Diwygio Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 20112.

(1)

Diwygir Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 20114 fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2(1) (dehongli) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” (“Council Regulation”) ac ar ôl y diffiniad o “mochyn glân” (“clean pig”) mewnosoder y diffiniad canlynol—

“ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013, sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”

(3)

Yn rheoliad 2(3) (dehongli) hepgorer is-baragraff (b).

(4)

Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau Ewropeaidd: carcasau buchol)—

(a)

yng ngholofn (1) o’r tabl, yn lle “Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Rheoliad (EU) 2013”;

(b)

yng ngholofn 2 o’r tabl, yn lle “Atodiad V”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Atodiad IV”.

(5)

Yn y tabl yn Atodlen 2 (darpariaethau Ewropeaidd: carcasau moch)—

(a)

yng ngholofn (1), yn lle “Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Rheoliad (EU) 2013”;

(b)

yng ngholofn (2), yn lle “Atodiad V”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Atodiad IV”.