(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“y Rheoliadau Adeiladu”) a Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy”).

Mae'r diwygiadau i'r Rheoliadau Adeiladu wedi eu nodi yn Rhan 1.

Mae rheoliad 8 yn cynnwys darpariaethau newydd sy'n ymwneud â'r awdurdod lleol yn dyroddi tystysgrifau cwblhau ac mae rheoliad 9 yn ychwanegu rheoliad newydd, sef rheoliad 17A, sy'n disodli ac yn bennaf yn ailddeddfu, â mân ddiwygiadau, hanfod rheoliad 17 o ran adeiladau sydd wedi eu meddiannu cyn i'r gwaith gael ei gwblhau. Mae'r diwygiadau i reoliad 14 yn rheoliad 5, i reoliad 15 yn rheoliad 6, i reoliad 19 yn rheoliad 10, i reoliad 47 yn rheoliad 22 ac i reoliad 48 yn rheoliad 23 yn ganlyniadol i'r diwygiad hwn.

Mae rheoliadau 8(b) a 11(b) yn ychwanegu gofyniad ychwanegol at reoliad 17 a rheoliad 20 yn y drefn honno, gan ei gwneud yn ofynnol i dystysgrifau penodedig gynnwys geiriad ynghylch gwerth tystiolaethol y tystysgrifau hynny.

Mae rheoliad 11 yn diwygio rheoliad 20 i ddarparu bod tystysgrif a ddyroddir yn unol â rheoliad 20 o'r Rheoliadau Adeiladu, o dan gynllun hunanardystio, yn nodi bod rhwymedigaethau talu yn y dyfodol yn gymwys i'r eiddo o dan sylw o dan gynllun bargen werdd i ad-dalu costau gwaith i wella effeithlonrwydd ynni ar yr eiddo. Mae'r diwygiad hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol storio'r hysbysiadau a'r tystysgrifau perthnasol ar ffurf adferadwy.

Mae rheoliadau 4, 12 i 20, 22 a 23 yn trosi Erthyglau 2, 6, 7, 9 ac 11 o Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 2010/31/EU sy'n ddyddiedig 19 Mai 2010 ar berfformiad ynni adeiladau (ail-lunio) (“y Gyfarwyddeb ail-lunio”). Mae rheoliad 13 yn diwygio rheoliad 23 o'r Rheoliadau Adeiladu sy'n ymwneud ag adnewyddu neu ailosod elfennau thermol i weithredu gofynion y gyfarwyddeb ail-lunio yn llawn. Mae rheoliad 15 yn gweithredu'n rhannol y gofynion yn y Gyfarwyddeb ail-lunio ar gyfer systemau amgen tra effeithlon ac adeiladau sydd bron yn ddi-garbon mewn cysylltiad ag adeiladau newydd. Mae rheoliadau 16 i 19 yn nodi gofynion ar gyfer tystysgrifau perfformiad ynni mewn perthynas ag adeiladu adeilad; maent yn trosi'r Gyfarwyddeb ail-lunio ac maent hefyd yn cynnwys darpariaethau a nodir ynghynt yn Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Tystysgrifau ac Arolygiadau) (Cymru a Lloegr) 2007 (O.S. 2007/991).

Mae rheoliad 21 yn diwygio rheoliad 43 o'r Rheoliadau Adeiladu i ychwanegu corff pellach a gaiff gofrestru person i ddyroddi tystysgrif yn nodi cydymffurfedd â gofynion ynghylch profion pwysedd.

Mae rholiad 24(2) yn diwygio'r rhestr o'r cyrff sydd wedi eu hawdurdodi o dan y cynllun hunanardystio y darperir ar ei gyfer gan reoliadau 12 ac 20 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau Adeiladu.

Mae Rhan 2 yn cynnwys diwygiadau i'r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy. Mae rheoliadau 30 ac 32 yn diwygio rheoliadau 8 ac 20 o'r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy i sicrhau bod y newidiadau sy'n ofynnol o dan y Gyfarwyddeb ail-lunio hefyd yn gymwys pan fydd arolygydd cymeradwy yn ymgymryd â swyddogaeth reoli adeiladu.

Mae rheoliad 31 yn ychwanegu darpariaeth at reoliad 16 gan ei gwneud yn glir bod tystysgrif derfynol a roddir gan arolygydd cymeradwy yn dystiolaeth o'r materion a nodir ynddi, ond nid yw'n dystiolaeth ddigamsyniol o'r materion hynny.

Mae rheoliad 33 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r ffurflenni hysbysiad perthnasol a bennir yn Atodlen 1 ac yn ychwanegu, pan fo'n briodol, y datganiad bod yr hysbysiad neu'r dystysgrif yn dystiolaeth o gydymffurfedd â'r gofynion a bennir ynddo ond nid yw'n dystiolaeth ddigamsyniol o'r gydymffurfedd honno.

Mae Rhan 3 yn nodi'r darpariaethau trosiannol.

Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn nodi'r tabl cychwyn.