NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy.125)), Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1040 (Cy.100)), Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2611 (Cy.222)), a Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 (Cy.316)), drwy drosglwyddo swyddogaethau maethiad o dan bob set o reoliadau o’r Asiantaeth Safonau Bwyd i Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.