Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2013
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2015-09-18
TAI, CYMRU
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach (o ran Cymru) Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890) (“y prif Reoliadau”), a osododd y prawf modd i benderfynu swm y grant y caniateir i awdurdodau tai lleol ei dalu o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 30 a 146 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 19961, a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru2, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy3, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.