http://www.legislation.gov.uk/wsi/2013/63/contents/made/welsh
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2013
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2017-11-28
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (“Rheoliadau 1993”) yn gwneud darpariaeth ynghylch materion i'w cynnwys, a gwybodaeth i'w darparu, gyda hysbysiadau galw am dalu'r dreth gyngor a gyflwynir gan awdurdodau bilio Cymru neu ar eu rhan. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1993 er mwyn cymryd i ystyriaeth gyflwyniad cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor lleol yn unol â gofynion Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012. Mae rheoliad 2(2) a (3) yn gwneud diwygiadau canlyniadol er sicrhau bod hysbysiadau galw am dalu yn cyfeirio at ostyngiadau pan fo'n berthnasol.