xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“y Rheoliadau Adeiladu”) er mwyn mewnosod darpariaethau newydd ac ymestyn rhai presennol sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni adeiladau.
Mae rheoliad 4 yn ychwanegu at reoliad 21(4) o Reoliadau 2010 i ymestyn y gofynion effeithlonrwydd ynni yn Rheoliadau 2010 i gynnwys heulfan neu borth lle mae dyfais wresogi osodedig wedi cael ei ddarparu i wresogi’r heulfan neu’r porth. Mae rheoliad 5 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gymeradwyo cyfraddau targed ar gyfer defnyddio ynni sylfaenol mewn adeiladau newydd (ac eithrio anheddau newydd) a gwerthoedd targed ar gyfer perfformiad ffabrig mewn anheddau newydd. Mae rheoliad 6 yn mewnosod rheoliadau 26A a 26B i Reoliadau 2010 i’w gwneud yn ofynnol na chaniateir i adeiladau newydd (ar eithrio anheddau newydd) ddefnyddio mwy o ynni sylfaenol na’r cyfraddau targed a na chaniateir i werthoedd perfformiad ffabrig anheddau newydd fod yn fwy na’r gwerthoedd targed. Mae rheoliad 7 yn mewnosod rheoliadau 27A a 27B i Reoliadau 2010 sy’n nodi’r weithdrefn i’w dilyn er mwyn cyflwyno i awdurdodau lleol dystiolaeth sy’n ymwneud â’r cyfraddau targed ar gyfer defnyddio ynni sylfaenol a gwerthoedd targed ar gyfer perfformiad ffabrig. Rhoddir rheoliad 8 yn lle rheoliad 28 o Reoliadau 2010 er mwyn ategu gofynion penodol a’u hymestyn i gynnwys adeiladau sydd â chyfanswm arwynebedd llawr defnyddiol o dan 1000m2.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010. Mae’r diwygiadau a wneir yn ganlyniadol i’r diwygiadau i Reoliadau 2010.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.