Diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 20113.

(1)

Diwygir Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 20115 fel a ganlyn.

(2)

Yn lle rheoliad 2(1)(c) (yr awdurdod cymwys) rhodder—

“(c)

Erthygl 78 o Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rhan I o Atodiad VII iddo, a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013, sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”.

(3)

Yn lle rheoliad 4(1)(c) (tramgwyddau o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd) rhodder—

“(c)

Y darpariaethau canlynol o Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd—

(i)

Erthygl 78 a pharagraff II o Ran I o Atodiad VII (dosbarthu yn y lladd-dy);

(ii)

Erthygl 78 a pharagraff III o Ran I o Atodiad VII (disgrifiadau gwerthu);

(iii)

Erthygl 78 a pharagraff IV o Ran I o Atodiad VII (gwybodaeth orfodol ar y label);

(iv)

Erthygl 78 a pharagraff V o Ran I o Atodiad VII (cofnodi).”.

(4)

Yn rheoliad 4(2) (gwybodaeth sy’n ofynnol mewn perthynas â chig heb ei ragbecynnu) yn lle “paragraff IV(2) o Atodiad X1a i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007” rhodder “pwynt IV(2) o Ran I o Atodiad VII i Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.