Diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 20105

1

Diwygir Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 20107 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3(1) (dehongli), ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003” mewnosoder—

  • ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;

3

Yn rheoliad 3(3) (dehongli) yn lle “Rhan A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO” rhodder “Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.

4

Yn rheoliad 3(5)(a) a (6)(a) (dehongli), ar ôl “Rheoliad Sengl CMO” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”.

5

Yn rheoliad 8 (cymhwyso Rhan 3)—

a

ym mharagraffau (1) a (2)(a), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a

b

ym mharagraff (2)(b), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO, i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran A o Atodiad XIV” rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013, i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran VI o Atodiad VII”.

6

Yn rheoliad 11(1) a (2) (rhanddirymiadau sy’n ymwneud â marcio wyau), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.

7

Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau UE ynglŷn ag wyau deor a chywion y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd)—

a

yn y pennawd o dan “Rhan 1”, mewnosoder ar y diwedd “neu’r Rheoliad (EU) 2013”;

b

ym mhenawdau colofnau 1 a 2, ar ôl “CMO” rhodder “neu’r Rheoliad (EU) 2013”;

c

yng ngholofn 1, yn lle “Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf” rhodder “Erthygl 74 o Reoliad (EU) 2013”;

d

yng ngholofn 1 ar ôl “Atodiad XIV”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “i’r Rheoliad Sengl CMO”.

8

Yn Atodlen 2 (darpariaethau UE cyffredinol ynglŷn ag wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta, y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd)—

a

yn lle Rhan 1 (darpariaethau’r Rheoliad Sengl CMO) rhodder—

PART 1DARPARIAETHAU RHEOLIAD (EU) 2013

Colofn 1

Y ddarpariaeth berthnasol o Reoliad (EU) 2013

Colofn 2

Darpariaethau i’w darllen gyda darpariaethau Rheoliad (EU) 2013 a grybwyllir yng ngholofn 1

Colofn 3

Y pwnc

Erthygl 74 i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyau

Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008

Gwaharddiad ar farchnata wyau ac eithrio yn unol â’r safonau marchnata a osodir yn Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008.

Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII

Erthygl 2(1) a (4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008

Graddio ansawdd wyau dosbarth A (neu ffres) neu wyau dosbarth B.

Pwynt II(2) o Ran VI o Atodiad VII

Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008

Graddio pwysau wyau dosbarth A.

Pwynt II(3) o Ran VI o Atodiad VII

Gwaharddiad ar gyflenwi wyau dosbarth B ac eithrio i’r diwydiant bwyd a diwydiant nad yw’n ddiwydiant bwyd.

Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr is-baragraff cyntaf

Erthyglau 9(1) ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008

Marcio wyau dosbarth A.

Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail is-baragraff

Erthyglau 9, 10 ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, paragraffau (a) a (b) o’r ail is-baragraff o bwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a rheoliad 11(1)

Marcio wyau dosbarth B.

Pwynt III(2) o Ran VI o Atodiad VII

Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013

Y man lle caiff wyau eu marcio.

Pwynt III(3) o Ran VI o Atodiad VII, yr is-baragraff cyntaf

Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII a’r ail is-baragraff o bwynt III(3) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a rheoliad 11(2)

Marcio wyau a werthir gan gynhyrchydd i’r cwsmer terfynol mewn marchnad gyhoeddus leol.

Erthyglau 75(2) a (3) o Reoliad (EU) 2013

Erthygl 30(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008

Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad pan fo gwarantau digonol fod y rheolau a gymhwysir mewn perthynas â’r wyau hynny yn y drydedd wlad sydd dan sylw yn gyfwerth â deddfwriaeth UE.

Erthyglau 75(2) a (3) o Reoliad (EU) 2013

Erthyglau 11, 30(2) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008

Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad pan nad oes gwarantau digonol fod y rheolau a gymhwysir mewn perthynas â’r wyau hynny yn y drydedd wlad sydd dan sylw yn gyfwerth â deddfwriaeth UE.

b

yn y tabl yn Rhan 2 (darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) 589/2008)—

i

yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt II(1) o Ran A o Atodiad XIV, y mewnoliad cyntaf, i’r Rheoliad Sengl CMO”, rhodder “Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII, y mewnoliad cyntaf, i Reoliad (EU) 2013”, ac yn lle “Pwynt II(1) o Ran A of Atodiad XIV, yr ail fewnoliad, i’r Rheoliad Sengl CMO”, rhodder “Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail fewnoliad, i Reoliad (EU) 2013” ;

ii

yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt II(2) o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO” rhodder “Pwynt II(2) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;

iii

yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr ail is-baragraff, i’r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Pwynt III(2) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail is-baragraff, i Reoliad (EU) 2013”;

iv

mewn perthynas â’r cofnod ar gyfer Erthygl 30(3) yng ngholofn 2 hepgorer “pwynt IV(3) o Ran A o Atodiad XIV”;

9

Yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 3 (rheolaethau cymunedol ynglŷn ag wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta, mewn perthynas â Salmonella, y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd), yn lle “Erthyglau 113(3) a 116 o’r Rheoliad Sengl CMO a Rhan A o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “Erthygl 74 a Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.