Enwi, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2013.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
3
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
a
adeiladau addysgol ac adeiladau ymgymerwyr statudol yng Nghymru;
b
adeiladau'r Goron yng Nghymru; ac
c
gwaith adeiladu a gyflawnir gan awdurdodau'r Goron yng Nghymru neu y bwriedir iddo gael ei gyflawni gan awdurdodau'r Goron yng Nghymru.
4
Daw pob un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn a nodir yn ail golofn y Tabl yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiad a nodir yng ngholofn gyntaf y Tabl hwnnw, at y diben a nodir yn y drydedd golofn.
5
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “adeiladau addysgol ac adeiladau ymgymerwyr statudol” (“educational buildings and buildings of statutory undertakers”) yw adeiladau sy'n dod o fewn adran 4(1)(a), (b) neu (c) o Ddeddf Adeiladu 1984.
ystyr “adeilad y Goron” (“Crown building”) yw adeilad y mae gan y Goron neu'r Ddugiaeth fuddiant ynddo;
mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” yn yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 20093;
ystyr “awdurdod y Goron” (“Crown authority”) yw Comisiynwyr Ystad y Goron, un o Weinidogion y Goron, un o adrannau'r llywodraeth, unrhyw berson neu gorff arall y cyflawnir ei swyddogaethau ar ran y Goron (heb fod yn berson neu'n gorff y cyflawnir ei swyddogaethau ar ran Ei Mawrhydi fel unigolyn preifat), neu berson sy'n gweithredu yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn neu Ddugiaeth Cernyw;
ystyr “buddiant y Ddugiaeth” (“Duchy interest”) yw buddiant sydd gan Ei Mawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu fuddiant sydd gan Ddugiaeth Cernyw; ac
ystyr “buddiant y Goron” (“Crown interest”) yw buddiant sydd gan Ei Mawrhydi yn hawl y Goron, neu sydd gan un o adrannau'r llywodraeth, neu sy'n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Mawrhydi at ddibenion un o adrannau'r llywodraeth;