Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2014.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol 19832;
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013; a
mae i “tribiwnlys” (“tribunal”) yr ystyr a roddir yn adran 55(1) o Ddeddf 2013.