Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 20118.
(1)
(2)
Yn rheoliad 1(3) (cymhwyso’r Rheoliadau i gig dofednod)—
(a)
yn lle “ym mhwynt I(1) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “ym mhwynt I o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a
(b)
yn lle “o’r Rhan honno o’r Atodiad hwnnw i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl”.
(3)
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)
ym mharagraff (1)—
(i)
yn y diffiniad o “darpariaeth cig dofednod Ewropeaidd” (“European poultrymeat provision”), ar ôl “Rheoliad CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”;
(ii)
“mae i “cig dofednod” (“poultrymeat”) yr ystyr a roddir i “poultrymeat” gan bwynt II(1) o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013;”; a
(iii)
“ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”; a
(b)
ym mharagraff (3), ar ôl “Rheoliad CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”.
(4)
Yn rheoliad 12 (pwerau swyddog awdurdodedig), yn lle “i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “i Reoliad (EU) 2013”.
(5)
Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau cig dofednod Ewropeaidd – hysbysiadau cydymffurfio)—
(a)
yn y pennawd o dan “Rhan 1”, ar ôl “CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”;
(b)
yn lle pennawd colofn 1, rhodder “Darpariaeth berthnasol o’r Rheoliad CMO Sengl neu Reoliad (EU) 2013”;
(c)
ym mhennawd colofn 2, ar ôl “Rheoliad CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”;
(d)
yng ngholofn 1 o’r tabl, yn lle “Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf” rhodder “Erthygl 74 o Reoliad (EU) 2013”;
(e)
yng ngholofn 2 o’r tabl, yn lle “Erthygl 116 o’r Rheoliad CMO Sengl a Rhan B o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “Erthygl 116 a Rhan B(I)(2) a (3) a (III)(1) o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a Rhan V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;
(f)
yng ngholofn 3 o’r tabl, yn lle “Rhan B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “Rhan B(I)(2) a (3) a (III)(1) o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a Rhan V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;
(g)
yng ngholofn 1 o’r tabl, ar ôl “Pwynt III(1) o Ran B o Atodiad XIV” mewnosoder “i’r Rheoliad CMO Sengl”;
(h)
yng ngholofn 1 o’r tabl, yn lle “Pwynt III(2) o Ran B o Atodiad XIV” rhodder “Pwynt III o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; ac
(i)
yng ngholofn 2 o’r tabl yn lle “o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.
(6)
Yn Rhan 2 o Atodlen 1 (darpariaethau Rheoliad y Comisiwn)—
(a)
yng ngholofn 2 yn lle “Pwyntiau III(1) a (2) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “Pwynt III(1) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a phwynt III o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a
(b)
yn lle “Pwynt II(3) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “Pwynt II(3) o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.