xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
469. Yn y Rhan hon, ystyr “cyfeiriad perthnasol” (“relevant reference”) yw cyfeiriad sy'n cael effaith fel cyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd.
470. Yn Neddf Cadwraeth Dyfrdwy 1889, mae unrhyw gyfeiriad perthnasol i'w drin fel cyfeiriad at Gorff Adnoddau Naturiol Cymru.
471. Yn Neddf Awdurdod Afonydd Dyfrdwy a Chlwyd 1973, mae unrhyw gyfeiriad perthnasol i'w drin fel cyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd.