2013 Rhif 547 (Cy.59)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 a pharagraffau 1, 5(1) ac 8 o Atodlen 11 iddi ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol â pharagraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 20072.