2013 Rhif 361 (Cy. 43)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2013
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan adran 101B o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 19841, a drosglwyddwyd wedi hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Yn unol â pharagraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd8.