http://www.legislation.gov.uk/wsi/2013/372/contents/made/welsh
Rheoliadau Cyrsiau Adsefydlu (Troseddau Yfed Perthnasol) (Cymru) 2013
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2013-06-21
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cyrsiau adsefydlu i rai a fu'n gyrru ac yfed, ac maent yn gymwys o ran Cymru. Gall y cyrsiau hyn fod yn destun gorchymyn llys, y gellir lleihau cyfnod o anghymhwysiad am droseddau yfed a gyrru oddi tano, os yw'r troseddwr yn cwblhau cwrs cymeradwy yn llwyddiannus. Y darpariaethau statudol perthnasol yw adrannau 34A i 34C o Ddeddf Troseddwyr Traffig Ffyrdd 1988 fel y'u hamnewidiwyd gan adran 35 o Ddeddf Diogelwch Ffyrdd 2006.