Diwygio Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 20089
1
Diwygir Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 200811 fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
a
Ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “manwerthu” (“sell by retail”), mewnosoder—
ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;
b
ym mharagraff (2) ar ôl “Rheoliad y Cyngor”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”.
3
Yn rheoliad 6(2) (tramgwyddau a chosb am dorri unrhyw ddarpariaeth UE)—
a
yn is-baragraff (a), yn lle “gydag Atodiad XII i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “gyda Rhan III o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;
b
yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder “(i) pwyntiau 1, 3, 5 a 6 o Ran II a phwynt 2 o Ran IV o Atodiad XV i Reoliad y Cyngor”;
c
ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder “(ba) Erthyglau 75(1)(h) a 78(1) a (2) o Reoliad (EU) 2013 (diffiniadau, dynodiadau a disgrifiadau gwerthu sy’n gymwys i frasterau taenadwy) fel y’u darllenir gyda Rhan VII o Atodiad VII i’r Rheoliad hwnnw”.