Sefydlodd Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (“y Gorchymyn Sefydlu”) gorff statudol newydd, Corff Adnoddau Naturiol Cymru (“y Corff”) gan ddarparu ar gyfer diben, aelodaeth, gweithdrefn, llywodraethiant ariannol a swyddogaethau cychwynnol y Corff. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â'r Corff, gan gynnwys darpariaeth ynglŷn ag addasu a throsglwyddo swyddogaethau amgylcheddol iddo.
Mae erthygl 3 yn cyflwyno Atodlen 1, sy'n cynnwys diwygiadau i'r Gorchymyn Sefydlu o ran swyddogaethau cyffredinol y Corff. Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan baragraffau 4 a 7 yn gosod dyletswyddau ar y Corff sy'n ymwneud â chadwraeth natur, mynediad a hamdden a chydweithredu. Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan baragraffau 9 i 11 yn rhoi pwerau i'r Corff i ymrwymo i gytundebau gydag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus, rhoi cyngor neu gymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) i eraill, gwneud ymchwil neu ei chomisiynu a dwyn achosion troseddol yng Nghymru a Lloegr.
Mae paragraffau 12 a 13 o Atodlen 1 yn diwygio darpariaethau'r Gorchymyn Sefydlu sy'n ymwneud â chyfarwyddiadau i'r Corff gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae paragraffau 14 i 17 yn diwygio darpariaethau ariannol y Gorchymyn Sefydlu ac yn rhoi pŵer i'r Corff i godi tâl am waith. Mae paragraff 18 yn mewnosod Rhan 4 newydd yn y Gorchymyn Sefydlu a honno'n ei gwneud yn ofynnol i'r Corff fabwysiadu cynllun ynglŷn â chyhoeddi gwybodaeth am benderfyniadau ynghylch hawlenni, a rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am geisiadau penodol am hawlenni.
Mae erthygl 4(1) yn cyflwyno Atodlenni 2 a 3, sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol benodedig, drwy hepgor cyfeiriadau at Gyngor Cefn Gwlad Cymru (“CCGC”), rhoi cyfeiriadau at y Corff yn lle cyfeiriadau presennol at y Comisiynwyr Coedwigaeth, CCGC, Asiantaeth yr Amgylchedd neu Weinidogion Cymru, a rhoi cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn lle cyfeiriadau penodol at y Comisiynwyr Coedwigaeth. Mae erthygl 4(2) yn cyflwyno Atodlenni 4, 5 a 6, sy'n diwygio is-ddeddfwriaeth benodedig yn yr un modd. Mae Atodlenni 2 i 6 hefyd yn cynnwys darpariaethau canlyniadol, atodol a chysylltiedig.
Effaith gyffredinol y diwygiadau hyn yw bod swyddogaethau datganoledig Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiynwyr Coedwigaeth, a bron y cyfan o swyddogaethau CCGC, yn cael eu haddasu a'u trosglwyddo i'r Corff. Mae swyddogaethau trwyddedu penodol sydd gan Weinidogion Cymru o ran yr amgylchedd hefyd yn cael eu trosglwyddo i'r Corff. Mae pwerau'r Comisiynwyr Coedwigaeth i wneud is-ddeddfwriaeth o ran Cymru yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.
Mae erthyglau 5 i 7 yn darparu bod cyfeiriadau penodol mewn deddfiadau lleol at CCGC, y Comisiynwyr Coedwigaeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd i gael eu darllen fel cyfeiriadau at y Corff.
Mae erthygl 8 yn dileu CCGC ac yn gwneud diddymiadau perthynol. Mae erthygl 9 yn dileu Pwyllgor Ymgynghorol Gwarchod yr Amgylchedd a sefydlwyd ar gyfer Cymru yn unol ag adran 12(6) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a'r pwyllgor ymgynghorol pysgodfeydd rhanbarthol a lleol a sefydlwyd ar gyfer Cymru yn unol ag adran 13(5) o'r Ddeddf honno, ac yn gwneud diddymiadau perthynol.
Mae erthygl 10 yn cyflwyno Atodlen 7, sy'n cynnwys darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r offeryn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r offeryn hwn.