Search Legislation

Rheoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 3270 (Cy. 320)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013

Gwnaed

27 Rhagfyr 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Rhagfyr 2013

Yn dod i rym

1 Ionawr 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(2), ac y maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd(3).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)yn dwyn yr enw Rheoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013;

(b)yn gymwys o ran Cymru; ac

(c)yn dod i rym ar 1 Ionawr 2014.

Diwygio Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011

2.—(1Diwygir Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011(4) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” (“Council Regulation”) ac ar ôl y diffiniad o “mochyn glân” (“clean pig”) mewnosoder y diffiniad canlynol—

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013, sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;

(3Yn rheoliad 2(3) (dehongli) hepgorer is-baragraff (b).

(4Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau Ewropeaidd: carcasau buchol)—

(a)yng ngholofn (1) o’r tabl, yn lle “Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Rheoliad (EU) 2013”;

(b)yng ngholofn 2 o’r tabl, yn lle “Atodiad V”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Atodiad IV”.

(5Yn y tabl yn Atodlen 2 (darpariaethau Ewropeaidd: carcasau moch)—

(a)yng ngholofn (1), yn lle “Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Rheoliad (EU) 2013”;

(b)yng ngholofn (2), yn lle “Atodiad V”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Atodiad IV”.

Diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011

3.—(1Diwygir Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011(5) fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 2(1)(c) (yr awdurdod cymwys) rhodder—

(c)Erthygl 78 o Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rhan I o Atodiad VII iddo, a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013, sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;.

(3Yn lle rheoliad 4(1)(c) (tramgwyddau o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd) rhodder—

(c)Y darpariaethau canlynol o Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd—

(i)Erthygl 78 a pharagraff II o Ran I o Atodiad VII (dosbarthu yn y lladd-dy);

(ii)Erthygl 78 a pharagraff III o Ran I o Atodiad VII (disgrifiadau gwerthu);

(iii)Erthygl 78 a pharagraff IV o Ran I o Atodiad VII (gwybodaeth orfodol ar y label);

(iv)Erthygl 78 a pharagraff V o Ran I o Atodiad VII (cofnodi)..

(4Yn rheoliad 4(2) (gwybodaeth sy’n ofynnol mewn perthynas â chig heb ei ragbecynnu) yn lle “paragraff IV(2) o Atodiad X1a i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007” rhodder “pwynt IV(2) o Ran I o Atodiad VII i Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

Diwygio Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010

4.—(1Diwygir Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010(6) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “yr Atodiad” (“the Annex”);

(b)yn y diffiniadau o “llaeth (“milk”) a “llaeth yfed” (“drinking milk”), yn lle “o’r Atodiad” rhodder “o Ran IV”.

(c)ar ôl y diffiniad o “llaeth yfed” mewnosoder—

ystyr “Rhan IV” (“Part IV”) yw Rhan IV o Atodiad VII i Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd..

(3Yn rheoliad 2(2) (dehongli), ar ôl “Rheoliad y Cyngor”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “neu Ran IV”.

(4Hepgorer rheoliad 2(3) (dehongli).

(5Yn rheoliad 3 (gwerthu neu ddanfon llaeth a defnyddio disgrifiad gwerthu) yn lle “o’r Atodiad fel y’u darllenir ynghyd â phwynt III o’r Atodiad” rhodder “o Ran IV fel y’u darllenir ynghyd â phwynt III o Ran IV”.

(6Hepgorer rheoliad 4 (mewnforio cynhyrchion o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd i’w gwerthu fel llaeth yfed).

(7Yn rheoliad 5(3) (gorfodi), yn lle “neu’r Atodiad” rhodder “neu Ran IV”.

(8Yn rheoliad 6 (tramgwyddau a chosbau), hepgorer “neu 4”.

Diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010

5.—(1Diwygir Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010(7) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1) (dehongli), ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003” mewnosoder—

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;.

(3Yn rheoliad 3(3) (dehongli) yn lle “Rhan A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO” rhodder “Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.

(4Yn rheoliad 3(5)(a) a (6)(a) (dehongli), ar ôl “Rheoliad Sengl CMO” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”.

(5Yn rheoliad 8 (cymhwyso Rhan 3)—

(a)ym mharagraffau (1) a (2)(a), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO, i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran A o Atodiad XIV” rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013, i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran VI o Atodiad VII”.

(6Yn rheoliad 11(1) a (2) (rhanddirymiadau sy’n ymwneud â marcio wyau), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.

(7Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau UE ynglŷn ag wyau deor a chywion y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd)—

(a)yn y pennawd o dan “Rhan 1”, mewnosoder ar y diwedd “neu’r Rheoliad (EU) 2013”;

(b)ym mhenawdau colofnau 1 a 2, ar ôl “CMO” rhodder “neu’r Rheoliad (EU) 2013”;

(c)yng ngholofn 1, yn lle “Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf” rhodder “Erthygl 74 o Reoliad (EU) 2013”;

(d)yng ngholofn 1 ar ôl “Atodiad XIV”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “i’r Rheoliad Sengl CMO”.

(8Yn Atodlen 2 (darpariaethau UE cyffredinol ynglŷn ag wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta, y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd)—

(a)yn lle Rhan 1 (darpariaethau’r Rheoliad Sengl CMO) rhodder—

PART 1DARPARIAETHAU RHEOLIAD (EU) 2013

Colofn 1

Y ddarpariaeth berthnasol o Reoliad (EU) 2013

Colofn 2

Darpariaethau i’w darllen gyda darpariaethau Rheoliad (EU) 2013 a grybwyllir yng ngholofn 1

Colofn 3

Y pwnc

Erthygl 74 i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyauRhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Gwaharddiad ar farchnata wyau ac eithrio yn unol â’r safonau marchnata a osodir yn Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008.
Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VIIErthygl 2(1) a (4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Graddio ansawdd wyau dosbarth A (neu ffres) neu wyau dosbarth B.
Pwynt II(2) o Ran VI o Atodiad VIIErthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Graddio pwysau wyau dosbarth A.
Pwynt II(3) o Ran VI o Atodiad VIIGwaharddiad ar gyflenwi wyau dosbarth B ac eithrio i’r diwydiant bwyd a diwydiant nad yw’n ddiwydiant bwyd.
Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr is-baragraff cyntafErthyglau 9(1) ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Marcio wyau dosbarth A.
Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail is-baragraffErthyglau 9, 10 ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, paragraffau (a) a (b) o’r ail is-baragraff o bwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a rheoliad 11(1)Marcio wyau dosbarth B.
Pwynt III(2) o Ran VI o Atodiad VIIPwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013Y man lle caiff wyau eu marcio.
Pwynt III(3) o Ran VI o Atodiad VII, yr is-baragraff cyntafPwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII a’r ail is-baragraff o bwynt III(3) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a rheoliad 11(2)Marcio wyau a werthir gan gynhyrchydd i’r cwsmer terfynol mewn marchnad gyhoeddus leol.
Erthyglau 75(2) a (3) o Reoliad (EU) 2013Erthygl 30(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad pan fo gwarantau digonol fod y rheolau a gymhwysir mewn perthynas â’r wyau hynny yn y drydedd wlad sydd dan sylw yn gyfwerth â deddfwriaeth UE.
Erthyglau 75(2) a (3) o Reoliad (EU) 2013Erthyglau 11, 30(2) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad pan nad oes gwarantau digonol fod y rheolau a gymhwysir mewn perthynas â’r wyau hynny yn y drydedd wlad sydd dan sylw yn gyfwerth â deddfwriaeth UE.

(b)yn y tabl yn Rhan 2 (darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) 589/2008)—

(i)yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt II(1) o Ran A o Atodiad XIV, y mewnoliad cyntaf, i’r Rheoliad Sengl CMO”, rhodder “Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII, y mewnoliad cyntaf, i Reoliad (EU) 2013”, ac yn lle “Pwynt II(1) o Ran A of Atodiad XIV, yr ail fewnoliad, i’r Rheoliad Sengl CMO”, rhodder “Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail fewnoliad, i Reoliad (EU) 2013” ;

(ii)yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt II(2) o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO” rhodder “Pwynt II(2) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;

(iii)yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr ail is-baragraff, i’r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Pwynt III(2) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail is-baragraff, i Reoliad (EU) 2013”;

(iv)mewn perthynas â’r cofnod ar gyfer Erthygl 30(3) yng ngholofn 2 hepgorer “pwynt IV(3) o Ran A o Atodiad XIV”;

(9Yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 3 (rheolaethau cymunedol ynglŷn ag wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta, mewn perthynas â Salmonella, y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd), yn lle “Erthyglau 113(3) a 116 o’r Rheoliad Sengl CMO a Rhan A o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “Erthygl 74 a Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.

Diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009

6.—(1Diwygir Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009(8) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(2) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “rheolau marchnata’r UE” (“EU marketing rules”), yn lle “i Reoliad y Cyngor 1234/2007, ac sy’n cynnwys y rheolau sy’n ymwneud â’r safonau hynny a geir yn Erthyglau 113 ac 113a o Reoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “i Reoliad (EU) 2013, ac sy’n cynnwys y rheolau sy’n ymwneud â’r safonau hynny a geir yn Erthyglau 74, 75 a 76 o Reoliad (EU) 2013”;

(b)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor 1234/2007” (“Council Regulation 1234/2007”);

(c)yn y diffiniad o “safon farchnata gyffredinol” (“general marketing standard”) yn lle “Erthygl 113a(1) o Reoliad 1234/2007” rhodder “Erthygl 76(1) o Reoliad (EU) 2013”;

(d)yn y diffiniad o “cynnyrch garddwriaethol” (“horticultural produce”), yn lle “Reoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “Reoliad (EU) 2013”;

(e)ar ôl y diffiniad o “rheolau marchnata’r UE” (“EU marketing rules”) mewnosoder y diffiniad canlynol—

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;;

(f)yn y diffiniad o “safonau marchnata penodol” (“specific marketing standards”) yn lle “Erthygl 113(1)(b) o Reoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “Erthygl 75(1)(b) o Reoliad (EU) 2013”.

(3Yn rheoliad 2(3) (dehongli), yn lle “Rheoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “Rheoliad (EU) 2013”.

Diwygio Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008

7.—(1Diwygir Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008(9) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yn lle “Erthygl 102(1) o Reoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 26(1) o Reoliad (EU) 2013”;

(b)yn y diffiniad o “cymorth gwladol” (“national aid”) yn lle “Erthygl 102(2) o Reoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 217 o Reoliad (EU) 2013”;

(c)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”);

(d)ar ôl y diffiniad o “y rheolau Cymunedol” (“the Community rules”) mewnosoder y diffiniad canlynol—

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;.

Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011

8.—(1Diwygir Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011(10) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3) (cymhwyso’r Rheoliadau i gig dofednod)—

(a)yn lle “ym mhwynt I(1) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “ym mhwynt I o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a

(b)yn lle “o’r Rhan honno o’r Atodiad hwnnw i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl”.

(3Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn y diffiniad o “darpariaeth cig dofednod Ewropeaidd” (“European poultrymeat provision”), ar ôl “Rheoliad CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”;

(ii)yn lle’r diffiniad o “cig dofednod” (“poultrymeat”) rhodder—

mae i “cig dofednod” (“poultrymeat”) yr ystyr a roddir i “poultrymeat” gan bwynt II(1) o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013;; a

(iii)ar ôl y diffiniad o “y Rheoliad CMO Sengl” (“Single CMO Regulation”) mewnosoder y diffiniad canlynol—

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;; a

(b)ym mharagraff (3), ar ôl “Rheoliad CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”.

(4Yn rheoliad 12 (pwerau swyddog awdurdodedig), yn lle “i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “i Reoliad (EU) 2013”.

(5Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau cig dofednod Ewropeaidd – hysbysiadau cydymffurfio)—

(a)yn y pennawd o dan “Rhan 1”, ar ôl “CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”;

(b)yn lle pennawd colofn 1, rhodder “Darpariaeth berthnasol o’r Rheoliad CMO Sengl neu Reoliad (EU) 2013”;

(c)ym mhennawd colofn 2, ar ôl “Rheoliad CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”;

(d)yng ngholofn 1 o’r tabl, yn lle “Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf” rhodder “Erthygl 74 o Reoliad (EU) 2013”;

(e)yng ngholofn 2 o’r tabl, yn lle “Erthygl 116 o’r Rheoliad CMO Sengl a Rhan B o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “Erthygl 116 a Rhan B(I)(2) a (3) a (III)(1) o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a Rhan V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;

(f)yng ngholofn 3 o’r tabl, yn lle “Rhan B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “Rhan B(I)(2) a (3) a (III)(1) o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a Rhan V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;

(g)yng ngholofn 1 o’r tabl, ar ôl “Pwynt III(1) o Ran B o Atodiad XIV” mewnosoder “i’r Rheoliad CMO Sengl”;

(h)yng ngholofn 1 o’r tabl, yn lle “Pwynt III(2) o Ran B o Atodiad XIV” rhodder “Pwynt III o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; ac

(i)yng ngholofn 2 o’r tabl yn lle “o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.

(6Yn Rhan 2 o Atodlen 1 (darpariaethau Rheoliad y Comisiwn)—

(a)yng ngholofn 2 yn lle “Pwyntiau III(1) a (2) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “Pwynt III(1) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a phwynt III o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a

(b)yn lle “Pwynt II(3) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “Pwynt II(3) o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.

Diwygio Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008

9.—(1Diwygir Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008(11) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)Ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “manwerthu” (“sell by retail”), mewnosoder—

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;

(b)ym mharagraff (2) ar ôl “Rheoliad y Cyngor”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”.

(3Yn rheoliad 6(2) (tramgwyddau a chosb am dorri unrhyw ddarpariaeth UE)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “gydag Atodiad XII i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “gyda Rhan III o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;

(b)yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder “(i) pwyntiau 1, 3, 5 a 6 o Ran II a phwynt 2 o Ran IV o Atodiad XV i Reoliad y Cyngor”;

(c)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder “(ba) Erthyglau 75(1)(h) a 78(1) a (2) o Reoliad (EU) 2013 (diffiniadau, dynodiadau a disgrifiadau gwerthu sy’n gymwys i frasterau taenadwy) fel y’u darllenir gyda Rhan VII o Atodiad VII i’r Rheoliad hwnnw”.

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

27 Rhagfyr 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio nifer o Reoliadau o ganlyniad i Reoliad (EU) 2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013, sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007 (“Rheoliad (EU) 2013”). Mae Rheoliad (EU) 2013 yn diddymu (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a therfynol a bennir yn Erthygl 230) y Trefniant Cyffredin Sengl blaenorol ar gyfer marchnadoedd – Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ar 22 Hydref 2007 (“Rheoliad y Cyngor 2007”) a oedd yn sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer marchnadoedd amaethyddol ac yn ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig. Mae’r darpariaethau trosiannol a bennir yn Erthygl 230 yn darparu y bydd Erthyglau penodol o Reoliad y Cyngor 2007 yn parhau’n gymwys hyd nes daw rheolau marchnata cyfatebol a wneir o dan Reoliad (EU) 2013 (“rheolau marchnata cyfatebol”) i rym.

Diwygir y Rheoliadau canlynol—

(a)Diwygir Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011 i ddisodli cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor 2007 gan gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 2).

(b)Diwygir Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 i ddisodli cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor 2007 gan gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 3).

(c)Mae Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi Erthygl 114(2) o Reoliad y Cyngor 2007 (safonau marchnata ar gyfer llaeth a chynhyrchion llaeth). Mae Erthygl 230(1)(c) yn darparu y bydd Erthygl 114 yn parhau’n gymwys hyd nes daw’r rheolau marchnata cyfatebol i rym. Diwygir Rheoliadau 2010 i ddisodli’r cyfeiriad yn rheoliad 3 (gwerthu neu ddanfon llaeth a defnyddio disgrifiad gwerthu) at Atodiad XIII i Reoliad y Cyngor 2007, gan gyfeiriad at Ran IV o Atodiad VII (llaeth ar gyfer ei yfed gan bobl) i Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 4).

(d)Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi safonau marchnata UE mewn perthynas ag wyau deor, cywion dofednod ac wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta. Mae Erthygl 230(1)(c) yn darparu y bydd Erthygl 116 o Reoliad y Cyngor 2007 a rhannau penodol o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw yn parhau’n gymwys hyd nes daw’r rheolau marchnata cyfatebol i rym. Ac eithrio i’r graddau y mae Rheoliad y Cyngor 2007 yn gymwys, mae Rheoliad (EU) 2013 yn gymwys, a diwygir Rheoliadau 2010 i gyfeirio at y darpariaethau perthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 (rheoliad 5).

(e)Diwygir Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009 i ddisodli cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor 2007 gan gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 6).

(f)Diwygir Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2008 i ddisodli cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor 2007 gan gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 7).

(g)Mae Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi safonau marchnata mewn perthynas â chig dofednod. Bydd Erthygl 116 o Reoliad y Cyngor 2007 a rhannau penodol o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw’n parhau’n gymwys hyd nes daw’r rheolau marchnata cyfatebol i rym. Ac eithrio i’r graddau y mae Rheoliad y Cyngor 2007 yn gymwys, mae Rheoliad (EU) 2013 yn gymwys, a diwygir Rheoliadau 2011 i gyfeirio at y darpariaethau perthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 (rheoliad 8).

(h)Mae Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008 yn creu’r troseddau o fethu â chydymffurfio â darpariaethau yn Rheoliad y Cyngor 2007 mewn perthynas â safonau marchnata ar gyfer brasterau a disgrifiadau o laeth a chynhyrchion llaeth (Erthyglau 115 ac 114 yn eu trefn). Mae Erthygl 230(1)(c) o Reoliad (EU) 2013 yn darparu y bydd Erthyglau 114 a 115 o Reoliad y Cyngor 2007 a rhannau penodol o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw’n parhau’n gymwys hyd nes daw’r rheolau marchnata cyfatebol i rym. Ac eithrio i’r graddau y mae Rheoliad y Cyngor 2007 yn gymwys, mae Rheoliad (EU) 2013 yn gymwys, a diwygir Rheoliadau 2008 i gyfeirio at y darpariaethau perthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 (rheoliad 9).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid ystyriwyd bod angen gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

(3)

O.J. L 347, 20.12.2013. t.671.

(9)

O.S. 2008/2141 (Cy.190), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2009/108 (Cy. 21)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources