- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Diwygir Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010(1) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1) (dehongli), ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003” mewnosoder—
“ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”.
(3) Yn rheoliad 3(3) (dehongli) yn lle “Rhan A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO” rhodder “Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.
(4) Yn rheoliad 3(5)(a) a (6)(a) (dehongli), ar ôl “Rheoliad Sengl CMO” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”.
(5) Yn rheoliad 8 (cymhwyso Rhan 3)—
(a)ym mharagraffau (1) a (2)(a), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a
(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO, i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran A o Atodiad XIV” rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013, i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran VI o Atodiad VII”.
(6) Yn rheoliad 11(1) a (2) (rhanddirymiadau sy’n ymwneud â marcio wyau), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.
(7) Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau UE ynglŷn ag wyau deor a chywion y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd)—
(a)yn y pennawd o dan “Rhan 1”, mewnosoder ar y diwedd “neu’r Rheoliad (EU) 2013”;
(b)ym mhenawdau colofnau 1 a 2, ar ôl “CMO” rhodder “neu’r Rheoliad (EU) 2013”;
(c)yng ngholofn 1, yn lle “Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf” rhodder “Erthygl 74 o Reoliad (EU) 2013”;
(d)yng ngholofn 1 ar ôl “Atodiad XIV”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “i’r Rheoliad Sengl CMO”.
(8) Yn Atodlen 2 (darpariaethau UE cyffredinol ynglŷn ag wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta, y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd)—
(a)yn lle Rhan 1 (darpariaethau’r Rheoliad Sengl CMO) rhodder—
Colofn 1 Y ddarpariaeth berthnasol o Reoliad (EU) 2013 | Colofn 2 Darpariaethau i’w darllen gyda darpariaethau Rheoliad (EU) 2013 a grybwyllir yng ngholofn 1 | Colofn 3 Y pwnc |
|---|---|---|
| Erthygl 74 i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyau | Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Gwaharddiad ar farchnata wyau ac eithrio yn unol â’r safonau marchnata a osodir yn Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008. |
| Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII | Erthygl 2(1) a (4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Graddio ansawdd wyau dosbarth A (neu ffres) neu wyau dosbarth B. |
| Pwynt II(2) o Ran VI o Atodiad VII | Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Graddio pwysau wyau dosbarth A. |
| Pwynt II(3) o Ran VI o Atodiad VII | Gwaharddiad ar gyflenwi wyau dosbarth B ac eithrio i’r diwydiant bwyd a diwydiant nad yw’n ddiwydiant bwyd. | |
| Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr is-baragraff cyntaf | Erthyglau 9(1) ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Marcio wyau dosbarth A. |
| Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail is-baragraff | Erthyglau 9, 10 ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, paragraffau (a) a (b) o’r ail is-baragraff o bwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a rheoliad 11(1) | Marcio wyau dosbarth B. |
| Pwynt III(2) o Ran VI o Atodiad VII | Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 | Y man lle caiff wyau eu marcio. |
| Pwynt III(3) o Ran VI o Atodiad VII, yr is-baragraff cyntaf | Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII a’r ail is-baragraff o bwynt III(3) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a rheoliad 11(2) | Marcio wyau a werthir gan gynhyrchydd i’r cwsmer terfynol mewn marchnad gyhoeddus leol. |
| Erthyglau 75(2) a (3) o Reoliad (EU) 2013 | Erthygl 30(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad pan fo gwarantau digonol fod y rheolau a gymhwysir mewn perthynas â’r wyau hynny yn y drydedd wlad sydd dan sylw yn gyfwerth â deddfwriaeth UE. |
| Erthyglau 75(2) a (3) o Reoliad (EU) 2013 | Erthyglau 11, 30(2) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 | Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad pan nad oes gwarantau digonol fod y rheolau a gymhwysir mewn perthynas â’r wyau hynny yn y drydedd wlad sydd dan sylw yn gyfwerth â deddfwriaeth UE.” |
(b)yn y tabl yn Rhan 2 (darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) 589/2008)—
(i)yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt II(1) o Ran A o Atodiad XIV, y mewnoliad cyntaf, i’r Rheoliad Sengl CMO”, rhodder “Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII, y mewnoliad cyntaf, i Reoliad (EU) 2013”, ac yn lle “Pwynt II(1) o Ran A of Atodiad XIV, yr ail fewnoliad, i’r Rheoliad Sengl CMO”, rhodder “Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail fewnoliad, i Reoliad (EU) 2013” ;
(ii)yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt II(2) o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO” rhodder “Pwynt II(2) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;
(iii)yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr ail is-baragraff, i’r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Pwynt III(2) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail is-baragraff, i Reoliad (EU) 2013”;
(iv)mewn perthynas â’r cofnod ar gyfer Erthygl 30(3) yng ngholofn 2 hepgorer “pwynt IV(3) o Ran A o Atodiad XIV”;
(9) Yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 3 (rheolaethau cymunedol ynglŷn ag wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta, mewn perthynas â Salmonella, y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd), yn lle “Erthyglau 113(3) a 116 o’r Rheoliad Sengl CMO a Rhan A o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “Erthygl 74 a Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: