Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2013; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Mai 2013.
Diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007
2.
3.
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98” (“Commission Regulation (EC) No 494/98”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran cymhwyso y lefel isaf o sancsiynau gweinyddol yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol5;”.
4.
“(c)
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98;”.
5.
Yn rheoliad 12 (cigydda anifeiliaid heb eu marcio), hepgorer “awdurdod milfeddygol a'r”.
Atodlen 2 (cofrestru gwartheg)
6.
“(aa)
drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;”.
Atodlen 3 (pasbortau gwartheg)
7.
“(2A)
Ond nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i feddiannydd lladd-dy.”
Atodlen 4 (hysbysiad o symud neu farwolaeth)
8.
Yn Atodlen 4—
(a)
“(aa)
drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;”; a
(b)
ym mharagraff 2—
(i)
“(1)
Pan gigyddir anifail mewn lladd-dy, rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu Gweinidogion Cymru am y farwolaeth o fewn saith niwrnod—
(a)
drwy ddefnyddio gwefan ryngweithiol Gweinidogion Cymru;
(b)
drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;
(c)
drwy ddefnyddio meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu
(ch)
drwy gwblhau'r manylion am y farwolaeth ym mhasbort yr anifail a'i ddychwelyd i Weinidogion Cymru,
a rhaid iddo ddychwelyd pasbort yr anifail i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod.
(2)
Os cigyddir anifail y tu allan i ladd-dy ond ei fod yn cael ei anfon i ladd-dy er mwyn ei drin, rhaid i'r ceidwad lenwi'r manylion am y farwolaeth yn y pasbort a'i anfon gyda'r anifail i'r lladd-dy, a rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu'r farwolaeth drwy ddychwelyd y pasbort i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod ar ôl marwolaeth yr anifail.
(3)
Yn unrhyw achos arall, pan fydd anifail yn marw neu'n cael ei ladd rhaid i'r ceidwad hysbysu Gweinidogion Cymru am y farwolaeth o fewn saith niwrnod—
(a)
drwy ddefnyddio gwefan ryngweithiol Gweinidogion Cymru;
(b)
drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;
(c)
drwy ddefnyddio meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu
(ch)
drwy gwblhau'r manylion am y farwolaeth ym mhasbort yr anifail a'i ddychwelyd i Weinidogion Cymru,
a rhaid iddo ddychwelyd pasbort yr anifail i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod.
(3A)
Ond pan fo arolygydd wedi cymryd ac wedi cadw pasbort anifail o dan reoliad 10(3)(ch), nid yw gofyniad o dan y paragraff hwn i ddychwelyd y pasbort i Weinidogion Cymru yn gymwys cyhyd ag y mae'r pasbort yn cael ei gadw yn y fath fodd.”, a
(ii)
hepgorer is-baragraff (5).
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 (O.S. 2007/842) (Cy.74).
Mae rheoliadau 3 a 4 yn diweddaru'r cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE. Mae rheoliad 5 yn egluro swyddogaeth yr awdurdod cymwys mewn perthynas ag anifeiliaid sydd heb eu hadnabod.
Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth i ychwanegu system ffôn awtomataidd newydd at y rhestr o ddulliau y caiff ceidwaid eu defnyddio i gofrestru anifeiliaid gyda Gweinidogion Cymru.
Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth i gael gwared ar yr angen i feddianwyr lladd-dai nodi manylion penodol ym mhasbortau'r anifeiliaid y maent wedi eu cigydda.
Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth i ganiatáu i geidwaid adrodd ar symudiadau anifeiliaid drwy ddefnyddio'r system ffôn awtomataidd newydd fel dull o hysbysu a hefyd i adrodd am farwolaethau anifeiliaid drwy ddefnyddio dulliau electronig yn ogystal ag ar bapur, ac eithrio yn achos anifeiliaid a gigyddir y tu allan i ladd-dy ac a anfonir i ladd-dy er mwyn eu trin. Rhaid dychwelyd pasbort anifail i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod i'r farwolaeth onid yw arolygydd wedi ei gadw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.