2013 Rhif 570 (Cy.66)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921, a pharagraff 15B o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, ac a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 113(2) o'r Ddeddf honno, paragraff 6 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, a pharagraffau 1 a 12 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno2 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy3.

Yn unol â pharagraff 15B(6) o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno mae Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cydsynio i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.