

(3Ni fydd penderfyniad i ddiswyddo’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd yn cael effaith oni fo’r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 57.

(4Cyn i’r corff llywodraethu benderfynu diswyddo’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd, rhaid i’r llywodraethwr sy’n cynnig diswyddo’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd ddatgan yn y cyfarfod hwnnw ei resymau dros wneud hynny a rhaid rhoi cyfle i’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd (yn ôl y digwydd) ymateb drwy wneud datganiad, cyn mynd allan o’r cyfarfod.

Penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu

53.—(1Ni fydd y rheoliad hwn yn rhagfarnu ar unrhyw hawliau a rhwymedigaethau a all fod gan y clerc o dan unrhyw gontract â’r corff llywodraethu neu â’r awdurdod lleol.

(2Rhaid i’r corff llywodraethu benodi clerc i’r corff llywodraethu.

(3Rhaid i glerc y corff llywodraethu beidio â bod—

(a)yn llywodraethwr;

(b)yn aelod nad yw’n llywodraethwr o unrhyw un o bwyllgorau’r corff llywodraethu; nac

(c)yn bennaeth y ffederasiwn neu’n bennaeth ysgol ffederal.

(4Er gwaethaf paragraff (2) caiff y corff llywodraethu, os yw’r clerc yn methu â bod yn bresennol mewn cyfarfod, benodi unrhyw un o blith ei aelodau (ond nid pennaeth y ffederasiwn na phennaeth ysgol ffederal) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.

(5Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo clerc y corff llywodraethu.

(6Os nad oes gan yr un ysgol ffederal, ar unrhyw adeg, gyllideb ddirprwyedig(23), caiff yr awdurdod lleol ddiswyddo clerc y corff llywodraethu a phenodi un yn ei le, ar yr amod bod yr awdurdod lleol yn ymgynghori â’r corff llywodraethu cyn gweithredu felly.

Swyddogaethau clerc y corff llywodraethu

54.—(1Rhaid i glerc y corff llywodraethu—

(a)gynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 57;

(b)bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu a sicrhau y cynhyrchir cofnodion o’r trafodion yn unol â rheoliad 59;

(c)cadw cofrestr o aelodau’r corff llywodraethu ac adrodd am unrhyw leoedd gwag wrth y corff llywodraethu;

(d)cadw cofrestr o bresenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd ac adrodd ar unrhyw ddiffyg presenoldeb wrth y corff llywodraethu;

(e)rhoi a derbyn hysbysiadau yn unol â rheoliadau 32 (hysbysu swyddi gwag a phenodiadau), 37 (ymddiswyddo), 38 (diswyddo llywodraethwyr), 50(4) (ymddiswyddiad y cadeirydd neu’r is-gadeirydd) a 57(4) (cynnull cyfarfodydd) o’r Rheoliadau hyn, a pharagraff 14 o Atodlen 7 (hysbysiad o anghymhwyso) i’r Rheoliadau hyn;

(f)adrodd wrth y corff llywodraethu fel sy’n ofynnol ar gyflawni swyddogaethau’r person hwnnw; ac

(g)cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i’w gilydd.

(2Caiff clerc y corff llywodraethu ddarparu cyngor i’r corff llywodraethu ynglŷn â’i swyddogaethau a’i weithdrefnau.

RHAN 8CYFARFODYDD A THRAFODION CYRFF LLYWODRAETHU

Hawl personau i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu

55.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 56 a 75 o’r Rheoliadau hyn ac Atodlen 10 i’r Rheoliadau hyn mae hawl gan y personau canlynol i fod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y corff llywodraethu—

(a)yn ddarostyngedig i reoliad 61, llywodraethwr;

(b)clerc y corff llywodraethu;

(c)y pennaeth; a

(d)personau eraill fel a benderfynir gan y corff llywodraethu.

(2Mae’r cyfeiriad at y pennaeth ym mharagraff (1)(c) yn cynnwys—

(a)pennaeth y ffederasiwn (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio); neu

(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio).

Allgáu disgybl-lywodraethwyr cyswllt o gyfarfodydd

56.  Rhaid i’r corff llywodraethu allgáu disgybl-lywodraethwyr cyswllt o unrhyw drafodaeth gan y corff llywodraethu sy’n ymwneud ag—

(a)penodiadau staff, tâl y staff, disgyblu staff, rheoli perfformiad y staff, achwyniadau a gyflwynir gan y staff neu ddiswyddo staff;

(b)derbyn disgyblion;

(c)disgyblu disgyblion unigol;

(d)ethol, penodi a diswyddo llywodraethwyr;

(e)y gyllideb ac ymrwymiadau ariannol y corff llywodraethu;

(f)yn achos ysgol wirfoddol ffederal a gynorthwyir, y weithred ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â’r ysgol honno; neu

(g)unrhyw fater arall y bodlonir y corff llywodraethu ei fod, oherwydd ei natur, yn gyfrinachol ac y dylai barhau yn gyfrinachol.

Cynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu

57.—(1Rhaid i’r corff llywodraethu gynnal un cyfarfod o leiaf yn ystod pob tymor ysgol.

(2Rhaid i gyfarfodydd y corff llywodraethu gael eu cynnull gan y clerc ac wrth arfer y swyddogaeth hon, heb ragfarnu paragraff (3), rhaid i’r clerc gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—

(a)y corff llywodraethu; neu

(b)y cadeirydd, i’r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o’r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).

(3Caiff unrhyw dri aelod o’r corff llywodraethu ofyn am gyfarfod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r clerc sy’n cynnwys crynodeb o’r busnes sydd i’w drafod; a rhaid i’r clerc gynnull cyfarfod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6) a (7), rhaid i’r clerc roi hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod, copi o’r agenda, ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i’w hystyried yn y cyfarfod o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw i—

(a)pob llywodraethwr;

(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio); ac

(c)yr awdurdod lleol.

(5Pan fo’r cadeirydd yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy’n galw am sylw brys, bydd yn ddigon i’r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi’r ffaith honno ac i’r hysbysiad, y copi o’r agenda, yr adroddiadau a’r papurau eraill sydd i’w hystyried gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl cyfarwyddyd y person hwnnw.

(6Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod lle bo—

(a)diswyddo’r cadeirydd neu is-gadeirydd;

(b)atal unrhyw lywodraethwr;

(c)diswyddo llywodraethwr cymunedol neu noddwr-lywodraethwr; neu

(d)penderfyniad i gyflwyno hysbysiad o ddirwyn ysgol ffederal i ben o dan adran 80 o Ddeddf 2013;

i gael ei ystyried.

(7Pan fo paragraff (6) yn gymwys—

(a)rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod, copi o’r agenda ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill i’w hystyried yn y cyfarfod o leiaf saith niwrnod gwaith clir ymlaen llaw; a

(b)nid yw pŵer y cadeirydd i roi cyfarwyddyd i gynnal cyfarfod o fewn cyfnod byrrach yn gymwys.

(8Caiff yr is-gadeirydd arfer swyddogaethau’r cadeirydd yn y rheoliad hwn yn absenoldeb y cadeirydd neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag.

(9Ni fydd cyfarfod o’r corff llywodraethu a’i drafodion yn cael eu hannilysu oherwydd nad yw unrhyw berson wedi cael hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod neu gopi o’r agenda.

Cworwm a thrafodion y corff llywodraethu

58.—(1Y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r corff llywodraethu ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o’r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y corff llywodraethu heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw lywodraethwyr sydd wedi eu hatal o’r cyfarfod hwnnw yn unol â rheoliad 61.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bob cwestiwn sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o’r corff llywodraethu gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau’r llywodraethwyr sy’n bresennol ac yn pleidleisio ar y cwestiwn.

(3Ni chaiff disgybl-lywodraethwyr cyswllt bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o’r corff llywodraethu.

(4Pan fo’r pleidleisiau wedi eu rhannu’n gyfartal bydd gan y cadeirydd neu, yn ôl y digwydd, y person sy’n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod (ar yr amod bod person o’r fath yn llywodraethwr) ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

(5Ni fydd unrhyw benderfyniad i gyflwyno hysbysiad o ddirwyn ysgol ffederal i ben o dan adran 80 o Ddeddf 2013 yn cael effaith, p’un a wneir y penderfyniad gan y corff llywodraethu ynteu gan bwyllgor, oni chaiff ei gadarnhau gan y corff llywodraethu mewn cyfarfod a gynhelir ar ôl cyfnod o wyth ar hugain o ddiwrnodau gwaith clir o leiaf, ar ôl y cyfarfod y gwnaed y penderfyniad ynddo ac—

(a)oni phennir y mater yn eitem o fusnes ar agenda’r ddau gyfarfod; a

(b)oni roddir hysbysiad o’r ail gyfarfod yn unol â rheoliad 57(7).

(6Ni chaiff trafodion corff llywodraethu ysgol eu hannilysu oherwydd—

(a)unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau;

(b)unrhyw ddiffyg wrth ethol, penodi nac enwebu unrhyw lywodraethwr;

(c)unrhyw ddiffyg wrth benodi’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd; neu

(d)bod mwy o lywodraethwyr gan y ffederasiwn mewn categori penodol nag y darperir ar eu cyfer gan yr offeryn llywodraethu(24).

Cofnodion a phapurau

59.—(1Rhaid i’r clerc (neu’r person a benodir i weithredu fel clerc at ddiben y cyfarfod yn unol â rheoliad 53(4)) sicrhau bod cofnodion trafodion cyfarfod o’r corff llywodraethu’n cael eu llunio a’u llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y corff llywodraethu) gan y cadeirydd (neu gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd) yn y cyfarfod nesaf.

(2Rhaid i’r person sy’n gweithredu fel clerc y corff llywodraethu at ddibenion unrhyw gyfarfod ysgrifennu’n union cyn y nodyn sy’n cofnodi cofnodion y cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau’r aelodau hynny o’r corff llywodraethu ac unrhyw berson arall a oedd yn bresennol yn y cyfarfod dan sylw.

(3Rhaid i’r corff llywodraethu ddarparu copi o gofnodion drafft, neu o gofnodion llofnodedig cyfarfod penodol i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol dan sylw os gofynnir amdano gan yr awdurdod dan sylw.

Cyhoeddi cofnodion a phapurau

60.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, drefnu bod copïau o’r canlynol ar gael i’w harchwilio ym mhob un o’r ysgolion ffederal, gan unrhyw berson â diddordeb—

(a)agenda pob cyfarfod;

(b)cofnodion wedi’u llofnodi o bob cyfarfod o’r fath;

(c)unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o’r fath; a

(d)cofnodion drafft unrhyw gyfarfod, os cymeradwywyd hwy gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw.

(2Caiff y corff llywodraethu dynnu allan o unrhyw eitem y mae’n ofynnol trefnu iddi fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd sy’n ymwneud ag—

(a)person a enwir sy’n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal; neu

(b)disgybl yn yr ysgol sy’n cael ei enwi, neu un sy’n gwneud cais am le mewn ysgol ffederal; neu

(c)unrhyw fater arall y mae’r corff llywodraethu yn fodlon y dylai barhau yn gyfrinachol oherwydd ei natur.

(3Rhaid i bob tudalen o gopïau a gyhoeddir o unrhyw gofnodion drafft o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd nodi mai cofnodion drafft ydynt.

Atal llywodraethwyr

61.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caiff y corff llywodraethu, drwy benderfyniad, atal llywodraethwr o’r cyfan neu o rai o gyfarfodydd y corff llywodraethu, neu o bwyllgor, am gyfnod penodol o hyd at chwe mis ar un neu ragor o’r seiliau canlynol—

(a)bod y llywodraethwr, ac yntau’n berson y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal, yn destun achos disgyblu mewn perthynas â chyflogaeth y person hwnnw;

(b)bod y llywodraethwr yn destun achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys, y gallai ei ganlyniad olygu y caiff y person hwnnw ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o dan Atodlen 7;

(c)bod y llywodraethwr wedi gweithredu mewn modd sy’n anghyson ag ethos neu gymeriad crefyddol ysgol ffederal ac wedi dwyn neu’n debygol o ddwyn anfri ar y ffederasiwn, ysgol ffederal, y corff llywodraethu neu ar swydd y person hwnnw; neu

(d)bod y llywodraethwr wedi torri dyletswydd y person hwnnw o gyfrinachedd i’r ffederasiwn neu ysgol ffederal neu i unrhyw aelod o’r staff neu i unrhyw ddisgybl yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal.

(2Ni fydd penderfyniad i atal llywodraethwr o’i swydd yn cael effaith oni fo’r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 57(7).

(3Cyn y cymerir pleidlais ar benderfyniad i atal llywodraethwr, rhaid i’r llywodraethwr sy’n cynnig y penderfyniad ddatgan yn y cyfarfod ei resymau dros wneud hynny, a rhaid rhoi cyfle i’r llywodraethwr sy’n destun y penderfyniad wneud datganiad yn ymateb cyn mynd allan o’r cyfarfod yn unol â rheoliad 75(2).

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn i’w ddarllen fel petai’n effeithio ar hawl llywodraethwr a ataliwyd—

(a)i gael hysbysiadau o gyfarfodydd y corff llywodraethu, ac agendâu ac adroddiadau neu bapurau eraill ar eu cyfer; na

(b)i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r corff llywodraethu a gynullir yn unol â rheoliad 41 i ystyried diswyddo’r person hwnnw;

yn ystod cyfnod ei ataliad.

(5Nid oes dim yn y rheoliad hwn i’w ddarllen fel petai’n rhwystro corff llywodraethu rhag atal llywodraethwr a ataliwyd o dan baragraff (1) am gyfnod neu gyfnodau penodol pellach, p’un a yw ar yr un sail â’r atal gwreiddiol ai peidio, a bydd paragraffau (1) i (4) yn gymwys i bob ataliad.

(6Ni chaiff llywodraethwr ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd o dan baragraff 5 o Atodlen 7 am beidio â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o’r corff llywodraethu tra bo wedi ei atal o dan y rheoliad hwn.

Dirprwyo swyddogaethau

62.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 63 o’r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998(25) a rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(26), caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau—

(a)i bwyllgor;

(b)i unrhyw lywodraethwr; neu

(c)i bennaeth y ffederasiwn neu bennaeth ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio).

(2Pan fo corff llywodraethu wedi dirprwyo swyddogaethau ni fydd hynny yn rhwystro’r corff llywodraethu rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(3Rhaid i’r corff llywodraethu adolygu’n flynyddol y modd yr arferir y swyddogaethau a ddirprwywyd ganddo.

Cyfyngiadau ar ddirprwyo a phwyllgorau penodedig

63.—(1Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo o dan reoliad 62(1) ei swyddogaethau o dan y rheoliadau canlynol—

(a)y rhai hynny yn Rhan 3 (categorïau o lywodraethwyr);

(b)y rhai hynny yn Rhan 4 (cyfansoddiad cyrff llywodraethu ffederasiwn);

(c)y rhai hynny yn Rhan 5 (diswyddo llywodraethwyr);

(d)y rhai hynny yn Rhan 6 (offerynnau llywodraethu);

(e)rheoliadau 50 a 52 (ethol a diswyddo cadeirydd ac is-gadeirydd);

(f)rheoliad 53 (penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu);

(g)rheoliad 61 (atal llywodraethwyr);

(h)rheoliad 62 (dirprwyo swyddogaethau);

(i)rheoliad 66 (sefydlu pwyllgorau);

ac ni chaiff ychwaith ddirprwyo ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phanelau dethol pennaeth a dirprwy bennaeth o dan reoliadau 10(9) i (20), 24(8) i (19) a 34 o’r Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8).

(2Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo i unigolyn o dan reoliad 62(1)—

(a)ei swyddogaethau cynigion trefniadaeth ysgolion;

(b)y swyddogaethau:

(i)mewn cynllun a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan adran 48(1)(27) o Ddeddf 1998, i’r graddau y mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu gymeradwyo cynllun cyllideb ffurfiol cyntaf y flwyddyn ariannol;

(ii)yn adran 88(1) i (3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(28) (cyfrifoldeb corff llywodraethu am ddisgyblaeth);

(iii)yn adrannau 88(29), 89(30), 89A(31) a 90(8)(32) o Ddeddf 1998 (sy’n ymwneud â phenderfynu ar drefniadau derbyn), adran 90(1)(33) o Ddeddf 1998 (sy’n ymwneud â chyfeirio gwrthwynebiadau ynghylch trefniadau derbyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru), neu adran 94(34) o Ddeddf 1998 i’r graddau y mae’n ymwneud â phenderfynu ar drefniadau apêl gan y corff llywodraethu;

(iv)yn adran 63(35) o Ddeddf 1998 (targedau presenoldeb ysgol);

(v)yn adran 439(7) o Ddeddf 1996 (gorchmynion presenoldeb ysgol);

(vi)yn adrannau 95(2) a 97(3)(36) o Ddeddf 1998 (apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol i dderbyn plentyn a chyfeiriad i’r Cynulliad mewn cysylltiad â chyfarwyddyd a wneir gan yr awdurdod lleol i dderbyn plentyn); neu

(c)swyddogaethau y mae’n rhaid eu dirprwyo i’r pwyllgorau fel a bennir yn rheoliadau 67 i 69.

Adrodd wrth y corff llywodraethu ar ôl arfer swyddogaethau dirprwyedig

64.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unrhyw swyddogaeth o eiddo’r corff llywodraethu wedi ei dirprwyo i’r canlynol neu’n arferadwy fel arall gan y canlynol—

(a)llywodraethwr (gan gynnwys y cadeirydd neu’r is-gadeirydd);

(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio); neu

(c)pwyllgor.

(2Rhaid i unrhyw unigolyn neu bwyllgor y dirprwywyd swyddogaeth corff llywodraethu iddo neu sydd fel arall wedi arfer swyddogaeth corff llywodraethu, adrodd wrth y corff llywodraethu ynghylch unrhyw gam a gymerwyd neu benderfyniad a wnaed mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaeth honno.

RHAN 9PWYLLGORAU CYRFF LLYWODRAETHU

Cymhwyso’r Rhan hon

65.  Nid yw’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â phanelau dethol penaethiaid a dirprwy benaethiaid a sefydlwyd o dan reoliadau 10 neu 24 o’r Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8).

Sefydlu pwyllgorau y corff llywodraethu

66.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgorau’r corff llywodraethu yn ddarostyngedig i reoliadau 67, 68 a 69.

(2Rhaid i’r corff llywodraethu benderfynu ar gyfansoddiad, aelodaeth a chylch gwaith unrhyw bwyllgor y penderfyna ei sefydlu, a’u hadolygu’n flynyddol.

(3Rhaid i’r corff llywodraethu benodi cadeirydd yn flynyddol ar bob pwyllgor neu raid i’r pwyllgor ei ethol, yn ôl penderfyniad y corff llywodraethu.

(4Rhaid i bwyllgor ethol aelod o’r pwyllgor hwnnw i weithredu fel cadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd a benodwyd o dan baragraff (3).

(5Ni chaiff unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal, nac un o ddisgyblion cofrestredig y ffederasiwn neu ysgol ffederal, weithredu fel cadeirydd pwyllgor.

(6Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo cadeirydd unrhyw bwyllgor ar unrhyw adeg.

(7Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys disgybl-lywodraethwyr cyswllt a phersonau nad ydynt yn llywodraethwyr, a mater i’w benderfynu gan y corff llywodraethu yw i ba raddau y bydd gan y cyfryw aelodau hawl i bleidleisio.

(8Rhaid i fwyafrif yr aelodau ar unrhyw bwyllgor fod yn llywodraethwyr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

Y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a’r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo

67.—(1Rhaid i swyddogaethau canlynol corff llywodraethu ffederasiwn gael eu dirprwyo i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a diswyddo staff—

(a)pan fo ysgol ffederal yn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol, y penderfyniad cychwynnol o dan reoliad 17(1) o’r Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8), y dylai unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod lleol i weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal beidio â gweithio yno;

(b)pan fo ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, y penderfyniad cychwynnol o dan reoliad 29(1) o’r Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8) y dylai person a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal drefnu terfynu contract cyflogaeth y person hwnnw â’r corff llywodraethu neu na ddylai drefnu adnewyddu contract y person hwnnw (ac eithrio pan fo’r diswyddo yn unol â chyfarwyddyd yr awdurdod lleol o dan baragraff 7 o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2002); a

(c)gwrando ar sylwadau mewn perthynas â phenderfyniad y mae’n rhaid ei ddirprwyo o dan y paragraff hwn.

(2Rhaid dirprwyo gwrandawiad unrhyw apêl mewn cysylltiad â phenderfyniad y mae’n rhaid ei ddirprwyo o dan baragraff (1) i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

(3Rhaid i’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff gynnwys o leiaf dri llywodraethwr, ond pan wneir honiadau yn erbyn aelod o’r staff sy’n ymwneud â materion amddiffyn plant, rhaid i’r pwyllgor gynnwys o leiaf ddau lywodraethwr a pherson annibynnol nad yw’n llywodraethwr.

(4Rhaid i’r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo gynnwys o leiaf gynifer o lywodraethwyr â’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl a phan wneir honiadau yn erbyn aelod o’r staff sy’n ymwneud â materion amddiffyn plant, rhaid i’r pwyllgor gynnwys person annibynnol nad oedd yn gysylltiedig â phenderfyniad y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff.

(5At ddibenion paragraffau (3) a (4), mae person i’w ystyried yn annibynnol yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)pan nad yw’r person yn un o lywodraethwyr y ffederasiwn neu ysgol ffederal;

(b)pan nad yw’r person yn rhiant disgybl cyfredol neu flaenorol yn yr ysgol ffederal;

(c)pan nad yw’r person yn aelod cyfredol neu flaenorol o’r staff yn y ffederasiwn neu’r ysgol ffederal sydd dan sylw;

(d)pan nad yw’r person yn gyflogedig ar y pryd gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol ffederal sydd dan sylw.

(6Mae’r cworwm ar gyfer cyfarfod o’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a’r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgorau yr un nifer ag isafswm y gofynion ar gyfer cyfansoddiad y pwyllgorau hynny a bennir yn y rheoliad hwn.

(7Pan fo’r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo yn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad pwyllgor disgyblu a diswyddo staff, ni chaiff unrhyw aelod o’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl gymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

(8Ni chaiff pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal na disgybl-lywodraethwr cyswllt fod yn aelod o’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff nac o’r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

(9Ni fydd gan unrhyw aelod o’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff na’r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo nad yw’n llywodraethwr hawl i bleidleisio yn unrhyw drafodion y pwyllgor dan sylw, ac eithrio’r aelod annibynnol yn y naill bwyllgor neu’r llall, a benodwyd yn unol â pharagraff (3) neu (4).

Y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion

68.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion, i gyflawni’r swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (gwahardd disgyblion)(37).

(2Rhaid i’r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion gynnwys naill ai dri neu bump o lywodraethwyr, ond nid pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt.

(3Y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater gerbron y pwyllgor yw tri aelod o’r pwyllgor.

(4Caiff cadeirydd y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion arfer unrhyw swyddogaeth a roddwyd i’r corff llywodraethu gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (gwahardd disgyblion) mewn achos—

(a)pan fo disgybl wedi ei wahardd am gyfnod penodol mewn amgylchiadau lle y byddai’r disgybl hwnnw, o ganlyniad i’r gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus; a

(b)pan fo’n ymddangos i’r cadeirydd na fyddai’n ymarferol cynnal cyfarfod â chworwm o’r pwyllgor at unrhyw ddiben y cyfeirir ato mewn rheoliadau o’r fath cyn y deuai’r amser i’r disgybl sefyll yr arholiad hwnnw.

Y pwyllgor derbyniadau

69.—(1Os corff llywodraethu ffederasiwn yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol ffederal, rhaid iddo sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor derbyniadau, i arfer ei bwerau i benderfynu a ddylid derbyn unrhyw blentyn i’r ysgol ffederal.

(2Rhaid i bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)pennaeth neu bennaeth dros dro’r ffederasiwn; neu

(b)(os nad oes pennaeth na phennaeth dros dro i’r ffederasiwn) pennaeth neu bennaeth dros dro’r ysgol ffederal; ac

(c)o leiaf ddau lywodraethwr arall (ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt).

(3Mae’r cworwm ar gyfer y pwyllgor derbyniadau ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgor yr un nifer â’r isafswm sy’n ofynnol ar gyfer cyfansoddiad y pwyllgor a bennir yn y rheoliad hwn.

Clercod pwyllgorau

70.—(1Rhaid i’r corff llywodraethu benodi clerc i bob pwyllgor a sefydlir yn unol â rheoliadau 67 i 69 a chaiff benodi clerc i unrhyw bwyllgor arall a sefydlir ganddo.

(2Ni chaniateir penodi pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal na disgybl-lywodraethwr cyswllt yn glerc o dan baragraff (1).

(3Er gwaethaf paragraff (1) caiff y pwyllgor, os metha’r clerc â bod yn bresennol mewn un o’u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o’u plith (ond nid pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.

(4Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw glerc a benodir i unrhyw bwyllgor o’i eiddo ar unrhyw adeg.

(5Rhaid i glerc a benodir i bwyllgor y corff llywodraethu—

(a)cynnull cyfarfodydd y pwyllgor;

(b)bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor a sicrhau y llunnir cofnodion o’r trafodion; ac

(c)cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag mewn cysylltiad â’r pwyllgor hwnnw a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i’w gilydd.

Hawl personau i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd pwyllgorau

71.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) ac Atodlen 10 i’r Rheoliadau hyn bydd gan y canlynol yr hawl i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o bwyllgor—

(a)unrhyw aelod o’r pwyllgor, ar yr amod nad yw’r person hwnnw yn llywodraethwr a ataliwyd yn unol â rheoliad 61;

(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn aelod o’r pwyllgor ai peidio);

(c)clerc y pwyllgor; ac

(d)pa bersonau eraill bynnag y bo’r corff llywodraethu neu’r pwyllgor yn penderfynu yn eu cylch.

(2Caiff pwyllgor wahardd aelod nad yw’n llywodraethwr o unrhyw ran o’i gyfarfod y mae gan y person hwnnw hawl fel arall i fod yn bresennol ynddo, pan fo’r busnes o dan ystyriaeth yn ymwneud ag aelod unigol o’r staff neu â disgybl.

(3Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys mewn perthynas â’r pwyllgorau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 67 ac 68 nac mewn perthynas ag unrhyw bwyllgor neu banel dethol sy’n arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8).

Cyfarfodydd pwyllgorau

72.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i gyfarfodydd pwyllgor gael eu cynnull gan glerc y pwyllgor hwnnw ac mae’n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth honno, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—

(a)y corff llywodraethu;

(b)cadeirydd y pwyllgor hwnnw, i’r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o’r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).

(2Oni phenodwyd clerc, rhaid i’r cadeirydd gynnull cyfarfodydd pwyllgorau ac mae’n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y corff llywodraethu.

(3Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraffau (1) neu (2), rhaid i’r clerc roi, o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw, i bob aelod o’r pwyllgor ac i bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn aelod o’r pwyllgor ai peidio)—

(a)hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod;

(b)copi o agenda’r cyfarfod; ac

(c)unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i’w hystyried yn y cyfarfod;

ond bydd yn ddigon, pan fo cadeirydd y pwyllgor yn penderfynu hynny ar y sail bod materion sy’n galw am sylw brys, i’r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi’r ffaith honno ac i’r hysbysiad, yr agenda, a’r adroddiadau neu’r papurau eraill sydd i’w hystyried yn y cyfarfod gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl cyfarwyddyd neu benderfyniad y person hwnnw (yn ôl y digwydd).

(4Nid annilysir trafodion pwyllgor gan—

(a)unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau; na

(b)unrhyw ddiffyg wrth benodi unrhyw aelod o’r pwyllgor.

(5Yn ddarostyngedig i reoliadau 67(6), 68(3) a 69(4), y cworwm ar gyfer cyfarfod o bwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o’r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y pwyllgor heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (8), ni chaniateir cymryd pleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o bwyllgor oni fo mwyafrif aelodau’r pwyllgor sy’n bresennol yn llywodraethwyr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

(7Rhaid i bob cwestiwn sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o bwyllgor gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau aelodau’r pwyllgor sy’n bresennol ac yn pleidleisio ar y cwestiwn.

(8Pan fo’r pleidleisiau wedi eu rhannu’n gyfartal bydd gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y cyfryw berson yn llywodraethwr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

Cofnodion cyfarfodydd pwyllgorau

73.—(1Rhaid llunio cofnodion o’r trafodion mewn cyfarfod o bwyllgor, gan glerc y pwyllgor neu gan y person sy’n gweithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod; a rhaid eu llofnodi (yn ddarostyngedig i’w cymeradwyo gan y pwyllgor) gan gadeirydd y cyfarfod nesaf o’r pwyllgor.

(2Rhaid i unrhyw bwyllgor corff llywodraethu ddarparu copi i’w awdurdod lleol o gofnodion drafft neu gofnodion llofnodedig unrhyw un o’i gyfarfodydd, os gwneir cais am gopi gan yr awdurdod lleol hwnnw.

Cyhoeddi cofnodion a phapurau

74.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r pwyllgor, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi copïau o’r canlynol ar gael i’w harchwilio gan unrhyw un â diddordeb, ym mhob un o’r ysgolion ffederal sy’n ffurfio rhan o’r ffederasiwn—

(a)yr agenda ar gyfer pob cyfarfod o’r pwyllgor;

(b)cofnodion llofnodedig pob cyfarfod o’r fath; ac

(c)unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o’r fath.

(2Caiff y pwyllgor dynnu allan o unrhyw eitem y mae’n ofynnol ei rhoi ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—

(a)person a enwir sy’n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal;

(b)disgybl a enwir, neu ymgeisydd am le, yn y ffederasiwn;

(c)unrhyw fater arall y bodlonir y pwyllgor y dylai, oherwydd ei natur, barhau yn gyfrinachol.

RHAN 10CYFYNGIADAU AR BERSONAU RHAG CYMRYD RHAN YN NHRAFODION Y CORFF LLYWODRAETHU NEU EI BWYLLGORAU

Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan mewn trafodion

75.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 10—

(a)ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw llywodraethwr, aelod o bwyllgor nad yw’n llywodraethwr, pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio) neu unrhyw berson a benodir yn glerc y corff llywodraethu neu bwyllgor; a

(b)mae unrhyw gyfeiriad at “cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal” (“meeting of the federation or a federated school”) yn gyfeiriad at gyfarfod o’r corff llywodraethu neu o bwyllgor, gan gynnwys panel dethol a sefydlwyd o dan y Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—

(a)pan fo gwrthdaro yn bosibl, mewn perthynas ag unrhyw fater, rhwng buddiannau person perthnasol a buddiannau’r corff llywodraethu;

(b)pan fo gwrandawiad teg yn ofynnol ac unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu person perthnasol i weithredu’n ddiduedd mewn perthynas ag unrhyw fater; neu

(c)pan fo gan berson perthnasol fuddiant ariannol mewn unrhyw fater;

rhaid i’r person hwnnw, os yw’n bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal lle mae’r mater yn cael ei ystyried, ddatgelu’r buddiant sydd gan y person hwnnw, mynd allan o’r cyfarfod a pheidio â phleidleisio ar y mater o dan sylw.

(3Ni ddylid dehongli dim yn y rheoliad hwn nac yn Atodlen 10 fel pe bai’n atal—

(a)y corff llywodraethu, neu bwyllgor, rhag—

(i)caniatáu i berson sydd yn ei dyb ef yn gallu rhoi tystiolaeth fod yn bresennol mewn unrhyw wrandawiad a gynhelir ganddo ar unrhyw fater a chyflwyno tystiolaeth y person hwnnw; neu

(ii)clywed sylwadau gan berson perthnasol sy’n gweithredu mewn swyddogaeth ar wahân i swyddogaeth person perthnasol; neu

(b)person perthnasol rhag ymrwymo i gontract â’r corff llywodraethu y mae gan y person hwnnw hawl i elwa oddi wrtho.

(4Ni fydd yn ofynnol i berson sy’n gweithredu fel clerc i gyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal fynd allan o gyfarfod yn rhinwedd y rheoliad hwn nac Atodlen 10 oni fo penodiad y person hwnnw i swydd, tâl y person hwnnw neu achos disgyblu yn erbyn y person hwnnw o dan ystyriaeth, ond pe bai’r rheoliad hwn neu Atodlen 10 fel arall wedi ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw fynd allan, ni chaiff y person hwnnw weithredu mewn unrhyw swyddogaeth ac eithrio swyddogaeth clerc.

(5Os oes unrhyw anghydfod ynghylch a yw’n ofynnol i berson perthnasol yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu Atodlen 10, fynd allan o gyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal a pheidio â phleidleisio, mae’r cwestiwn hwnnw i’w benderfynu gan y llywodraethwyr eraill sy’n bresennol yn y cyfarfod.

(6Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch buddiannau ariannol a mathau penodedig eraill o wrthdaro rhwng buddiannau.

RHAN 11GWYBODAETH A CHYLLIDO

Gwybodaeth ar gyfer corff llywodraethu ffederasiwn

76.—(1Yn union cyn y dyddiad ffedereiddio, rhaid i gorff llywodraethu ysgol sydd i ddod yn ysgol ffederal, at y diben o gynorthwyo corff llywodraethu’r ffederasiwn, baratoi adroddiad ysgrifenedig ar y camau a gymerwyd ganddo wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â’r ysgol.

(2Ar y dyddiad ffedereiddio, rhaid i holl gofnodion a phapurau corff llywodraethu ysgol sydd i ddod yn ysgol ffederal, gan gynnwys yr adroddiad a baratowyd o dan baragraff (1), gael eu rhoi ar gael i gorff llywodraethu’r ffederasiwn.

Ariannu ffederasiynau

77.  Ac eithrio fel a ddarperir gan reoliad 78, mae Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf 1998 (ariannu ysgolion a gynhelir) yn gymwys i ysgolion ffederal a’u cyrff llywodraethu fel y mae’n gymwys i ysgolion eraill a gynhelir ac i’w cyrff llywodraethu.

Addasu Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf 1998

78.—(1Wrth ei chymhwyso i ysgol ffederal yng Nghymru, ac eithrio ysgol ffederal y sefydlwyd corff llywodraethu dros dro ar ei chyfer yn unol â rheoliad 81 neu 88, bydd adran 50(38) o Ddeddf 1998 (effaith dirprwyo ariannol) yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol.

(2Yn is-adran (1), yn lle “maintained” rhodder “federated”.

(3Yn is-adran (2) yn lle “any amounts are made available by the authority to the governing body” rhodder “any amounts in respect of a federated school are made available by the local authority to the governing body of a federation”.

(4Yn is-adran (3)—

(a)yn lle “the governing body may spend any such amounts” rhodder “the governing body of a federation may spend any amounts made available under subsection (2), or previously made available to the governing bodies of the federated schools before federation”; a

(b)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)for any purposes of the federated school to which the amounts relate;

(ab)for any purposes of any other federated school within the federation;

(ac)for any purposes of the federation; or.

(5Yn is-adran (4), yn lle ““purposes of the school” in subsection (3) does not include” rhodder “any reference to the purposes of a federated school or a federation in subsection 3(a), (ab) and (ac) does not include”.

(6Yn is-adran (6), yn lle “the head teacher” rhodder “the head teacher of the federation or to the head teachers of federated schools”.

(7Yn is-adran (7), yn lle “school” rhodder “federation”.

RHAN 12YSGOLION FFEDERAL SY’N GADAEL FFEDERASIYNAU

Y weithdrefn i ysgol adael ffederasiwn nad yw’n un awdurdod lleol

79.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gais a wneir i gorff llywodraethu ffederasiwn am i ysgol ffederal (“yr ysgol berthnasol”) adael y ffederasiwn pan nad yw’r ysgol berthnasol yn rhan o ffederasiwn awdurdod lleol.

(2Ni chaniateir gwneud cais os yw’r ysgol berthnasol yn destun ymyriad gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru o dan Bennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2013 oni bai bod yr awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) yn cytuno y caniateir gwneud y cais.

(3Rhaid gwneud y cais mewn ysgrifen a rhaid ei lofnodi gan—

(a)dau neu ragor o lywodraethwyr;

(b)un rhan o bump o rieni’r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol berthnasol;

(c)dwy ran o bump o’r staff y telir iddynt am weithio yn yr ysgol berthnasol;

(d)yr awdurdod lleol;

(e)ymddiriedolwyr yr ysgol berthnasol; neu

(f)corff sydd â’r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig i gorff llywodraethu’r ffederasiwn.

(4Rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn hysbysu’r canlynol am y cais—

(a)pob awdurdod lleol perthnasol;

(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) penaethiaid pob un o’r ysgolion ffederal;

(c)pan fo’r ysgol berthnasol yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â’r ysgol berthnasol ac, yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu’r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o’r fath;

(d)corff sydd a’r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig i gorff llywodraethu’r ffederasiwn;

(e)ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth unrhyw ysgol ffederal y ffederasiwn;

(f)yr holl staff y telir iddynt am weithio yn yr ysgol berthnasol;

(g)pob person y gŵyr ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol berthnasol;

(h)pob undeb llafur y gŵyr fod ganddo aelodau sy’n cael eu cyflogi i weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac

(i)pa bersonau eraill bynnag a ystyrir yn briodol gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn.

(5Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (4) gael ei roi o fewn y cyfnod o bum niwrnod gwaith clir sy’n dechrau ar y dyddiad y cafwyd y cais.

(6Ystyrir bod corff llywodraethu ffederasiwn wedi cael cais o dan baragraff (1) os rhoddwyd neu anfonwyd y cais at gadeirydd neu glerc corff llywodraethu’r ffederasiwn.

(7Ymhen dim llai na phedwar diwrnod ar ddeg clir wedi i gorff llywodraethu ffederasiwn roi hysbysiad o’r cais yn unol â pharagraff (4), rhaid i’r corff llywodraethu ystyried y cais a’r holl ymatebion a gafwyd gan y personau yr anfonwyd hysbysiad o’r cais atynt, a rhaid iddo benderfynu—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (10), a ddylai’r ysgol berthnasol adael y ffederasiwn, ac os felly, ar ba ddyddiad y dylai wneud hynny (“y dyddiad dadffedereiddio”) (“the de-federation date”);

(b)a ddylid diddymu’r ffederasiwn ac, os felly, ar ba ddyddiad; neu

(c)a ddylai’r ysgol berthnasol beidio â gadael y ffederasiwn.

(8Nid yw penderfyniad o’r fath yn cael effaith onid yw’r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, ac oni roddwyd hysbysiad o’r cyfarfod yn unol â rheoliad 57(4).

(9Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn roi hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad o dan baragraff (7) o fewn pum niwrnod gwaith clir i’r personau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).

(10Rhaid i’r dyddiad dadffedereiddio a bennir gan y corff llywodraethu beidio â bod yn gynharach na 125 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir hysbysiad o benderfyniad y corff llywodraethu o dan baragraff (9).

Y weithdrefn i ysgol adael ffederasiwn awdurdod lleol

80.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gais a wneir i’r awdurdod lleol cynnal am i ysgol ffederal (“yr ysgol berthnasol”) adael y ffederasiwn awdurdod lleol.

(2Ni chaniateir gwneud cais os yw’r ysgol berthnasol yn destun ymyriad gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2013 oni bai bod yr awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) yn cytuno y caniateir gwneud y cais.

(3Rhaid gwneud y cais mewn ysgrifen a rhaid ei lofnodi gan—

(a)dau neu ragor o lywodraethwyr;

(b)un rhan o bump o rieni’r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol berthnasol;

(c)dwy ran o bump o’r staff y telir iddynt am weithio yn yr ysgol berthnasol;

(d)yr awdurdod lleol;

(e)ymddiriedolwyr yr ysgol berthnasol; neu

(f)corff sydd â’r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig i gorff llywodraethu’r ffederasiwn.

(4Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol berthnasol hysbysu’r canlynol am y cais—

(a)pob awdurdod lleol perthnasol;

(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) penaethiaid pob un o’r ysgolion ffederal;

(c)pan fo’r ysgol berthnasol yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â’r ysgol berthnasol ac, yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu’r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o’r fath;

(d)corff sydd â’r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig i gorff llywodraethu’r ffederasiwn;

(e)ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth unrhyw ysgol ffederal y ffederasiwn;

(f)yr holl staff y telir iddynt am weithio yn yr ysgol berthnasol;

(g)pob person y gŵyr ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol berthnasol;

(h)pob undeb llafur y gŵyr fod ganddo aelodau sy’n cael eu cyflogi i weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac

(i)pa bersonau eraill bynnag a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.

(5Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (4) gael ei roi o fewn y cyfnod o bum niwrnod gwaith clir sy’n dechrau ar y dyddiad y cafwyd y cais.

(6Ystyrir bod yr awdurdod lleol wedi cael cais o dan baragraff (1) os rhoddwyd neu anfonwyd y cais at y prif swyddog addysg(39).

(7Ymhen dim llai na 14 o ddiwrnodau gwaith clir wedi i’r awdurdod lleol roi hysbysiad o’r cais yn unol â pharagraff (4), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y cais a’r holl ymatebion a gafwyd gan y personau yr anfonwyd hysbysiad o’r cais atynt, a rhaid iddo benderfynu—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (9), a ddylai’r ysgol berthnasol adael y ffederasiwn, ac os felly, ar ba ddyddiad y dylai wneud hynny (“y dyddiad dadffedereiddio”) (“the de-federation date”);

(b)a ddylid diddymu’r ffederasiwn ac, os felly, ar ba ddyddiad; neu

(c)a ddylai’r ysgol berthnasol beidio â gadael y ffederasiwn.

(8Rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad o dan baragraff (7) o fewn pum niwrnod gwaith clir i’r personau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).

(9Rhaid i’r dyddiad dadffedereiddio a bennir gan y corff llywodraethu beidio â bod yn gynharach na 125 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddwyd hysbysiad o benderfyniad y corff llywodraethu o dan baragraff (8).

Penderfyniad i ganiatáu i ysgol ffederal adael ffederasiwn

81.—(1Wedi i hysbysiad gael ei roi bod corff llywodraethu ffederasiwn neu’r awdurdod lleol wedi penderfynu y dylai ysgol ffederal adael y ffederasiwn, bydd paragraffau (2) neu (3) yn gymwys.

(2Pan fo un o’r unig ddwy ysgol ffederal yn gadael ffederasiwn, rhaid diddymu’r ffederasiwn yn unol â Rhan 13.

(3Pan nad yw paragraff (2) yn gymwys,

(a)rhaid i’r awdurdod lleol—

(i)sefydlu corff llywodraethu dros dro mewn cysylltiad â’r ysgol sy’n gadael y ffederasiwn yn unol â Rhannau 3 a 4 o’r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd; a

(ii)dyroddi offeryn llywodraethu newydd i’r ysgol honno yn unol â Rhan 5 o’r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir;

(b)rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn adolygu offeryn llywodraethu’r ffederasiwn yn unol â rheoliad 45.

(4At ddibenion paragraff (3)(a)(ii)—

(a)trinnir y cyfeiriad yn rheoliad 33 o’r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir at “gyrff llywodraethu” fel pe bai’n gyfeiriad at “gyrff llywodraethu dros dro”; a

(b)trinnir y cyfeiriadau yn rheoliad 34 o’r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir at—

(i)“corff llywodraethu” fel pe baent yn gyfeiriadau at “corff llywodraethu dros dro”; a

(ii)“llywodraethwyr sefydledig” fel pe baent yn gyfeiriadau at “llywodraethwyr sefydledig dros dro”.

Argaeledd symiau sy’n cynrychioli cyfran o gyllideb

82.  Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan, neu o dan, gynllun a wnaed o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998, caiff corff llywodraethu dros dro ysgol sy’n gadael ffederasiwn wario, fel y gwêl yn dda at unrhyw ddibenion yr ysgol honno, unrhyw swm a roddwyd ar gael gan yr awdurdod lleol o dan adran 50(1) o’r Ddeddf honno(40) i gorff llywodraethu’r ffederasiwn mewn cysylltiad â’r ysgol sy’n gadael y ffederasiwn.

Ymgorffori corff llywodraethu ysgol sy’n gadael ffederasiwn

83.  Ar y dyddiad dadffedereiddio, ymgorfforir corff llywodraethu dros dro yr ysgol a ddadffedereiddiwyd, yn gorff llywodraethu yr ysgol honno, o dan yr enw a roddir yn offeryn llywodraethu yr ysgol.

Trosglwyddo eiddo

84.—(1Ar y dyddiad dadffedereiddio—

(a)mae’r holl dir neu eiddo a ddelid yn union cyn y dyddiad dadffedereiddio gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn at ddibenion yr ysgol a ddadffedereiddiwyd yn trosglwyddo i’r corff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan reoliad 83 ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cael eu breinio yn y corff llywodraethu hwnnw; a

(b)mae’r holl hawliau a rhwymedigaethau a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad dadffedereiddio ac a gaffaelwyd neu yr eir iddynt gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn at ddibenion yr ysgol a ddadffedereiddiwyd, yn trosglwyddo i’r corff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan reoliad 83.

(2Mae adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(41) ac Atodlen 10 i’r Ddeddf honno (sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau) yn gymwys mewn perthynas â throsglwyddiadau a gyflawnir gan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i drosglwyddiadau y mae’r adran ac Atodlen hynny yn gymwys iddynt.

RHAN 13DIDDYMU FFEDERASIYNAU

Diddymu ffederasiynau nad ydynt yn rhai awdurdodau lleol gan gorff llywodraethu

85.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3) os yw—

(a)corff llywodraethu ffederasiwn yn penderfynu y dylid diddymu’r ffederasiwn; neu

(b)corff llywodraethu ffederasiwn yn penderfynu y dylai un o’r unig ddwy ysgol ffederal adael y ffederasiwn,

rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn roi hysbysiad o’r penderfyniad ac o’r dyddiad diddymu arfaethedig i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (2), o fewn pedwar ar ddeg o ddiwrnodau gwaith clir i’r penderfyniad.

(2Y personau sydd i’w hysbysu yw—

(a)pob awdurdod lleol perthnasol;

(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pob pennaeth ysgol ffederal;

(c)pob aelod o’r staff y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal;

(d)pob person y gŵyr y corff llywodraethu ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol ffederal;

(e)pan fo ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, y llywodraethwyr sefydledig, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â’r ysgol ffederal ac, yn achos ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu’r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o’r fath;

(f)pob undeb llafur y gwyddant fod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac

(g)pa bersonau eraill bynnag a ystyrir yn briodol gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn gymwys i gorff llywodraethu ffederasiwn awdurdod lleol.

(4Rhaid i’r dyddiad diddymu arfaethedig a bennir gan y corff llywodraethu beidio â bod yn llai na 125 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan baragraff (1).

Diddymu ffederasiynau awdurdodau lleol gan gorff llywodraethu

86.—(1Os yw—

(a)corff llywodraethu ffederasiwn awdurdod lleol yn penderfynu y dylid diddymu’r ffederasiwn; neu

(b)corff llywodraethu ffederasiwn awdurdod lleol yn penderfynu y dylai un o’r unig ddwy ysgol ffederal adael y ffederasiwn,

rhaid i’r corff llywodraethu geisio cydsyniad unrhyw awdurdod lleol cynnal i ddiddymu’r ffederasiwn.

(2Os rhoddir cydsyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r corff llywodraethu roi hysbysiad o’i benderfyniad ac o’r dyddiad diddymu arfaethedig i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (3) o fewn pedwar ar ddeg o ddiwrnodau gwaith clir ar ôl i’r cydsyniad gael ei roi.

(3Y personau sydd i’w hysbysu yw—

(a)pob awdurdod lleol perthnasol;

(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pob pennaeth ysgol ffederal;

(c)pob aelod o’r staff y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal;

(d)pob person y gŵyr y corff llywodraethu ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol ffederal;

(e)pan fo ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, y llywodraethwyr sefydledig, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â’r ysgol ffederal ac, yn achos ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu’r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o’r fath;

(f)pob undeb llafur y gwyddant fod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac

(g)pa bersonau eraill bynnag a ystyrir yn briodol gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn.

(4Rhaid i’r dyddiad diddymu arfaethedig a bennir gan y corff llywodraethu beidio â bod yn llai na 125 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan baragraff (2).

Diddymu ffederasiynau awdurdodau lleol gan awdurdod lleol

87.—(1Os yw—

(a)awdurdod lleol cynnal ffederasiwn awdurdod lleol yn penderfynu y dylid diddymu’r ffederasiwn; neu

(b)awdurdod lleol cynnal ffederasiwn awdurdod lleol yn penderfynu y dylai un o’r unig ddwy ysgol ffederal adael y ffederasiwn,

rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad o’r ffaith ac o’r dyddiad diddymu arfaethedig i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (2) o fewn pedwar ar ddeg o ddiwrnodau gwaith clir ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw.

(2Y personau sydd i’w hysbysu yw—

(a)pob awdurdod lleol perthnasol;

(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pob pennaeth ysgol ffederal;

(c)pob aelod o’r staff y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal;

(d)pob person y gŵyr y corff llywodraethu ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol ffederal;

(e)pan fo ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, y llywodraethwyr sefydledig, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â’r ysgol ffederal ac, yn achos ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu’r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o’r fath;

(f)corff sydd â’r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig i gorff llywodraethu’r ffederasiwn;

(g)ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth unrhyw un o ysgolion ffederal y ffederasiwn;

(h)pob undeb llafur y gwyddant fod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac

(i)pa bersonau eraill bynnag a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.

(3Ddim llai na phedwar ar ddeg o ddiwrnodau gwaith clir ar ôl i’r awdurdod lleol roi hysbysiad o’r penderfyniad yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y penderfyniad a phob ymateb a ddaw i law gan y personau yr anfonwyd hysbysiad o’r penderfyniad atynt a rhaid iddo benderfynu—

(a)p’un a ddylid diddymu’r ffederasiwn ac, os felly, ar ba ddyddiad;

(b)p’un a ddylai un o’r unig ddwy ysgol ffederal adael y ffederasiwn, ac os felly, ar ba ddyddiad; neu

(c)p’un a ddylai’r ffederasiwn beidio â chael ei ddiddymu.

(4Rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad o dan baragraff (2) o fewn pum niwrnod gwaith clir i’r personau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).

Sefydlu corff llywodraethu dros dro

88.—(1Ar ôl derbyn yr hysbysiad a ddyroddir o dan reoliad 85, 86 neu 87, rhaid i’r awdurdod lleol neu awdurdodau lleol perthnasol—

(a)sefydlu corff llywodraethu dros dro mewn cysylltiad â phob ysgol yn unol â Rhannau 3 a 4 o’r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd; a

(b)dyroddi offeryn llywodraethu newydd ar gyfer pob ysgol yn unol â Rhan 5 o’r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir.

(2At ddibenion rheoliad 88(1)(b)—

(a)trinnir y cyfeiriad yn rheoliad 32 o’r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir at “gyrff llywodraethu” fel pe bai’n gyfeiriad at “gyrff llywodraethu dros dro”; a

(b)trinnir y cyfeiriadau yn rheoliad 34 o’r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir at—

(i)“corff llywodraethu” fel pe baent yn gyfeiriadau at “corff llywodraethu dros dro”; a

(ii)“llywodraethwyr sefydledig” fel pe baent yn gyfeiriadau at “llywodraethwyr sefydledig dros dro”.

Argaeledd symiau sy’n cynrychioli cyfran o gyllideb

89.  Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan, neu o dan, gynllun a wnaed o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998, caiff corff llywodraethu dros dro pob un o’r ysgolion wario unrhyw swm a roddwyd ar gael gan yr awdurdod lleol o dan adran 50(1) o’r Ddeddf honno(42) i gorff llywodraethu’r ffederasiwn mewn cysylltiad â phob ysgol, fel y gwêl yn dda at unrhyw ddibenion yr ysgol honno.

Ymgorffori corff llywodraethu ysgol sy’n gadael ffederasiwn

90.  Ar y dyddiad diddymu ymgorfforir corff llywodraethu dros dro pob ysgol ffederal, yn gorff llywodraethu pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, o dan yr enw a roddir yn offeryn llywodraethu yr ysgol.

Trosglwyddo eiddo

91.—(1Ar y dyddiad diddymu—

(a)mae’r holl dir neu eiddo a ddelid yn union cyn y dyddiad diddymu gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn at ddibenion pob ysgol a ddadffedereiddiwyd yn trosglwyddo i gorff llywodraethu newydd pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cael ei freinio yn y corff llywodraethu newydd hwnnw a ymgorfforwyd o dan reoliad 88; a

(b)mae’r holl hawliau a rhwymedigaethau a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad diddymu ac a gaffaelwyd neu yr eir iddynt gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn at ddibenion pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, yn trosglwyddo i gorff llywodraethu newydd pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, ac a ymgorfforwyd o dan reoliad 90.

(2Mae adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(43) ac Atodlen 10 i’r Ddeddf honno (sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau) yn gymwys mewn perthynas â throsglwyddiadau a gyflawnir gan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i drosglwyddiadau y mae’r adran ac Atodlen hynny yn gymwys iddynt.

RHAN 14DIWYGIADAU I REOLIADAU

Diwygiadau i Reoliadau Cydlafurio Rhwng Cyrff Addysg (Cymru) 2012

92.—(1Mae Rheoliadau Cydlafurio Rhwng Cyrff Addysg (Cymru) 2012(44) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1)—

(a)yn y diffiniad o “y Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir” yn lle “Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010” rhodder “Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014”;

(b)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

“ystyr “cyfnod pontio’r ffederasiwn (“federation transition period”) yw’r cyfnod o amser ar ôl i benderfyniad gael ei wneud i fynd ymlaen â’r cynigion ar gyfer ffederasiwn o dan reoliadau 7(1), 10(2), neu 12(2) o Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 ond cyn y dyddiad ffedereiddio;”;

mae “ffederasiwn” (“federation”) ac “ysgol ffederal” (“federated school”) i’w dehongli yn unol ag adran 21 o Fesur Addysg (Cymru) 2011(45);”.

(3Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “Pan” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (5) pan”;

(b)yn is-baragraff (a) o baragraff (1) yn lle “reoliad 59” rhodder “reoliad 62”;

(c)ym mharagraff (4) yn lle “rheoliadau 59 i 61” rhodder “rheoliadau 62 i 64”; a

(d)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Yn ystod cyfnod pontio’r ffederasiwn nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn atal cyrff llywodraethu ysgolion sy’n bwriadu ffedereiddio rhag ffurfio panel dewis ar y cyd..

(4Yn rheoliad 7(2) yn lle “32 o’r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir, a pharagraffau 2 i 12” rhodder “35 o’r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir, a pharagraffau 2 i 13”.

Diwygiadau i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013

93.—(1Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013(46) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)hepgorer y diffiniad o Reoliadau 2010;

(b)yn y man priodol mewnosoder—

“ystyr “Rheoliadau 2014” (“the 2014 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014;”;

(c)yn y diffiniad o “cadeirydd corff llywodraethu” yn lle “reoliad 47 o Reoliadau 2010” rhodder “reoliad 50 o Reoliadau 2014”;

(d)yn y diffiniad o “llywodraethwr” yn lle “2010” rhodder “2014”;

(3Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (4)(b) yn lle “reoliad 38 o Reoliadau 2010” rhodder “reoliad 41 o Reoliadau 2014”;

(b)ym mharagraff (5) yn lle “2010” rhodder “2014”; ac

(c)ym mharagraff (6) yn lle “32 o Reoliadau 2010” rhodder “35 o Reoliadau 2014”.

(4Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (4)(b) yn lle “reoliad 38 o Reoliadau 2010” rhodder “reoliad 41 o Reoliadau 2014”.

(b)ym mharagraff (5) yn lle “2010” rhodder “2014”; ac

(c)ym mharagraff (6) yn lle “32 o Reoliadau 2010” rhodder “35 o Reoliadau 2014”.

(5Hepgorer rheoliad 7.

Diwygiadau i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Clerc i Gorff Llywodraethu) (Cymru) 2013

94.—(1Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Clerc i Gorff Llywodraethu) (Cymru) 2013(47) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)hepgorer y diffiniad o Reoliadau 2010; a

(b)yn y man priodol mewnosoder—

ystyr “Rheoliadau 2014” (“the 2014 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014;.

(3Yn rheoliad 3(1)(b) yn lle “50 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 51 o Reoliadau 2010” rhodder “53 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 54 o Reoliadau 2014”.

(4Yn rheoliad 4—

(a)yn is-baragraff (c) o baragraff (1) yn lle “50 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 51 o Reoliadau 2010” rhodder “53 i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 54 o Reoliadau 2014”;

(b)yn lle is-baragraff (d) o baragraff (1) rhodder—

(d)yn berson a benodwyd yn rhinwedd rheoliad 70(1) i gyflawni’r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 70(5) mewn cysylltiad â phwyllgor a sefydlwyd yn unol â rheoliadau 67 i 69 o Reoliadau 2014; neu; ac

(c)yn is-baragraff (c) o baragraff (3) yn lle “50 o Reoliadau 2010” rhodder “53 o Reoliadau 2014”.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

29 Ebrill 2014

Rheoliad 8

ATODLEN 1Cyrff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion newydd sy’n bwriadu ffedereiddio

Egwyddorion cyffredinol

1.  Mae maint aelodaeth y corff llywodraethu dros dro, na chaiff fod yn llai na 15 nac yn fwy na 27 o lywodraethwyr dros dro, i’w benderfynu gan yr awdurdod lleol.

2.  Wrth benderfynu maint aelodaeth y corff llywodraethu dros dro, rhaid i’r awdurdod lleol beidio â chynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt dros dro.

3.  Wrth benderfynu maint aelodaeth y corff llywodraethu dros dro, rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys unrhyw lywodraethwyr cymunedol ychwanegol dros dro a benodir yn unol â pharagraff 11.

4.  Pan fo cymhwyso paragraffau 5 i 10 yn cynhyrchu rhif nad yw’n rhif cyfan, rhaid i’r awdurdod lleol bennu naill ai’r rhif cyfan nesaf uwchlaw neu’r rhif cyfan nesaf islaw (yn ôl ei ddewis), ar yr amod bod cyfanswm nifer y llywodraethwyr dros dro o fewn y terfynau a bennir ym mharagraff 1.

Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir newydd

5.—(1Mae corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer unrhyw gyfuniad o ddwy neu ragor o ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir arfaethedig (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol), i’w gyfansoddi fel a ganlyn—

(a)ar gyfer pob un o’r ysgolion arfaethedig, o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr dros dro, a benodir i gynrychioli buddiannau rhieni plant sydd, neu sy’n debygol o fod, yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;

(d)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol dros dro;

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (f), o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol dros dro; ac

(f)un llywodraethwr cynrychiadol dros dro pan fo’r ffederasiwn arfaethedig yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol arfaethedig, i gymryd lle nifer cydradd o’r llywodraethwyr cymunedol sy’n ofynnol o dan is-baragraff (e).

(2Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu dros dro’r ffederasiwn gynnwys—

(a)pennaeth neu ddarpar bennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu

(b)(os nad oes pennaeth na darpar bennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o’r ysgolion arfaethedig oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.

Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion gwirfoddol a reolir newydd

6.—(1Mae corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer dwy neu ragor o ysgolion gwirfoddol a reolir arfaethedig yn unig, i’w gyfansoddi fel a ganlyn—

(a)ar gyfer pob un o’r ysgolion arfaethedig, o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr dros dro, a benodir i gynrychioli buddiannau rhieni plant sydd, neu sy’n debygol o fod, yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;

(d)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol dros dro;

(e)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol dros dro; ac

(f)o leiaf ddau ond dim mwy na phum llywodraethwr sefydledig dros dro.

(2Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu dros dro’r ffederasiwn gynnwys—

(a)pennaeth neu ddarpar bennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu

(b)(os nad oes pennaeth na darpar bennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o’r ysgolion arfaethedig oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.

Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir newydd

7.—(1Mae corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer dwy neu ragor o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir arfaethedig yn unig, i’w gyfansoddi fel a ganlyn—

(a)o leiaf un rhiant-lywodraethwr dros dro;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;

(d)o leiaf un ond dim mwy na dau lywodraethwr awdurdod lleol dros dro; ac

(e)y nifer o lywodraethwyr sefydledig a fydd yn eu gwneud yn fwy niferus na’r holl lywodraethwyr eraill a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (d), is-baragraff (2) a pharagraff 11 o ddim mwy nag un.

(2Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu dros dro’r ffederasiwn gynnwys—

(a)pennaeth neu ddarpar bennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu

(b)(os nad oes pennaeth na darpar bennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o’r ysgolion arfaethedig oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.

Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir newydd

8.—(1Mae corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer unrhyw gyfuniad o ddwy neu ragor o ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir arfaethedig (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol), i’w gyfansoddi fel a ganlyn—

(a)o leiaf un rhiant-lywodraethwr dros dro;

(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;

(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;

(d)o leiaf un ond dim mwy na dau lywodraethwr awdurdod lleol dros dro;

(e)o leiaf un ond dim mwy na dau lywodraethwr cymunedol dros dro; ac

(f)y nifer o lywodraethwyr sefydledig a fydd yn eu gwneud yn fwy niferus na’r holl lywodraethwyr eraill a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (e), is-baragraff (2) a pharagraff 11 o ddim mwy nag un.

(2Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu dros dro’r ffederasiwn gynnwys—

(a)pennaeth neu ddarpar bennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu

(b)(os nad oes pennaeth na darpar bennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o’r ysgolion arfaethedig oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.

Noddwr-lywodraethwyr dros dro

9.  Caiff corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir yn unol â pharagraffau 5 a 6, benodi yn ychwanegol un noddwr-lywodraethwr dros dro.

Disgybl-lywodraethwyr cyswllt dros dro

10.  Caiff corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir yn unol â pharagraffau 5 i 8, benodi yn ychwanegol hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt dros dro pan fo’r ysgolion arfaethedig yn ysgolion uwchradd.

Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol dros dro

11.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gorff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol â pharagraffau 5 i 8 ar gyfer un neu ragor o’r canlynol—

(a)unrhyw ysgol gymunedol neu wirfoddol arfaethedig sydd i fod yn ysgol gynradd; a

(b)unrhyw ysgol feithrin arfaethedig a gynhelir;

sy’n gwasanaethu ardal sydd ag un neu ragor o gynghorau cymuned.

(2Rhaid i offeryn llywodraethu ysgol arfaethedig ddarparu bod y corff llywodraethu dros dro yn cynnwys (yn ychwanegol at y llywodraethwyr sy’n ofynnol yn rhinwedd paragraffau 5 i 10, yn ôl y digwydd) un llywodraethwr cymunedol ychwanegol dros dro a enwebir gan y cyngor cymuned.

(3Pan fo ysgol arfaethedig yn gwasanaethu ardal lle y mae dau neu ragor o gynghorau cymuned, caiff y corff llywodraethu dros dro geisio enwebiadau gan un neu ragor o’r cynghorau hynny.

Rheoliad 14

ATODLEN 2Ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 2(2), yn yr Atodlen hon ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw—

(a)yr awdurdod lleol pan fo’r ysgol ffederal yn ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol feithrin a gynhelir; neu

(b)corff llywodraethu’r ffederasiwn pan fo’r ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

2.—(1Os yr awdurdod lleol yw’r corff priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod lleol hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol, neu i bennaeth y ffederasiwn, unrhyw rai o’i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.

(2Yr awdurdod lleol fydd y corff priodol mewn perthynas ag ysgol o fewn paragraff 1(b) os bydd corff llywodraethu’r ffederasiwn a’r awdurdod lleol yn cytuno felly.

3.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 4 i 8 rhaid i’r corff priodol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol rhiant-lywodraethwyr.

4.  Rhaid i’r corff priodol benderfynu, at ddibenion ethol rhiant-lywodraethwyr, unrhyw gwestiwn p’un a yw person yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol.

5.  Yn achos y ddyletswydd a osodir gan baragraff 3—

(a)nid yw’n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol, ond

(b)mae’n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.

6.  Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.

7.—(1Rhaid i’r trefniadau a wneir o dan baragraff 3 ddarparu bod pob person sydd â’r hawl i bleidleisio yn cael cyfle i wneud hynny drwy’r post.

(2At ddibenion is-baragraff (1), mae “post” (“post”) yn cynnwys danfon drwy law.

(3Caiff y trefniadau a wneir o dan baragraff 3 ddarparu ar gyfer rhoi cyfle i bob person sydd â hawl i bleidleisio wneud hynny drwy gyfrwng dull electronig.

8.  Pan ddaw lle’n wag i riant-lywodraethwr, rhaid i’r corff priodol gymryd y camau hynny sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod pob person y mae’n hysbys i’r corff priodol ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol—

(a)yn cael gwybod am y lle gwag a’i bod yn ofynnol ei lenwi drwy etholiad;

(b)yn cael gwybod bod gan y person hwnnw hawl i sefyll fel ymgeisydd a phleidleisio yn yr etholiad; ac

(c)yn cael cyfle i wneud hynny.

9.  Rhaid sicrhau’r nifer o riant-lywodraethwyr sy’n ofynnol drwy ychwanegu rhiant-lywodraethwyr a benodir gan y corff llywodraethu, os daw un neu ragor o leoedd ar gyfer rhiant-lywodraethwyr yn wag a naill ai—

(a)bod y nifer o rieni sy’n sefyll i’w hethol yn llai na nifer y lleoedd gwag;

(b)bod o leiaf 50 y cant o’r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol yn lletywyr ac y byddai, ym marn y corff priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr; neu

(c)yn achos ysgol sy’n ysgol arbennig gymunedol mewn ysbyty, y byddai, ym marn y corff priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr.

10.—(1Ac eithrio pan fo paragraff 11 yn gymwys, wrth benodi rhiant-lywodraethwr i gynrychioli ysgol ffederal, rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn benodi—

(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(b)rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol arall o fewn y ffederasiwn; neu

(c)rhiant plentyn sydd mewn oedran ysgol gorfodol, neu, yn achos ysgol feithrin a gynhelir, sydd mewn neu o dan oedran ysgol gorfodol.

(2Rhaid i’r corff llywodraethu beidio â phenodi person y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) neu (c) ac eithrio pan nad oes unrhyw berson arall i’w benodi o baragraff cynharach yn y rhestr a nodwyd yn is-baragraff (1).

11.—(1Pan fo’r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol, wrth benodi rhiant-lywodraethwr, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn benodi—

(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(b)rhiant plentyn mewn oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion addysgol arbennig;

(c)rhiant person o unrhyw oedran sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu

(d)rhiant plentyn mewn oedran ysgol gorfodol.

(2Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn beidio â phenodi person y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b), (c) neu (d) ac eithrio pan nad oes unrhyw berson arall i’w benodi o baragraff cynharach yn y rhestr a nodwyd yn is-baragraff (1).

Rheoliadau 15 ac 16

ATODLEN 3Ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr

1.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 2 i 4, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr.

2.  At y dibenion o ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr, corff llywodraethu’r ffederasiwn sydd i benderfynu p’un a yw person yn athro neu athrawes ysgol neu wedi ei gyflogi i weithio yn yr ysgol rywfodd arall.

3.  Yn achos y ddyletswydd a osodir gan baragraff 1—

(a)nid yw’n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol; ond

(b)mae’n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.

4.  Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.

Rheoliad 21

ATODLEN 4Penodi llywodraethwyr partneriaeth

1.  Pan fo’n ofynnol penodi llywodraethwr partneriaeth—

(a)rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgolion yn y ffederasiwn nad oes ganddynt sefydliad a chan y cyfryw bersonau eraill y tybia’n briodol yn y gymuned a wasanaethir gan y ffederasiwn; a

(b)caiff corff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgolion eraill yn y ffederasiwn fel y tybia’n briodol.

2.  Ni chaiff unrhyw berson enwebu i’w benodi, na phenodi, person yn llywodraethwr partneriaeth oni fyddai’r person hwnnw’n gymwys i’w benodi gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn yn llywodraethwr cymunedol.

3.  Yn ddarostyngedig i baragraff 4(2), ni chaiff unrhyw lywodraethwr enwebu person i’w benodi’n llywodraethwr partneriaeth.

4.—(1Rhaid i’r corff llywodraethu benodi pa bynnag nifer o lywodraethwyr partneriaeth sy’n ofynnol yn ôl yr offeryn llywodraethu o blith enwebeion cymwys.

(2Os yw’r nifer o enwebeion cymwys yn llai na’r nifer o leoedd gwag, caniateir cwblhau’r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sy’n ofynnol â phersonau a ddetholir gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn.

5.—(1Pan fo corff llywodraethu ffederasiwn yn gwneud penodiad o dan baragraff 4(2), ar ôl gwrthod unrhyw berson a enwebwyd o dan baragraff 1, rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad i’r awdurdod lleol ac i’r person a wrthodwyd.

(2Pan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ragor nag un awdurdod lleol rhaid dehongli’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at awdurdod lleol fel cyfeiriad at bob un o’r awdurdodau lleol.

6.  Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn wneud pob trefniant angenrheidiol ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth a phenderfynu ynghylch pob mater arall yn ymwneud â’u henwebu a’u penodi.

Rheoliad 22

ATODLEN 5Penodi noddwr-lywodraethwyr

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “noddwr” (“sponsor”) mewn perthynas â ffederasiwn yw—

(a)person sy’n rhoi neu sydd wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol (sydd at y dibenion hyn yn cynnwys buddiant mewn nwyddau) i’r ffederasiwn neu i ysgol ffederal, ac eithrio cymorth a roddir yn unol â rhwymedigaeth statudol; neu

(b)unrhyw berson arall (nad yw wedi ei gynrychioli fel arall ar gorff llywodraethu’r ffederasiwn) sy’n darparu neu sydd wedi darparu gwasanaethau sylweddol i’r ffederasiwn neu i’r ysgol ffederal.

2.  Pan fo gan y ffederasiwn un neu ragor o noddwyr, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn benderfynu bod yr offeryn llywodraethu i ddarparu y caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn benodi nifer o noddwr-lywodraethwyr, na fydd yn fwy na dau, a enwebir yn unol â pharagraff 3.

3.  Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau ar gyfer penodiadau o’r fath gan noddwr y ffederasiwn neu noddwr ysgol ffederal neu (yn ôl y digwydd) gan unrhyw un neu ragor o noddwyr y ffederasiwn neu noddwyr ysgol ffederal.

Rheoliad 23

ATODLEN 6Penodi llywodraethwyr cynrychiadol

1.—(1Mewn perthynas ag ysgol arbennig gymunedol a sefydlir mewn ysbyty, rhaid i’r awdurdod lleol ddynodi fel y corff priodol—

(a)un bwrdd iechyd lleol y cysylltir yr ysgol agosaf ag ef neu ragor nag un bwrdd iechyd lleol y cysylltir yr ysgol agosaf â hwy i weithredu ar y cyd; neu

(b)yr ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y cysylltir yr ysgol agosaf â hi;

a rhaid i’r corff priodol benodi llywodraethwr cynrychiadol i gymryd lle un o’r nifer o lywodraethwyr cymunedol a benodir yn unol â rheoliad 26.

(2At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service trust”) yw corff a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(48).

2.  Pan nad yw ysgol arbennig gymunedol wedi ei sefydlu mewn ysbyty—

(a)caiff yr awdurdod lleol ddynodi un sefydliad gwirfoddol, neu ragor nag un sefydliad o’r fath yn gweithredu ar y cyd, fel y sefydliad gwirfoddol priodol sy’n ymwneud â’r materion y trefnwyd yr ysgol yn arbennig mewn cysylltiad â hwy; a

(b)pan fo sefydliad gwirfoddol priodol wedi ei ddynodi felly, rhaid iddo benodi llywodraethwr cynrychiadol i gymryd lle un o’r nifer o lywodraethwyr cymunedol a benodir yn unol â rheoliad 26.

Rheoliad 35

ATODLEN 7Cymwysiadau ac anghymwysiadau

Cyffredinol

1.  Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt, nid yw unrhyw berson yn gymwys i fod yn llywodraethwr onid yw’r person hwnnw yn 18 oed neu’n hŷn ar ddyddiad ethol neu benodi’r person hwnnw.

2.  Ni chaiff unrhyw berson ar unrhyw adeg ddal mwy nag un swydd llywodraethwr yn yr un ysgol.

3.  Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, nid yw’r ffaith bod person yn gymwys i’w ethol neu ei benodi’n llywodraethwr o gategori penodol mewn ffederasiwn yn anghymhwyso’r person hwnnw rhag cael ei ethol neu ei benodi neu rhag parhau’n llywodraethwr o unrhyw gategori arall yn y ffederasiwn hwnnw.

Anhwylder meddyliol

4.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn agored i gael ei gadw’n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(49) neu o dan unrhyw ailddeddfiad neu addasiad statudol o’r Ddeddf honno a fydd mewn grym o bryd i’w gilydd.

Methiant i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd

5.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw lywodraethwr nad yw’n llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw.

(2Os bydd llywodraethwr heb gydsyniad y corff llywodraethu, yn methu â bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff am gyfnod di-dor o chwe mis, sy’n dechrau ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf o’r fath lle y methodd y person hwnnw â bod yn bresennol, bydd y llywodraethwr hwnnw, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben, wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr yn y ffederasiwn hwnnw.

(3Pan fo llywodraethwr wedi anfon ymddiheuriad at glerc y corff llywodraethu cyn cyfarfod nad yw’r person hwnnw yn bwriadu bod yn bresennol ynddo, rhaid i gofnodion y cyfarfod gofnodi a oedd y corff llywodraethu wedi cydsynio i’r absenoldeb ai peidio, a rhaid anfon copi o’r cofnodion at y llywodraethwr o dan sylw i breswylfa arferol y person hwnnw.

(4Nid yw llywodraethwr a anghymhwyswyd rhag bod yn llywodraethwr ffederasiwn o dan is-baragraff (2) yn gymwys i’w ethol, i’w enwebu, nac i’w benodi yn llywodraethwr o unrhyw gategori yn y ffederasiwn hwnnw yn ystod y deuddeng mis yn union ar ôl anghymhwyso’r person hwnnw o dan is-baragraff (2).

Methdaliad

6.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn—

(a)os yw’r person hwnnw wedi ei ddyfarnu’n fethdalwr neu os yw ystad y person hwnnw wedi ei hatafaelu ac yntau (yn y naill achos neu’r llall) heb ei ryddhau o fethdaliad ac os nad yw’r gorchymyn methdalu wedi ei ddirymu neu ei ddadwneud neu os oes cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw; neu

(b)os yw’r person hwnnw wedi gwneud compownd neu drefniant â chredydwyr y person hwnnw, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth i gredydwyr y person hwnnw, ac yntau heb ei ryddhau mewn cysylltiad â hynny.

Anghymhwyso cyfarwyddwyr cwmnïau

7.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn destun—

(a)gorchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(50);

(b)gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989(51);

(c)ymgymeriad anghymhwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(52); neu

(d)gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Methdaliad 1986(53) (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).

Anghymhwyso ymddiriedolwyr elusennau

8.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn os yw’r person hwnnw—

(a)wedi ei ddiswyddo fel ymddiriedolwr elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu’r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddygiad neu gamreoli yr oedd y person hwnnw yn gyfrifol amdano neu’n ymwybodol ohono wrth weinyddu’r elusen, neu y cyfrannodd y person hwnnw ato neu a hwylusodd y person hwnnw drwy ymddygiad y person hwnnw; neu

(b)wedi ei ddiswyddo, o dan adran 34 o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005(54) (pwerau’r Llys Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau), rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff.

Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi

9.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw—

(a)wedi ei gynnwys yn y rhestr o athrawon a rhai fu’n gweithio gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir arnynt o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(55);

(b)yn destun cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002(56);

(c)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(57);

(d)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989(58) ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd;

(e)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(59);

(f)wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy’n ymwneud â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(60);

(g)yn destun cyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf 2002(61);

(h)wedi ei anghymhwyso, yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf 1996(62), rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu athrawes neu gyflogai arall mewn unrhyw ysgol; neu

(i)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(63).

Collfarnau troseddol

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), anghymhwysir person rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn pan fo unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) yn gymwys i’r person hwnnw.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw—

(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw; neu

(b)ers penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr neu, yn ôl y digwydd, ers i’r person hwnnw ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw;

wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (p’un a yw’r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw’n llai na thri mis heb y dewis o dalu dirwy.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafwyd y person hwnnw, o fewn cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw, yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a’i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na dwy flynedd a hanner.

(4Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a bod y person hwnnw wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na phum mlynedd.

(5At ddibenion is-baragraffau (2) i (4), rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o’r fath, am drosedd na fyddai, pe bai’r ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, wedi ei hystyried yn drosedd yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith mewn grym ar yr adeg yr oedd y ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd.

(6Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw—

(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw; neu

(b)ers penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr neu, yn ôl y digwydd, ers i’r person hwnnw ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw;

wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 1996(64) (niwsans neu aflonyddwch ar fangre ysgol) neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(65) (niwsans neu aflonyddwch ar fangre addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.

Llywodraethwyr mwy na dwy ysgol

11.—(1Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt, ni chaiff unrhyw berson ddal swydd llywodraethwr mewn mwy na dau ffederasiwn ar unrhyw adeg.

(2At ddibenion is-baragraff (1) nid ystyrir swyddi llywodraethwyr ex officio, swyddi llywodraethwyr y mae’r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd yn gymwys iddynt nac unrhyw benodiad o dan adrannau 6, 7, 13 neu 14 o Ddeddf 2013.

Methiant i gwblhau hyfforddiant gofynnol

12.—(1Mae llywodraethwr sydd wedi parhau i fod wedi ei atal o’i swydd, yn rhinwedd rheoliad 4 neu 5 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”), am gyfnod di-dor o 6 mis, ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben, wedi anghymhwyso rhag dal swydd fel llywodraethwr unrhyw ysgol.

(2Nid yw llywodraethwr sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn llywodraethwr ysgol o dan is-baragraff (1) yn gymwys i gael ei ethol, ei enwebu na’i benodi’n llywodraethwr unrhyw gategori o unrhyw ysgol hyd nes y bydd y llywodraethwr hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant gofynnol yn rhinwedd rheoliad 4 neu 5 o Reoliadau 2013.

Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol

13.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ar unrhyw adeg pan fydd y person hwnnw yn gwrthod cais gan y corff llywodraethu i wneud cais o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(66) am dystysgrif cofnodion troseddol.

Hysbysu’r clerc

14.  Os yw person—

(a)wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn yn rhinwedd unrhyw un o baragraffau 6 i 11; a

(b)yn llywodraethwr neu os bwriedir i’r person hwnnw fod yn llywodraethwr;

rhaid i’r person hwnnw hysbysu clerc y corff llywodraethu o’r ffaith honno.

Rheoliad 47

ATODLEN 8Addasu’r Rheoliadau Staffio

1.  Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (7) mewnosoder y paragraff canlynol—

(8) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at bennaeth neu ddirprwy bennaeth ysgol i’w ddehongli fel cyfeiriad at bennaeth neu ddirprwy bennaeth ffederasiwn neu ysgol ffederal; a

(b)pan gyfeirir at yr awdurdod a phan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan fwy nag un awdurdod, mae’r cyfeiriad i’w ddehongli fel cyfeiriad at bob un..

2.  Yn rheoliad 4 yn lle paragraff (1), rhodder y canlynol—

(1) Rhaid i gorff llywodraethu ac awdurdod arfer eu priod swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw ddeddfiad arall gyda golwg ar sicrhau y cyflogir, neu y cymerir ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontractau cyflogaeth, staff sy’n addas ac yn ddigonol o ran eu niferoedd i sicrhau y darperir addysg sy’n briodol ar gyfer oedrannau, galluoedd, cymwyseddau ac anghenion y disgyblion gan roi sylw i unrhyw drefniadau ar gyfer defnyddio gwasanaethau’r staff a gyflogir neu y cymerir ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal o dan sylw..

3.  Yn rheoliad 6(1)(a) ar ôl “pennaeth” gosoder “perthnasol”.

4.  Yn rheoliadau 7(1), (2)(a) i (c) a (4)(c), 24A(2) a (5), 27(1) a (3), 29(1) a (4), a 32(1) yn lle “yr ysgol” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

5.  Yn rheoliad 7(3), yn lle “staff yr ysgol” rhodder “staff y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

6.  Yn rheoliad 7(4)(a), yn lle “yr ysgol” rhodder “y ffederasiwn”.

7.  Yn rheoliad 7(4)(b) ac (ch), yn lle “ysgol” rhodder “ysgol ffederal” .

8.  Yn rheoliadau 9 ac 20 ar ôl “Mae’r Rhan hon yn gymwys i” mewnosoder “ysgolion ffederal sy’n”.

9.  Yn rheoliadau 9A(3), 9B a 20A(3) yn lle “ysgol” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

10.  Yn rheoliad 10(11) yn lle “weithio yn yr ysgol” rhodder “weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

11.  Yn rheoliadau 12(1), 12(4), 12(9)(b), 12(15), 15A(1), (2) a (5), 17(1) i (3), (8) ac (11), 26(1), (5), (10)(b) ac (15) yn lle “yr ysgol” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

12.  Yn rheoliadau 15A(4), 18(3) a 24A(4) yn lle “gweithio yn yr ysgol”, ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “gweithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal”.

13.  Yn rheoliad 16 yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 18—

(a)mae gan y corff llywodraethu a phennaeth y ffederasiwn ill dau bŵer i atal unrhyw berson a gyflogwyd, neu a gymerwyd ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontract cyflogaeth, i weithio yn y ffederasiwn; a

(b)mae gan y corff llywodraethu a phennaeth ysgol ffederal ill dau bŵer i atal unrhyw berson a gyflogwyd, neu a gymerwyd ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontract cyflogaeth, i weithio yn yr ysgol ffederal honno,

os yw’r corff llywodraethu neu’r pennaeth (yn ôl fel y digwydd) o’r farn bod angen atal y person hwnnw..

14.  Yn rheoliad 17(4) yn lle “yr ysgol” rhodder “yr ysgol ffederal”.

15.  Yn rheoliad 18(1) yn lle “weithio mewn ysgol” rhodder “weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

16.  Yn rheoliad 18(3) yn lle “ysgol” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd rhodder “ysgol ffederal”.

17.  Yn rheoliadau 18A a 26A yn lle “ysgol” rhodder “ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

18.  Yn rheoliad 19(1) ar ôl “gynorthwyir” mewnosoder “ffederal”.

19.  Yn rheoliad 19(2)(a) ar ôl “ysgol” mewnosoder “ffederal”.

20.  Yn rheoliad 19(4) ar ôl “gynorthwyir” mewnosoder “ffederal”.

21.  Yn rheoliad 23(1) ar ôl “sy’n” mewnosoder “ysgol ffederal ac yn”.

22.  Yn rheoliad 23(5) yn lle “ysgol” rhodder “ysgol ffederal”.

23.  Yn rheoliad 24, ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(8A) Rhaid i’r llywodraethwyr sefydledig a benodwyd mewn cysylltiad ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir ffederal benodol gytuno i unrhyw argymhelliad o dan baragraff (8)(c) mewn cysylltiad â phennaeth yr ysgol honno..

24.  Yn rheoliad 24A yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff unrhyw berson a gyflenwir gan fusnes cyflogaeth i ffederasiwn neu ysgol ffederal ddechrau gweithio fel athro neu athrawes neu aelod o staff cymorth yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal oni fydd y corff llywodraethu wedi cael—

(a)hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogaeth ynglŷn â’r person hwnnw—

(i)bod y gwiriadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 15A(6) wedi cael eu gwneud;

(ii)bod cais am dystysgrif gwasanaeth datgelu a gwahardd wedi cael ei wneud, neu fod tystysgrif o’r fath wedi dod i law mewn ymateb i gais a wnaed gan y busnes cyflogaeth hwnnw neu gan fusnes cyflogaeth arall; a

(iii)p’un a oedd yn datgelu, os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif o’r fath cyn bod y person i ddechrau gweithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal, unrhyw fater neu wybodaeth, neu a roddwyd unrhyw wybodaeth i’r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997; a

(b)os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif gwasanaeth datgelu a gwahardd cyn bod y person i ddechrau gweithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal, a bod honno’n datgelu unrhyw fater neu wybodaeth, neu a roddwyd unrhyw wybodaeth i’r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o’r dystysgrif..

25.  Yn rheoliad 28 yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Mae gan gorff llywodraethu a phennaeth—

(a)ffederasiwn, ill dau bŵer i atal unrhyw berson a gyflogwyd, neu a gymerwyd ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y ffederasiwn; a

(b)ysgol ffederal, ill dau bŵer i atal unrhyw berson a gyflogwyd i weithio neu a gymerwyd ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontract cyflogaeth i weithio yn yr ysgol ffederal honno,

os yw’n ofynnol atal y person hwnnw ym marn y corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) y pennaeth..

26.  Yn rheoliad 32 yn lle paragraff (2), rhodder—

(2) Mae rheoliadau 16 a 17 yn gymwys mewn perthynas ag atal, diswyddo neu dynnu’n ôl o ffederasiwn neu ysgol ffederal unrhyw aelod o’r staff sydd wedi’i gyflogi gan yr awdurdod, fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag atal, diswyddo neu dynnu’n ôl o ffederasiwn neu ysgol ffederal y mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo neu iddi, berson sydd wedi ei gyflogi i weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal..

27.  Yn rheoliad 32(3) yn lle “yr ysgol” rhodder “yr ysgol ffederal” ac yn lle “fel pe bai’n ysgol” rhodder “fel pe bai’n ysgol ffederal”.

28.  Yn rheoliadau 33(1) a 34(1) ar ôl “gynorthwyir” mewnosoder “sy’n ysgol ffederal”.

29.  Yn rheoliad 35 ar ôl “arfaethedig” mewnosoder “sydd i fod yn ysgol ffederal”.

Rheoliad 48

ATODLEN 9Addasu’r Rheoliadau Cynghorau Ysgol

1.  Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “ysgol”, yn lle “ysgol a gynhelir” rhodder “ysgol a gynhelir sy’n ysgol ffederal”, ac yn lle “ysgol feithrin a gynhelir” rhodder “ysgol feithrin a gynhelir ac sydd yn ysgol ffederal”.

2.  Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “ysgol fabanod”, yn lle “ysgol a gynhelir” rhodder “ysgol a gynhelir sy’n ysgol ffederal”.

3.  Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “canolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig”, ar ôl “ysgol” mewnosoder “sy’n ysgol ffederal”.

4.  Yn rheoliad 3 yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sefydlu cyngor ysgol, a’i ddiben yw galluogi disgyblion i drafod materion ynglŷn â’u hysgol, eu haddysg ac unrhyw fater arall y maent yn ymboeni amdano neu sydd o ddiddordeb ac i wneud sylwadau arnynt i’r corff llywodraethu ac i bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal.

5.  Yn rheoliad 3(2) yn lle “bennaeth ysgol” rhodder “bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

6.  Yn rheoliad 3(3) yn lle “phennaeth ysgol” rhodder “phennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

7.  Yn rheoliad 3(4) yn lle “phennaeth yr ysgol” rhodder “phennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

8.  Yn rheoliad 4(2) yn lle “pennaeth” rhodder “pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

9.  Yn rheoliad 4(4) yn lle “ysgol a phennaeth unrhyw ysgol” rhodder “a phennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.

10.  Yn lle rheoliad 7 rhodder—

(1) Rhaid i bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal sicrhau bod cyfle gan y cyngor ysgol i enwebu hyd at ddau ddisgybl o flwyddyn 11 i 13 (yn gynhwysol) o’i aelodaeth i fod yn ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ar y corff llywodraethu.

(2) Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn dderbyn unrhyw ddisgybl a enwebir yn unol â pharagraff (1), a’i benodi yn ddisgybl-lywodraethwr cyswllt ar gorff llywodraethu’r ffederasiwn, ar yr amod nad yw’r disgybl wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod, yn unol ag Atodlen 10 i Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014.

Rheoliad 75

ATODLEN 10Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan yn nhrafodion y corff llywodraethu neu ei bwyllgorau

Buddiannau ariannol

1.—(1At ddibenion rheoliad 75(2), mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—

(a)pan fo person perthnasol wedi ei enwebu neu ei benodi i swydd gan berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu

(b)pan fo person perthnasol yn bartner busnes i berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu

(c)pan fo gan berthynas i berson perthnasol (gan gynnwys priod y person hwnnw, ei bartner sifil o fewn ystyr “civil partner” yn Neddf Partneriaethau Sifil 2004(67) neu rywun sy’n byw gyda’r person hwnnw fel petai’r person hwnnw’n briod neu’n bartner sifil iddo), a’r person hwnnw’n gwybod hynny, fuddiant o’r fath neu y câi ei drin fel petai ganddo fuddiant o’r fath.

(2At ddibenion rheoliad 75(2) nid yw person perthnasol i’w drin fel petai ganddo fuddiant ariannol mewn unrhyw fater—

(a)ar yr amod nad yw buddiant y person hwnnw yn y mater yn fwy na buddiant cyffredinol y rhai hynny y telir iddynt am weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal;

(b)yn unig oherwydd i’r person hwnnw gael ei enwebu neu ei benodi i’r swydd gan unrhyw gorff cyhoeddus, neu ei fod yn aelod o gorff o’r fath, neu’n cael ei gyflogi gan gorff o’r fath; neu

(c)yn unig oherwydd bod y person hwnnw yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall os nad oes gan y person hwnnw unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw warantau o eiddo’r gorfforaeth honno neu gorff arall.

(3Ni rwystrir llywodraethwr, oherwydd buddiant ariannol y person hwnnw yn y mater, rhag ystyried a phleidleisio ynghylch cynigion i’r corff llywodraethu gymryd yswiriant i ddiogelu’r aelodau rhag rhwymedigaethau yr ânt iddynt sy’n deillio o’u swydd, ac ni rwystrir y corff llywodraethu, oherwydd buddiannau ariannol ei aelodau, rhag sicrhau yswiriant o’r fath a thalu’r premiymau.

(4Ni rwystrir llywodraethwr rhag ystyried neu bleidleisio ynghylch unrhyw gynnig sy’n ymwneud â lwfansau sydd i’w talu’n unol â Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005(68) oherwydd bod gan y person hwnnw fuddiant mewn taliadau o lwfansau o’r fath i aelodau’r corff llywodraethu yn gyffredinol, ond rhaid i aelod o gorff llywodraethu neu o unrhyw bwyllgor o gorff llywodraethu fynd allan o gyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir a ddylai’r person hwnnw gael lwfans arbennig, swm unrhyw daliad iddo neu unrhyw gwestiwn ynghylch lwfans sydd wedi ei dalu i’r llywodraethwr hwnnw, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar y mater.

Swydd llywodraethwr, cadeirydd, is-gadeirydd neu glerc

2.—(1Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal ac un o’r canlynol yn fater i’w ystyried—

(a)penodiad, ailbenodiad, ataliad neu ddiswyddiad y person hwnnw ei hun fel aelod o’r corff llywodraethu neu bwyllgor;

(b)penodiad neu ddiswyddiad y person hwnnw ei hun fel clerc, neu gadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu neu fel clerc neu gadeirydd pwyllgor;

(c)os yw’r person hwnnw yn noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 5 ynghylch y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwr-lywodraethwyr.

(2Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid trin buddiannau’r person perthnasol at ddibenion rheoliad 75(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau’r corff llywodraethu.

Talu neu arfarnu personau sy’n gweithio yn yr ysgol

3.—(1Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol, y telir iddo am weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal, ac eithrio fel pennaeth, yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo tâl neu werthuso perfformiad unrhyw berson penodol a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu’r ysgol ffederal yn fater sydd o dan ystyriaeth.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth ffederasiwn neu ysgol ffederal yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo tâl neu werthuso perfformiad y person hwnnw ei hunan yn fater sydd o dan ystyriaeth.

(3Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid trin buddiannau’r person perthnasol at ddibenion rheoliad 75(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau’r corff llywodraethu.

Penodi staff

4.  Pan fo person perthnasol a gyflogir i weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal a phenodi olynydd i’r person hwnnw yn fater dan ystyriaeth, rhaid i’r person hwnnw adael y cyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir y mater dan sylw, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad â’r mater hwnnw.

Personau sy’n aelodau o fwy nag un corff llywodraethu

5.  Nid yw’r ffaith bod person yn llywodraethwr neu’n aelod o bwyllgor corff llywodraethu mewn mwy nag un ffederasiwn i’w ystyried, o dan unrhyw amgylchiadau, yn achos o wrthdaro rhwng buddiannau at ddibenion y Rheoliadau hyn.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ffederasiynau a gyfansoddir o bob categori o ysgolion yng Nghymru.

Mae Rhan 1 yn darparu bod y Rheoliadau i ddod i rym ar 22 Mai 2014 ac yn cynnwys darpariaethau deongliadol. Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010 wedi eu dirymu gydag arbedion a darpariaethau trosiannol.

Mae Rhan 2 yn nodi o dan ba amgylchiadau y caniateir sefydlu ffederasiwn neu y caiff ysgol ymuno â ffederasiwn sy’n bod eisoes. Caiff o leiaf ddwy ysgol, ond dim mwy na chwe ysgol, ffedereiddio yn unol â Phennod 1 o Ran 2 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”) a’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliadau 5 i 7 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer ffedereiddio cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, gan gynnwys amgylchiadau pan fo ffederasiwn yn dymuno ymuno â ffederasiwn arall i ffurfio ffederasiwn newydd a phan fo ysgol newydd yn dymuno ymuno â ffederasiwn. Mae rheoliad 8 ac Atodlen 1 yn galluogi ysgolion newydd sy’n bwriadu bod yn ysgolion ffederal i gael corff llywodraethu sengl dros dro. Mae rheoliadau 9 a 10 yn nodi’r weithdrefn i awdurdod lleol ffedereiddio ysgolion. Mae rheoliadau 11 a 12 yn nodi’r weithdrefn i awdurdod lleol ffedereiddio ysgolion bach (o fewn ystyr Gorchymyn a wneir o dan adran 15 o Fesur 2011).

Mae rheoliad 13 yn darparu y bydd cyrff llywodraethu’r ysgolion unigol yn cael eu diddymu a chorff llywodraethu’r ffederasiwn yn cael ei ymgorffori ar y dyddiad ffedereiddio. Trosglwyddir yr holl dir, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau perthnasol i gorff llywodraethu’r ffederasiwn.

Mae Rhan 3 yn disgrifio’r gwahanol fathau o lywodraethwr. Mae rheoliad 14 ac Atodlen 2 yn ymdrin â rhiant-lywodraethwyr ac yn nodi ar ba sail y’u hetholir neu y’u penodir.

Mae rheoliad 15 yn ymdrin ag athro-lywodraethwyr ac mae rheoliad 16 yn ymdrin â staff-lywodraethwyr nad ydynt yn athrawon. Mae’r pennaeth yn llywodraethwr yn rhinwedd safle’r person hwnnw ond caiff ymddiswyddo fel llywodraethwr (neu dynnu’n ôl yr ymddiswyddiad) ar unrhyw adeg. Mae Atodlen 3 yn nodi’r broses ar gyfer ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr.

Mae rheoliad 17 yn ymdrin â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 18 yn nodi pwy sy’n gymwys i’w benodi yn llywodraethwr cymunedol ac mae rheoliad 19 yn nodi pwy sy’n gymwys i fod yn llywodraethwr cymunedol ychwanegol.

Mae rheoliad 20 yn ymdrin â phenodi llywodraethwyr sefydledig, gan gynnwys llywodraethwyr sefydledig ex officio a dirprwy-lywodraethwyr. Mae rheoliad 21 ac Atodlen 4 yn darparu ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth ac mae rheoliad 22 ac Atodlen 5 yn darparu ar gyfer enwebu a phenodi noddwr-lywodraethwyr. Mae penodi noddwr-lywodraethwyr yn opsiynol.

Mae rheoliad 23 ac Atodlen 6 yn darparu ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr cynrychiadol.

Mae rheoliad 24 yn darparu ar gyfer penodi disgybl-lywodraethwyr cyswllt.

Mae Rhan 4 yn nodi’r egwyddorion cyffredinol y mae maint a chyfansoddiad cyrff llywodraethu ffederasiynau i’w penderfynu yn unol â hwy. Yn rheoliadau 25 i 34 nodir y gofynion penodol ar gyfer cyfansoddi cyrff llywodraethu ffederasiynau, sy’n dibynnu ar y mathau o ysgolion sy’n cyfansoddi’r ffederasiwn.

Mae Rhan 5 yn ymdrin â chymwysiadau a thymor gwasanaethu. Mae rheoliad 35 ac Atodlen 7 yn nodi o dan ba amgylchiadau yr anghymhwysir llywodraethwr rhag sefyll i’w ethol, neu ei benodi, neu barhau mewn swydd fel llywodraethwr.

Mae rheoliad 36 yn darparu (gyda rhai eithriadau) mai tymor gwasanaethu hwyaf llywodraethwr yw 4 blynedd. Os digwydd bod llywodraethwr sefydledig ex officio yn analluog neu’n anfodlon ymgymryd â’r swydd, caniateir penodi dirprwy-lywodraethwr. Mae rheoliad 37 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer ymddiswyddo o fod yn llywodraethwr. Mae rheoliadau 38 i 41 yn darparu ar gyfer diswyddo llywodraethwyr a benodwyd (yn hytrach nag a etholwyd) i’w swyddi.

Mae Rhan 6 yn ymdrin â’r weithdrefn ar gyfer gwneud, adolygu ac amrywio offerynnau llywodraethu ac â chynnwys yr offerynnau. Mae rheoliad 47 yn cymhwyso darpariaethau yn Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006, ac mae rheoliad 48 yn cymhwyso darpariaethau yn Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005, i gyrff llywodraethu ffederasiynau, ac i lywodraethwyr, pan fo rhai addasiadau yn ofynnol, fel a nodir yn Atodlenni 8 a 9, yn eu trefn.

Mae Rhan 7 yn ymdrin â phenodi a diswyddo swyddogion y corff llywodraethu ffederal, ac â’u swyddogaethau. Mae rheoliad 51 yn ymdrin â dirprwyo swyddogaethau i’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd mewn achosion brys. O dan reoliad 53 mae’n ofynnol bod y corff llywodraethu ffederal yn penodi clerc i’r corff llywodraethu, ac mae pŵer gan y corff llywodraethu ffederal i ddiswyddo’r clerc ar unrhyw adeg. Mae rheoliad 54 yn nodi swyddogaethau clerc y corff llywodraethu ffederal.

Mae Rhan 8 yn darparu ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion y corff llywodraethu ffederal. Cynhwysir darpariaethau yn y Rhan hon ar gyfer mynediad i gyfarfodydd, cynnull cyfarfodydd, cworwm, cofnodion a chyhoeddi’r cofnodion. Rhaid gwneud pob penderfyniad ar unrhyw fater drwy fwyafrif o’r llywodraethwyr sy’n pleidleisio.

Mae rheoliad 61 yn nodi o dan ba amgylchiadau y caniateir atal llywodraethwr rhag mynd i gyfarfodydd am hyd at 6 mis. Mae rheoliadau 62 i 64 yn ymwneud â dirprwyo swyddogaethau’r corff llywodraethu ffederal.

Mae Rhan 9 yn ymdrin â sefydlu pwyllgorau’r cyrff llywodraethu ffederal a’u trafodion, gan gynnwys y trefniadau clercio, cynnull cyfarfodydd, cworwm, pleidleisio a chyhoeddi cofnodion.

Mae Rhan 10 ac Atodlen 10 yn ymdrin â gwrthdrawiadau buddiannau a’r amgylchiadau pan fo rhaid i lywodraethwyr ac eraill, y byddai hawl ganddynt fel arall i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o’r corff llywodraethu ffederal neu ei bwyllgorau, adael y cyfarfod a pheidio â phleidleisio. Pan fo gwrthdrawiad rhwng buddiannau person o’r fath a buddiannau’r corff llywodraethu ffederal, neu pan fo egwyddorion cyfiawnder naturiol yn galw am wrandawiad teg a bod unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu’r person hwnnw i weithredu yn ddiduedd yr egwyddor gyffredinol yw y dylai’r person hwnnw adael y cyfarfod a pheidio â phleidleisio.

Mae Rhan 11 yn ymdrin â materion gwybodaeth a chyllido. Mae rheoliad 76 yn darparu bod rhaid i gyrff llywodraethu pob ysgol a fydd yn rhan o ffederasiwn ddarparu gwybodaeth benodedig i gynorthwyo corff llywodraethu’r ffederasiwn.

Mae rheoliad 77 yn cymhwyso Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) i ffederasiynau yn ddarostyngedig i reoliad 78 sy’n addasu adran 50 o Ddeddf 1998 fel y mae’n gymwys i ysgolion ffederal a chyrff llywodraethu ffederasiynau. Mae’r adran 50 addasedig yn gymwys hyd nes sefydlir corff llywodraethu dros dro pan fo ysgol yn bwriadu gadael ffederasiwn neu pan ddiddymir ffederasiwn.

Mae Rhan 12 yn nodi’r weithdrefn sy’n ofynnol er mwyn i ysgol ffederal adael ffederasiwn.

Mae rheoliad 81 yn darparu, pan fo ysgol am adael ffederasiwn, bod rhaid i’r awdurdod lleol sefydlu corff llywodraethu dros dro a dyroddi offeryn llywodraethu mewn cysylltiad â’r ysgol honno ac adolygu offeryn llywodraethu’r ffederasiwn. O dan reoliad 82 caiff corff llywodraethu dros dro yr ysgol sy’n gadael y ffederasiwn wario ei gyfran ef o gyllideb a roddir ar gael gan yr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 83 yn darparu ar gyfer ymgorffori corff llywodraethu’r ysgol sy’n gadael y ffederasiwn, ar y dyddiad dadffedereiddio ac mae rheoliad 84 yn ymdrin â throsglwyddo tir, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i gorff llywodraethu’r ysgol sy’n gadael y ffederasiwn.

Mae Rhan 13 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer diddymu ffederasiwn. Rhaid i’r awdurdod lleol sefydlu corff llywodraethu dros dro ar gyfer pob ysgol yn y ffederasiwn a dyroddi offeryn llywodraethu mewn perthynas â phob ysgol.

Mae rheoliad 89 yn galluogi corff llywodraethu dros dro pob ysgol i wario’r gyfran o gyllideb a roddir ar gael iddo gan yr awdurdod lleol.

Mae rheoliad 88 yn darparu ar gyfer ymgorffori (ar ddyddiad y diddymu) cyrff llywodraethu pob ysgol a oedd gynt yn y ffederasiwn a ddiddymwyd ac mae rheoliad 89 yn ymdrin â throsglwyddo tir, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i gyrff llywodraethu pob un o’r ysgolion hynny.

Mae Rhan 14 yn diwygio Rheoliadau Cydlafurio Rhwng Cyrff Addysg (Cymru) 2012 (O.S. 2012/2655 (Cy. 287)), Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2124 (Cy.207)) a Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Clerc i Gorff Llywodraethu) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2127 (Cy.208)).

(1)

2002 p.32. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Mewnosodwyd adran 20(4A) gan adran 19 o Fesur Addysg (Cymru) 2011.

(10)

O.S. 2005/2914 (Cy.211) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3200 (Cy.236)); a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (O.S. 2006/873 (Cy.81)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)), a chan Reoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy.206)), a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1142 (Cy.101)), a chan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2124 (Cy.207)).

(11)

O.S. 2006/873 (Cy.81) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/2708 (Cy.226)) a chan O.S. 2009/2544 (Cy.206) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3161 (Cy.275)) a chan O.S. 2010/1142 (Cy.101).

(13)

O fewn ystyr adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 iddi, ac adran 39(1) o Ddeddf 2002.

(14)

O fewn ystyr adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 iddi.

(15)

O fewn ystyr adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 iddi.

(16)

1988 p.40.

(17)

Fel y dynodir drwy Orchymyn Gweinidogion Cymru o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998.

(18)

O fewn yr ystyr yn adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, ac adran 39(1) o Ddeddf 2002.

(19)

O fewn yr ystyr yn adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

(20)

O fewn yr ystyr yn adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

(21)

O fewn ystyr adran 20 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

(22)

2011 p.25.

(23)

Gweler adran 39(2) o Ddeddf 2002.

(24)

Gweler adran 20(1) o Ddeddf 2002 a rheoliad 34.

(25)

O.S. 1998/2535, fel y’i diwygiwyd o ran Cymru gan Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2243 (Cy.3)) a chan Reoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2912 (Cy.209)).

(26)

O.S. 2000/3027 (Cy.195) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1396 (Cy.138)) a chan Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2913 (Cy.210)) a chan Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2940 (Cy.316)).

(27)

Diwygiwyd gan adran 40 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 5 i’r Ddeddf honno; a chan adran 57 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), ac Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

(28)

2006 p.40.

(29)

Diwygiwyd gan adran 43(1) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol a Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), adran 54(1) a 64(2) o Ddeddf Addysg 2011 ac Atodlen 13 iddi.

(30)

Diwygiwyd gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf 2002; a chan adrannau 41, 45, 46(1), ac 184 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), a chan Ran 6 o Atodlen 18 i’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd is-adran (1A) gan adran 106 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18). Cafodd adran 89 ei diwygio ymhellach gan baragraffau 53 a 57 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p.25).

(31)

Mewnosodwyd gan adran 47(2) o Ddeddf 2002. Fe’i diwygiwyd ymhellach gan baragraffau 53 a 58 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

(32)

Disodlwyd gan adran 47 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Fe’i diwygiwyd ymhellach gan baragraffau 53 a 62 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

(33)

Disodlwyd is-baragraff (1)(b) gan adran 41(1) ac (8)(a) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Fe’i diwygiwyd ymhellach gan baragraffau 53 a 62 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p.25).

(34)

Diwygiwyd gan adrannau 50 a 51 o Ddeddf 2002 a pharagraff 8 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno; a chan adran 51(1) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Fe’i diwygiwyd ymhellach gan adran 152 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

(35)

Diwygiwyd gan adran 53 o Ddeddf 2002, a Rhan 3 o Atodlen 21 i’r Ddeddf honno.

(36)

Diwygiwyd gan adran 49 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40).

(37)

Gweler y Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, (O.S. 2003/3227 (Cy.308)) fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004 (O.S. 2004/1805 (Cy.193)).

(38)

Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 40 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 3 i’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd is-adran (4)(za) gan adran 40 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 3 i’r Ddeddf honno. Diwygiwyd is-adran (5) gan baragraff 10 o Atodlen 21 i Ddeddf 2002. Diwygiwyd is-adran (1) ymhellach gan adran 117 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18), ac Atodlen 18 i’r Ddeddf honno.

(39)

O fewn ystyr adran 532 o Ddeddf 1996.

(40)

Fel y’i haddaswyd gan reoliad 75 o’r Rheoliadau hyn.

(41)

1988 p.40.

(42)

Fel y’i haddaswyd gan reoliad 78 o’r Rheoliadau hyn.

(43)

1988 p.40.

(48)

2006 p.42.

(49)

1983 p.20.

(50)

1986 p.46.

(53)

1986 p.45.

(55)

1999 p.14; ac fel y’i harbedwyd gan erthygl 5 o Orchymyn Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009, sef O.S. 2009/2611.

(56)

Fe’i dirymwyd at ddibenion benodol gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 p.47 (gweler adran 63).

(57)

2000 p.43; dirymwyd adrannau 28, 29 a 29A at ddibenion penodol gan adran 63 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

(58)

1989 p.41. Fe’i dirymwyd gan adran 73 o Fesur Plant a Theuluoeddd (Cymru) 2010 (mccc 1).

(59)

2006 p.21.

(60)

2006 p.47.

(61)

Mewnosodwyd adran 167A gan adran 169 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) ond nid yw eto mewn grym.

(62)

Fe’i dirymwyd gan adran 216 o Ddeddf Addysg 2002.

(64)

Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 163 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998 a chan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 i’r Ddeddf honno, a chan adran 6 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

(65)

1992 p.13; mewnosodwyd gan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 i’r Ddeddf honno.

(66)

1997 p.50; mewnosodwyd gan adran 163 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p.15). Cafodd is-adrannau (2A) a (12) eu mewnosod, a chafodd is-adran (6) ei diwygio, gan Orchymyn Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) (Cyfathrebu Electronig) 2009 (O.S. 2009/203). Disodlwyd paragraffau (a) a (b), fel y’i deddfwyd yn wreiddiol gan baragraff 149 o Atodlen 16 i Deddf y Lluoedd Arfog 2006 (p.52), gan baragraff (a) o is-adran (10).

(67)

2004 p.33.