2013 Rhif 747 (Cy.89)
ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU
Rheoliadau Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(4)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 2A, 8(6), 16(9), 17(1) a (6), 34, 47(1), 49(5) ac 51(1) o Ddeddf Adeiladu 19841 a pharagraffau 1, 2, 4, 4A, 6, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, ar ôl ymgynghori, yn unol ag adran 14(7) o'r Ddeddf honno, â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a chyrff eraill sydd, yn eu tyb hwy, yn cynrychioli'r buddiannau o dan sylw, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: