2013 Rhif 545 (Cy.58)
Rheoliadau Bwyd (Diwygio Amrywiol a Dirymu) (Cymru) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1) a (3), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) (c) a (4) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu'r gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod llunio a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.