Offerynnau Statudol Cymru
2014 Rhif 110 (Cy. 10)
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2014
Gwnaed
21 Ionawr 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Ionawr 2014
Yn dod i rym
31 Gorffennaf 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984(1), a pharagraffau 1, 4, 7 a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli’r buddiannau dan sylw, yn unol ag adran 14(7) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1984 p.55. Diwygiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p.22); diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan adran 3 o’r Ddeddf honno a chan adran 11 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006 (p.19).
Trosglwyddwyd y swyddogaethau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984 a pharagraffau 1, 4, 7 a 10 o Atodlen 1 iddi, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019).