Addasu a throsglwyddo swyddogaethau, darpariaethau canlyniadol a darpariaethau eraill4.

(1)

Mae Atodlenni 2 a 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sydd—

(a)

yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau datganoledig Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd;

(b)

yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff ac i Weinidogion Cymru swyddogaethau datganoledig Cymreig y Comisiynwyr Coedwigaeth;

(c)

yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau CCGC;

(d)

yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran yr amgylchedd;

(e)

yn gwneud darpariaeth ganlyniadol, atodol a chysylltiedig.

(2)

Mae Atodlenni 4, 5 a 6 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sydd—