Diwygio Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 20104

1

Diwygir Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 20106 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

a

hepgorer y diffiniad o “yr Atodiad” (“the Annex”);

b

yn y diffiniadau o “llaeth (“milk”) a “llaeth yfed” (“drinking milk”), yn lle “o’r Atodiad” rhodder “o Ran IV”.

c

ar ôl y diffiniad o “llaeth yfed” mewnosoder—

  • ystyr “Rhan IV” (“Part IV”) yw Rhan IV o Atodiad VII i Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

3

Yn rheoliad 2(2) (dehongli), ar ôl “Rheoliad y Cyngor”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “neu Ran IV”.

4

Hepgorer rheoliad 2(3) (dehongli).

5

Yn rheoliad 3 (gwerthu neu ddanfon llaeth a defnyddio disgrifiad gwerthu) yn lle “o’r Atodiad fel y’u darllenir ynghyd â phwynt III o’r Atodiad” rhodder “o Ran IV fel y’u darllenir ynghyd â phwynt III o Ran IV”.

6

Hepgorer rheoliad 4 (mewnforio cynhyrchion o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd i’w gwerthu fel llaeth yfed).

7

Yn rheoliad 5(3) (gorfodi), yn lle “neu’r Atodiad” rhodder “neu Ran IV”.

8

Yn rheoliad 6 (tramgwyddau a chosbau), hepgorer “neu 4”.