RHAN 2Diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010
Darpariaethau trosiannol10
1
Nid yw’r diwygiadau a wneir gan reoliad 4 (o ran y rheoliad 21(4)(c) newydd y mae’n ei gyflwyno i Reoliadau Adeiladu 2010), rheoliad 6 a rheoliad 8 (o ran y rheoliad 28(2) newydd y mae’n ei gyflwyno i Reoliadau Adeiladu 2010) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo’r canlynol yn gymwys ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—
a
bod gwaith adeiladu wedi dechrau yn unol ag unrhyw ddarpariaeth hysbysu berthnasol; neu
b
y cydymffuriwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol mewn perthynas â gwaith adeiladu arfaethedig a bod gwaith adeiladu yn dechrau o fewn y cyfnod o ddeuddeg mis yn dechrau ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
2
Yn y rheoliad hwn, ystyr “darpariaeth hysbysu berthnasol” (“relevant notification provision”) yw rheoliad 12(2) o Reoliadau Adeiladu 2010 ac adrannau 47(1), 50, 51A(2) a 54 o Ddeddf Adeiladu 1984.