RHAN 3Darpariaethau Trosiannol
Darpariaethau trosiannol: dehongli34
Yn rheoliadau 35 a 36—
ystyr “darpariaeth hysbysu berthnasol” (“relevant notification provision”) yw rheoliad 12(2) o Reoliadau Adeiladu 2010 ac adrannau 47(1), 50, 51A(2) a 54 o Ddeddf Adeiladu 1984; ac
ystyr “rheoliadau perthnasol” (“relevant regulations”) yw rheoliadau 7, 13 neu 15 o'r Rheoliadau hyn.
Gwaith sydd eisoes wedi ei ddechrau cyn i reoliadau penodol gymryd effaith35
Nid yw diwygiad sydd wedi ei wneud gan reoliad perthnasol yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo'r gwaith adeiladu wedi ei ddechrau yn unol ag unrhyw ddarpariaeth hysbysu berthnasol sy'n gymwys mewn perthynas â'r gwaith ar yr adeg pan fo'r diwygiad yn cymryd effaith.
Rhoi hysbysiad neu adneuo planiau cyn i'r rheoliadau hynny gymryd effaith36
Nid yw diwygiad sydd wedi ei wneud gan reoliad perthnasol yn gymwys mewn unrhyw achos—
a
pan gydymffurfiwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol mewn perthynas â gwaith adeiladau arfaethedig ar yr adeg pan fo'r diwygiad yn cymryd effaith; a
b
pan fo'r gwaith adeiladu wedi ei ddechrau o fewn cyfnod o 12 mis gan ddechrau ar y diwrnod y mae'r rheoliad perthnasol yn cymryd effaith.