Diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 20096
1
Diwygir Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 20098 fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(2) (dehongli)—
a
yn y diffiniad o “rheolau marchnata’r UE” (“EU marketing rules”), yn lle “i Reoliad y Cyngor 1234/2007, ac sy’n cynnwys y rheolau sy’n ymwneud â’r safonau hynny a geir yn Erthyglau 113 ac 113a o Reoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “i Reoliad (EU) 2013, ac sy’n cynnwys y rheolau sy’n ymwneud â’r safonau hynny a geir yn Erthyglau 74, 75 a 76 o Reoliad (EU) 2013”;
b
hepgorer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor 1234/2007” (“Council Regulation 1234/2007”);
c
yn y diffiniad o “safon farchnata gyffredinol” (“general marketing standard”) yn lle “Erthygl 113a(1) o Reoliad 1234/2007” rhodder “Erthygl 76(1) o Reoliad (EU) 2013”;
d
yn y diffiniad o “cynnyrch garddwriaethol” (“horticultural produce”), yn lle “Reoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “Reoliad (EU) 2013”;
e
ar ôl y diffiniad o “rheolau marchnata’r UE” (“EU marketing rules”) mewnosoder y diffiniad canlynol—
ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;
f
yn y diffiniad o “safonau marchnata penodol” (“specific marketing standards”) yn lle “Erthygl 113(1)(b) o Reoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “Erthygl 75(1)(b) o Reoliad (EU) 2013”.
3
Yn rheoliad 2(3) (dehongli), yn lle “Rheoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “Rheoliad (EU) 2013”.