- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio nifer o Reoliadau o ganlyniad i Reoliad (EU) 2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013, sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007 (“Rheoliad (EU) 2013”). Mae Rheoliad (EU) 2013 yn diddymu (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a therfynol a bennir yn Erthygl 230) y Trefniant Cyffredin Sengl blaenorol ar gyfer marchnadoedd – Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ar 22 Hydref 2007 (“Rheoliad y Cyngor 2007”) a oedd yn sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer marchnadoedd amaethyddol ac yn ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig. Mae’r darpariaethau trosiannol a bennir yn Erthygl 230 yn darparu y bydd Erthyglau penodol o Reoliad y Cyngor 2007 yn parhau’n gymwys hyd nes daw rheolau marchnata cyfatebol a wneir o dan Reoliad (EU) 2013 (“rheolau marchnata cyfatebol”) i rym.
Diwygir y Rheoliadau canlynol—
(a)Diwygir Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011 i ddisodli cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor 2007 gan gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 2).
(b)Diwygir Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 i ddisodli cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor 2007 gan gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 3).
(c)Mae Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi Erthygl 114(2) o Reoliad y Cyngor 2007 (safonau marchnata ar gyfer llaeth a chynhyrchion llaeth). Mae Erthygl 230(1)(c) yn darparu y bydd Erthygl 114 yn parhau’n gymwys hyd nes daw’r rheolau marchnata cyfatebol i rym. Diwygir Rheoliadau 2010 i ddisodli’r cyfeiriad yn rheoliad 3 (gwerthu neu ddanfon llaeth a defnyddio disgrifiad gwerthu) at Atodiad XIII i Reoliad y Cyngor 2007, gan gyfeiriad at Ran IV o Atodiad VII (llaeth ar gyfer ei yfed gan bobl) i Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 4).
(d)Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi safonau marchnata UE mewn perthynas ag wyau deor, cywion dofednod ac wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta. Mae Erthygl 230(1)(c) yn darparu y bydd Erthygl 116 o Reoliad y Cyngor 2007 a rhannau penodol o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw yn parhau’n gymwys hyd nes daw’r rheolau marchnata cyfatebol i rym. Ac eithrio i’r graddau y mae Rheoliad y Cyngor 2007 yn gymwys, mae Rheoliad (EU) 2013 yn gymwys, a diwygir Rheoliadau 2010 i gyfeirio at y darpariaethau perthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 (rheoliad 5).
(e)Diwygir Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009 i ddisodli cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor 2007 gan gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 6).
(f)Diwygir Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2008 i ddisodli cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor 2007 gan gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 7).
(g)Mae Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi safonau marchnata mewn perthynas â chig dofednod. Bydd Erthygl 116 o Reoliad y Cyngor 2007 a rhannau penodol o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw’n parhau’n gymwys hyd nes daw’r rheolau marchnata cyfatebol i rym. Ac eithrio i’r graddau y mae Rheoliad y Cyngor 2007 yn gymwys, mae Rheoliad (EU) 2013 yn gymwys, a diwygir Rheoliadau 2011 i gyfeirio at y darpariaethau perthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 (rheoliad 8).
(h)Mae Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008 yn creu’r troseddau o fethu â chydymffurfio â darpariaethau yn Rheoliad y Cyngor 2007 mewn perthynas â safonau marchnata ar gyfer brasterau a disgrifiadau o laeth a chynhyrchion llaeth (Erthyglau 115 ac 114 yn eu trefn). Mae Erthygl 230(1)(c) o Reoliad (EU) 2013 yn darparu y bydd Erthyglau 114 a 115 o Reoliad y Cyngor 2007 a rhannau penodol o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw’n parhau’n gymwys hyd nes daw’r rheolau marchnata cyfatebol i rym. Ac eithrio i’r graddau y mae Rheoliad y Cyngor 2007 yn gymwys, mae Rheoliad (EU) 2013 yn gymwys, a diwygir Rheoliadau 2008 i gyfeirio at y darpariaethau perthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 (rheoliad 9).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid ystyriwyd bod angen gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: