(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 6(1)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (“y Ddeddf”) yn darparu bod ystadegau a gynhyrchir gan y Bwrdd Ystadegau, adran o'r llywodraeth, Gweinyddiaeth yr Alban, un neu ragor o awdurdodau Gweinidogion Cymru (sef, Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, neu Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru), adran yng Ngogledd Iwerddon, neu unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran y Goron, yn ystadegau swyddogol.

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 6(1)(b) a (2) o'r Ddeddf, sy'n caniatáu i orchmynion gael eu gwneud i bennu personau eraill yn gynhyrchwyr ystadegau swyddogol. Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi bod yr ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i'w cynhyrchu, gan y personau a restrir yn yr Atodlen yn ystadegau swyddogol. Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ystadegau datganoledig Cymru fel y'u diffinnir yn adran 66 o'r Ddeddf.