Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod bilio yng Nghymru yn gwneud cynllun (cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor) sy'n pennu'r gostyngiadau a gymhwysir i'r symiau o dreth gyngor a fydd yn daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, yr ystyrir eu bod mewn angen yn ariannol. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 yn rhagnodi cynllun (y cynllun diofyn) a fydd yn cael effaith os bydd awdurdod bilio wedi methu â gwneud cynllun ei hunan ar gyfer gostyngiadau'r dreth gyngor. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 14A i 14C o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ac maent yn darparu ar gyfer creu troseddau ac ar gyfer pwerau i wneud darparu gwybodaeth yn ofynnol ac i osod cosbau mewn cysylltiad â chynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor a'r cynllun diofyn.
Mae rheoliad 3 yn darparu y caiff awdurdodo bilio roi awdurdodiad i unigolyn i arfer y pwerau a roddir i swyddog awdurdodedig o dan reoliadau 4 a 5.
Mae rheoliad 4 yn galluogi swyddogion a awdurdodir o dan reoliad 3 ei gwneud yn ofynnol i bersonau penodedig ddarparu gwybodaeth at y diben o atal a darganfod troseddau, a sicrhau tystiolaeth o gyflawni troseddau mewn cysylltiad â chais am ostyngiad, neu ddyfarniad o ostyngiad, o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor neu'r cynllun diofyn.
Mae rheoliad 5 yn galluogi awdurdod bilio ei gwneud yn ofynnol bod y personau a bennir yn rheoliad 4(4) yn ymuno mewn trefniadau a fydd yn caniatáu i swyddogion awdurdodedig gael mynediad at gofnodion electronig. Ceir gwneud yn ofynnol ymuno mewn trefniadau o'r fath os yw'n ymddangos i awdurdod bilio fod cyfleusterau'n bodoli sy'n darparu, neu a allai ddarparu mynediad i'r cofnodion hynny, a bod y cofnodion yn cynnwys, neu'n debygol o gynnwys gwybodaeth am fater sy'n berthnasol i'r diben o atal a darganfod troseddau, a sicrhau tystiolaeth o gyflawni troseddau mewn cysylltiad â chais am ostyngiad, neu ddyfarniad o ostyngiad, o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor neu'r cynllun diofyn.
Mae rheoliad 6 yn darparu ei bod yn drosedd rhwystro swyddog awdurdodedig, neu beri yn fwriadol iddo oedi, rhag arfer unrhyw bŵer i wneud darparu gwybodaeth yn ofynnol o dan reoliad 4 neu 5. Cyflawnir trosedd hefyd os yw person yn gwrthod neu'n methu â chydymffurfio (heb esgus rhesymol) â gofyniad i ymuno mewn trefniadau i gael mynediad at gofnodion electronig o dan reoliad 5, neu ddarparu gwybodaeth os gofynnir iddo wneud hynny o dan reoliad 4.
Mae rheoliad 7 yn pennu y cyflawnir trosedd os yw person yn gwneud datganiad neu sylw y gŵyr y person hwnnw ei fod yn ffug, at y diben o gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor neu'r cynllun diofyn. Mae'n drosedd hefyd ddarparu, neu beri neu ganiatáu'n ymwybodol ddarparu, dogfen neu wybodaeth ffug at y diben hwnnw.
Mae rheoliad 8 yn pennu y cyflawnir trosedd os digwydd unrhyw newid yn yr amgylchiadau, y gŵyr person ei fod yn effeithio ar ei hawl i ostyngiad, a'r person hwnnw yn methu â rhoi hysbysiad o'r newid fel sy'n ofynnol o dan gynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau'r dreth gyngor neu'r cynllun diofyn. Mae'n pennu hefyd ei bod yn drosedd peri neu ganiatáu i berson arall fethu â rhoi hysbysiad o'r fath.
Mae rheoliad 9 yn pennu y cyflawnir trosedd os yw person, yn anonest, yn gwneud datganiad neu sylw ffug at y diben o gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor neu'r cynllun diofyn. Mae'n drosedd hefyd ddarparu, neu beri neu ganiatáu darparu, yn anonest, ddogfen neu wybodaeth ffug at y diben hwnnw.
Mae rheoliad 10 yn pennu y cyflawnir trosedd os digwydd unrhyw newid yn yr amgylchiadau, y gŵyr person ei fod yn effeithio ar ei hawl i ostyngiad, a'r person hwnnw, yn anonest, yn methu â rhoi hysbysiad o'r newid fel sy'n ofynnol o dan gynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau'r dreth gyngor neu'r cynllun diofyn. Mae'n pennu hefyd ei bod yn drosedd peri neu ganiatáu, yn anonest, i berson arall fethu â rhoi hysbysiad o'r fath.
Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau o dan y Rheoliadau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol.
Mae rheoliad 12 yn pennu'r terfyn amser ar gyfer cychwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau.
Mae rheoliadau 13 i 15 yn galluogi awdurdod bilio i wahodd person i gytuno i dalu cosb yn hytrach na chael ei erlyn am drosedd ynglŷn â dyfarnu gostyngiad nad oedd hawl gan y person hwnnw i'w gael o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, neu drosedd sy'n ymwneud â gweithred neu anwaith a allai fod wedi arwain at ddyfarniad o'r fath.
Mae rheoliadau 16 a 17 yn galluogi awdurdod bilio i osod cosb o £70 ar berson, mewn amgylchiadau megis pan fo person, drwy esgeulustod, yn gwneud datganiad anghywir mewn cysylltiad â chais am ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor neu'r cynllun diofyn, neu pan fo person yn methu â hysbysu ynghylch newid amgylchiadau pan fo'n ofynnol gwneud hynny o dan gynllun o'r fath.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r asesiad gan yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.